Galatiaid 1:1-10
Galatiaid 1:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Llythyr gan Paul, cynrychiolydd personol i’r Meseia Iesu. Dim pobl ddewisodd fi i fod yn gynrychiolydd i’r Meseia, a dim rhyw ddyn cyffredin anfonodd fi, ond y Meseia Iesu ei hun, a Duw y Tad, yr un gododd e yn ôl yn fyw. Mae’r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion. Atoch chi, yr eglwysi yn nhalaith Galatia: Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Gwnaeth Iesu yn union beth oedd ein Duw a’n Tad eisiau! Rhoddodd ei fywyd yn aberth dros ein pechodau ni, er mwyn ein rhyddhau ni o afael yr oes bresennol a’i drygioni. Dyma’r Duw sy’n haeddu ei foli am byth bythoedd! Amen! Dw i’n ei chael hi’n anodd credu eich bod chi’n troi cefn ar Dduw mor fuan! Troi cefn ar yr un sydd wedi’ch galw chi ato’i hun drwy haelioni’r Meseia – a derbyn rhyw syniadau eraill sy’n honni bod yn ‘newyddion da’. Ond does yna ddim newyddion da arall yn bod! Rhyw bobl sy’n eich drysu chi drwy ystumio’r newyddion da am y Meseia a’i wneud yn rhywbeth arall. Melltith Duw ar bwy bynnag sy’n cyhoeddi neges wahanol i’r un wnaethon ni ei rhannu gyda chi! Petaen ni’n hunain yn gwneud y fath beth, neu hyd yn oed angel o’r nefoedd, melltith Duw arno! Dw i wedi dweud o’r blaen a dw i’n dweud yr un peth eto: Os oes rhywun yn cyhoeddi neges wahanol i’r un wnaethoch chi ei chredu, melltith Duw arno! Felly, ydw i’n swnio nawr fel rhywun sydd eisiau cael ei ganmol gan bobl? Onid ceisio plesio Duw ydw i? Ydw i eisiau bod yn boblogaidd? Taswn i’n dal yn ceisio plesio pobl, fyddwn i ddim yn was i’r Meseia.
Galatiaid 1:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paul, apostol—nid o benodiad dynol, na chwaith trwy awdurdod neb dynol, ond trwy awdurdod Iesu Grist a Duw Dad, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw—Paul, a'r credinwyr oll sydd gyda mi, at eglwysi Galatia. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist, yr hwn a'i rhoes ei hun dros ein pechodau ni, i'n gwaredu ni o'r oes ddrwg bresennol, yn ôl ewyllys Duw ein Tad, i'r hwn y bo'r gogoniant byth bythoedd! Amen. Yr wyf yn synnu eich bod yn cefnu mor fuan ar yr hwn a'ch galwodd chwi trwy ras Crist, ac yn troi at efengyl wahanol. Nid ei bod yn efengyl arall mewn gwirionedd, ond bod rhywrai, yn eu hawydd i wyrdroi Efengyl Crist, yn aflonyddu arnoch. Ond petai rhywun, ni ein hunain hyd yn oed, neu angel o'r nef, yn pregethu i chwi efengyl sy'n groes i'r Efengyl a bregethasom ichwi, melltith arno! Fel yr ydym wedi dweud o'r blaen, felly yr wyf yn dweud eto yn awr: os oes rhywun yn pregethu efengyl i chwi sy'n groes i'r Efengyl a dderbyniasoch, melltith arno! Pwy yr wyf am ei gael o'm plaid yn awr, ai dynion, ai Duw? Ai ceisio plesio dynion yr wyf? Pe bawn â'm bryd o hyd ar blesio dynion, nid gwas i Grist fyddwn.
Galatiaid 1:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Paul, apostol, (nid o ddynion, na thrwy ddyn, eithr trwy Iesu Grist, a Duw Dad, yr hwn a’i cyfododd ef o feirw;) A’r brodyr oll y rhai sydd gyda mi, at eglwysi Galatia: Gras fyddo i chwi a heddwch oddi wrth Dduw Dad, a’n Harglwydd Iesu Grist; Yr hwn a’i rhoddes ei hun dros ein pechodau, fel y’n gwaredai ni oddi wrth y byd drwg presennol, yn ôl ewyllys Duw a’n Tad ni: I’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Y mae yn rhyfedd gennyf eich symud mor fuan oddi wrth yr hwn a’ch galwodd i ras Crist, at efengyl arall: Yr hon nid yw arall; ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwennych datroi efengyl Crist. Eithr pe byddai i ni, neu i angel o’r nef, efengylu i chwi amgen na’r hyn a efengylasom i chwi, bydded anathema. Megis y rhagddywedasom, felly yr ydwyf yr awron drachefn yn dywedyd, Os efengyla neb i chwi amgen na’r hyn a dderbyniasoch, bydded anathema. Canys yr awron ai peri credu dynion yr wyf, ynteu Duw? neu a ydwyf fi yn ceisio rhyngu bodd dynion? canys pe rhyngwn fodd dynion eto, ni byddwn was i Grist.