Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galatiaid 1:1-24

Galatiaid 1:1-24 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Llythyr gan Paul, cynrychiolydd personol i’r Meseia Iesu. Dim pobl ddewisodd fi i fod yn gynrychiolydd i’r Meseia, a dim rhyw ddyn cyffredin anfonodd fi, ond y Meseia Iesu ei hun, a Duw y Tad, yr un gododd e yn ôl yn fyw. Mae’r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion. Atoch chi, yr eglwysi yn nhalaith Galatia: Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Gwnaeth Iesu yn union beth oedd ein Duw a’n Tad eisiau! Rhoddodd ei fywyd yn aberth dros ein pechodau ni, er mwyn ein rhyddhau ni o afael yr oes bresennol a’i drygioni. Dyma’r Duw sy’n haeddu ei foli am byth bythoedd! Amen! Dw i’n ei chael hi’n anodd credu eich bod chi’n troi cefn ar Dduw mor fuan! Troi cefn ar yr un sydd wedi’ch galw chi ato’i hun drwy haelioni’r Meseia – a derbyn rhyw syniadau eraill sy’n honni bod yn ‘newyddion da’. Ond does yna ddim newyddion da arall yn bod! Rhyw bobl sy’n eich drysu chi drwy ystumio’r newyddion da am y Meseia a’i wneud yn rhywbeth arall. Melltith Duw ar bwy bynnag sy’n cyhoeddi neges wahanol i’r un wnaethon ni ei rhannu gyda chi! Petaen ni’n hunain yn gwneud y fath beth, neu hyd yn oed angel o’r nefoedd, melltith Duw arno! Dw i wedi dweud o’r blaen a dw i’n dweud yr un peth eto: Os oes rhywun yn cyhoeddi neges wahanol i’r un wnaethoch chi ei chredu, melltith Duw arno! Felly, ydw i’n swnio nawr fel rhywun sydd eisiau cael ei ganmol gan bobl? Onid ceisio plesio Duw ydw i? Ydw i eisiau bod yn boblogaidd? Taswn i’n dal yn ceisio plesio pobl, fyddwn i ddim yn was i’r Meseia. Frodyr a chwiorydd, dw i eisiau i chi ddeall yn iawn mai dim rhywbeth wnaeth pobl ei ddychmygu ydy’r newyddion da yma dw i’n ei gyhoeddi. Dim clywed y neges gan rywun arall wnes i, a wnaeth neb arall ei dysgu hi i mi; na, y Meseia Iesu ei hun ddangosodd i mi beth oedd y gwir. Mae’n siŵr eich bod chi wedi clywed beth roeddwn i’n ei wneud pan o’n i’n dilyn y grefydd Iddewig: roeddwn i’n erlid Cristnogion fel ffanatig, ac yn ceisio dinistrio eglwys Dduw. Rôn i’n cymryd crefydd gymaint o ddifri, ac ymhell ar y blaen i eraill oedd yr un oed â mi. Rôn i ar dân dros ein traddodiadau Iddewig ni. Ond roedd Duw wedi fy newis i cyn i mi gael fy ngeni, a buodd e’n anhygoel o garedig tuag ata i drwy fy ngalw i’w ddilyn. Gwelodd yn dda i ddangos ei Fab i mi, er mwyn i mi fynd allan i gyhoeddi’r newyddion da amdano i bobl o genhedloedd eraill! Wnes i ddim mynd i ofyn cyngor unrhyw un, na mynd i Jerwsalem i weld y rhai oedd yn gynrychiolwyr i Iesu o mlaen i chwaith. Na, es i’n syth i Arabia, ac wedyn mynd yn ôl i Damascus. Aeth tair blynedd heibio cyn i mi fynd i Jerwsalem i dreulio amser gyda Pedr, a dim ond am bythefnos arhosais i yno. Welais i ddim un o’r cynrychiolwyr eraill, dim ond Iago, brawd yr Arglwydd. Dyna’r gwir – o flaen Duw, heb air o gelwydd! Ar ôl hynny dyma fi’n mynd i Syria a Cilicia. Doedd Cristnogion eglwysi Jwdea ddim yn fy nabod i’n bersonol, ond roedden nhw wedi clywed pobl yn dweud: “Mae’r dyn oedd yn ein herlid ni wedi dod i gredu! Mae’n cyhoeddi’r newyddion da roedd e’n ceisio ei ddinistrio o’r blaen!” Roedden nhw’n moli Duw am beth oedd wedi digwydd i mi.

Galatiaid 1:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Paul, apostol—nid o benodiad dynol, na chwaith trwy awdurdod neb dynol, ond trwy awdurdod Iesu Grist a Duw Dad, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw—Paul, a'r credinwyr oll sydd gyda mi, at eglwysi Galatia. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist, yr hwn a'i rhoes ei hun dros ein pechodau ni, i'n gwaredu ni o'r oes ddrwg bresennol, yn ôl ewyllys Duw ein Tad, i'r hwn y bo'r gogoniant byth bythoedd! Amen. Yr wyf yn synnu eich bod yn cefnu mor fuan ar yr hwn a'ch galwodd chwi trwy ras Crist, ac yn troi at efengyl wahanol. Nid ei bod yn efengyl arall mewn gwirionedd, ond bod rhywrai, yn eu hawydd i wyrdroi Efengyl Crist, yn aflonyddu arnoch. Ond petai rhywun, ni ein hunain hyd yn oed, neu angel o'r nef, yn pregethu i chwi efengyl sy'n groes i'r Efengyl a bregethasom ichwi, melltith arno! Fel yr ydym wedi dweud o'r blaen, felly yr wyf yn dweud eto yn awr: os oes rhywun yn pregethu efengyl i chwi sy'n groes i'r Efengyl a dderbyniasoch, melltith arno! Pwy yr wyf am ei gael o'm plaid yn awr, ai dynion, ai Duw? Ai ceisio plesio dynion yr wyf? Pe bawn â'm bryd o hyd ar blesio dynion, nid gwas i Grist fyddwn. Yr wyf am roi ar ddeall i chwi, gyfeillion, am yr Efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad rhywbeth dynol mohoni. Oherwydd nid ei derbyn fel traddodiad dynol a wneuthum, na chael fy nysgu ynddi chwaith; trwy ddatguddiad Iesu Grist y cefais hi. Oherwydd fe glywsoch am fy ymarweddiad gynt yn y grefydd Iddewig, imi fod yn erlid eglwys Dduw i'r eithaf ac yn ceisio'i difrodi hi, ac imi gael y blaen, fel crefyddwr Iddewig, ar gyfoedion lawer yn fy nghenedl, gan gymaint mwy fy sêl dros draddodiadau fy hynafiaid. Ond dyma Dduw, a'm neilltuodd o groth fy mam ac a'm galwodd trwy ei ras, yn dewis datguddio ei Fab ynof fi, er mwyn i mi ei bregethu ymhlith y Cenhedloedd; ac ar unwaith, heb ymgynghori â neb dynol, a heb fynd i fyny i Jerwsalem chwaith at y rhai oedd yn apostolion o'm blaen i, euthum i ffwrdd i Arabia, ac yna dychwelyd i Ddamascus. Wedyn, ar ôl tair blynedd, mi euthum i fyny i Jerwsalem i ymgydnabyddu â Ceffas, ac arhosais gydag ef am bythefnos. Ni welais neb arall o'r apostolion, ar wahân i Iago, brawd yr Arglwydd. Gerbron Duw, nid celwydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch. Wedyn euthum i diriogaethau Syria a Cilicia. Nid oedd gan y cynulleidfaoedd sydd yng Nghrist yn Jwdea ddim adnabyddiaeth bersonol ohonof, dim ond eu bod yn clywed rhai'n dweud, “Y mae ein herlidiwr gynt yn awr yn pregethu'r ffydd yr oedd yn ceisio'i difrodi o'r blaen.” Ac yr oeddent yn gogoneddu Duw o'm hachos i.

Galatiaid 1:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Paul, apostol, (nid o ddynion, na thrwy ddyn, eithr trwy Iesu Grist, a Duw Dad, yr hwn a’i cyfododd ef o feirw;) A’r brodyr oll y rhai sydd gyda mi, at eglwysi Galatia: Gras fyddo i chwi a heddwch oddi wrth Dduw Dad, a’n Harglwydd Iesu Grist; Yr hwn a’i rhoddes ei hun dros ein pechodau, fel y’n gwaredai ni oddi wrth y byd drwg presennol, yn ôl ewyllys Duw a’n Tad ni: I’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Y mae yn rhyfedd gennyf eich symud mor fuan oddi wrth yr hwn a’ch galwodd i ras Crist, at efengyl arall: Yr hon nid yw arall; ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwennych datroi efengyl Crist. Eithr pe byddai i ni, neu i angel o’r nef, efengylu i chwi amgen na’r hyn a efengylasom i chwi, bydded anathema. Megis y rhagddywedasom, felly yr ydwyf yr awron drachefn yn dywedyd, Os efengyla neb i chwi amgen na’r hyn a dderbyniasoch, bydded anathema. Canys yr awron ai peri credu dynion yr wyf, ynteu Duw? neu a ydwyf fi yn ceisio rhyngu bodd dynion? canys pe rhyngwn fodd dynion eto, ni byddwn was i Grist. Eithr yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad yw hi ddynol. Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y’m dysgwyd; eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist. Canys chwi a glywsoch fy ymarweddiad i gynt yn y grefydd Iddewig, i mi allan o fesur erlid eglwys Dduw, a’i hanrheithio hi; Ac i mi gynyddu yn y grefydd Iddewig yn fwy na llawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl fy hun, gan fod yn fwy awyddus i draddodiadau fy nhadau. Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a’m neilltuodd i o groth fy mam, ac a’m galwodd i trwy ei ras, I ddatguddio ei Fab ef ynof fi, fel y pregethwn ef ymhlith y cenhedloedd; yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed: Ac nid euthum yn fy ôl i Jerwsalem at y rhai oedd o’m blaen i yn apostolion; ond mi a euthum i Arabia, a thrachefn y dychwelais i Ddamascus. Yna ar ôl tair blynedd y deuthum yn fy ôl i Jerwsalem i ymweled â Phedr; ac a arhosais gydag ef bymtheng niwrnod. Eithr neb arall o’r apostolion nis gwelais, ond Iago brawd yr Arglwydd. A’r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, wele, gerbron Duw, nad wyf yn dywedyd celwydd. Wedi hynny y deuthum i wledydd Syria a Cilicia; Ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb yn eglwysi Jwdea y rhai oedd yng Nghrist: Ond yn unig hwy a glywsent, fod yr hwn oedd gynt yn ein herlid ni, yr awron yn pregethu’r ffydd, yr hon gynt a anrheithiasai. A hwy a ogoneddasant Dduw ynof fi.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd