Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 37:1-28

Eseciel 37:1-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i, a dyma’i Ysbryd yn mynd â fi i ffwrdd ac yn fy ngosod yng nghanol dyffryn llydan. Roedd y dyffryn yn llawn o esgyrn. Gwnaeth i mi gerdded o gwmpas drwy’i canol nhw, yn ôl ac ymlaen. Roedden nhw ym mhobman! Esgyrn sychion ar lawr y dyffryn i gyd. Yna gofynnodd i mi, “Ddyn, oes gobaith i’r esgyrn yma ddod yn ôl yn fyw eto?” A dyma fi’n ateb, “Meistr, ARGLWYDD, dim ond ti sy’n gwybod hynny.” Yna dyma fe’n gofyn i mi broffwydo dros yr esgyrn, a dweud wrthyn nhw: “Esgyrn sychion, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD. Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i’n mynd i roi anadl ynoch chi, a dod â chi yn ôl yn fyw. Dw i’n mynd i roi cnawd arnoch chi, gewynnau a chyhyrau, a rhoi croen amdanoch chi. Wedyn bydda i’n rhoi anadl ynoch chi, a byddwch chi’n dod yn ôl yn fyw. Byddwch chi’n gwybod wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.’” Felly, dyma fi’n proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i. Ac wrth i mi wneud hynny dyma fi’n clywed sŵn ratlo, a dyma’r esgyrn yn dod at ei gilydd, pob un yn ôl i’w le. Wrth i mi edrych dyma fi’n gweld gewynnau a chyhyrau’n dod arnyn nhw, a chroen yn ffurfio amdanyn nhw, ond doedd dim anadl ynddyn nhw. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Proffwyda i’r anadl ddod. Ddyn, proffwyda a dweud, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Tyrd anadl, o’r pedwar gwynt. Anadla ar y cyrff yma, iddyn nhw ddod yn ôl yn fyw.’” Felly, dyma fi’n proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i a dyma nhw’n dechrau anadlu. Roedden nhw’n fyw! A dyma nhw’n sefyll ar eu traed, yn un fyddin enfawr. Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, pobl Israel ydy’r esgyrn yma. Maen nhw’n dweud, ‘Does dim gobaith! – dŷn ni wedi’n taflu i ffwrdd, fel esgyrn sychion.’ Ond dw i eisiau i ti broffwydo a dweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i’n mynd i agor eich beddau, a dod â chi allan yn fyw! O fy mhobl, dw i’n mynd i’ch arwain chi yn ôl i wlad Israel! Pan fydda i’n agor eich beddau a dod â chi allan, byddwch chi’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD. Dw i’n mynd i anadlu fy Ysbryd fy hun i mewn i chi, a byddwch yn byw. Dw i’n mynd i’ch setlo chi i lawr yn ôl yn eich gwlad eich hunain, a byddwch chi’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD. Mae beth dw i’n ddweud yn mynd i ddigwydd,’” meddai’r ARGLWYDD. Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: “Ddyn, dw i eisiau i ti gymryd ffon, ac ysgrifennu arni, ‘Jwda a holl bobl Israel sydd gydag e.’ Yna cymer ffon arall, ac ysgrifennu arni hi, ‘ffon Joseff, sef Effraim, a holl bobl Israel sydd gydag e.’ Dal nhw gyda’i gilydd yn dy law, fel un ffon. Yna pan fydd dy bobl yn gofyn, ‘Wyt ti am esbonio i ni beth rwyt ti’n wneud?’ Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i’n mynd i gymryd y ffon sy’n cynrychioli Joseff a’r llwythau sydd gydag e, a’i chysylltu hi gyda ffon Jwda. Byddan nhw’n un ffon yn fy llaw i.’ Dal y ffyn rwyt ti wedi ysgrifennu arnyn nhw o’u blaenau, a dweud fel yma, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i’n mynd i gasglu pobl Israel o’r gwledydd lle’r aethon nhw. Dw i’n mynd i’w casglu nhw o’r gwledydd hynny, a dod â nhw adre i’w gwlad eu hunain. Dw i’n mynd i’w gwneud nhw’n un genedl eto, ar fynyddoedd Israel. Un brenin fydd ganddyn nhw, a fyddan nhw byth eto wedi’u rhannu’n ddwy wlad ar wahân. Fyddan nhw ddim yn llygru eu hunain yn addoli eu heilunod ffiaidd, nac yn gwrthryfela yn fy erbyn i. Dw i’n mynd i’w hachub nhw er eu bod nhw wedi troi oddi wrtho i a phechu. Dw i’n mynd i’w glanhau nhw. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw. Fy ngwas Dafydd fydd yn frenin arnyn nhw. Yr un bugail fydd ganddyn nhw i gyd. Byddan nhw’n ufudd i mi, ac yn gwneud beth sy’n iawn. “‘Byddan nhw’n byw ar y tir rois i i’m gwas Jacob, lle roedd eu hynafiaid yn byw. Byddan nhw’n cael byw yno, a’u plant, a’u disgynyddion am byth. Fy ngwas Dafydd fydd eu pennaeth nhw am byth. Bydda i’n gwneud ymrwymiad i roi heddwch iddyn nhw – ymrwymiad fydd yn para am byth. Bydda i’n eu setlo nhw yn y tir, yn gwneud i’r boblogaeth dyfu eto, a gosod y deml yn eu canol nhw am byth. Bydda i’n byw gyda nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i. Pan fydd fy nheml yn eu canol nhw am byth, bydd y cenhedloedd yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi cysegru Israel i mi fy hun.’”

Eseciel 37:1-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf, ac aeth â mi allan trwy ysbryd yr ARGLWYDD a'm gosod yng nghanol dyffryn a oedd yn llawn esgyrn. Aeth â mi'n ôl a blaen o'u hamgylch, a gwelais lawer iawn o esgyrn ar lawr y dyffryn, ac yr oeddent yn sychion iawn. Gofynnodd imi, “Fab dyn, a all yr esgyrn hyn fyw?” Atebais innau, “O Arglwydd DDUW, ti sy'n gwybod.” Dywedodd wrthyf, “Proffwyda wrth yr esgyrn hyn a dywed wrthynt, ‘Esgyrn sychion, clywch air yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth yr esgyrn hyn: Wele, fe roddaf fi anadl ynoch, a byddwch fyw. Rhoddaf ewynnau arnoch, paraf i gnawd ddod arnoch a rhoddaf groen drosoch; rhoddaf anadl ynoch, a byddwch fyw. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ” Proffwydais fel y gorchmynnwyd imi. Ac fel yr oeddwn yn proffwydo daeth sŵn, a hefyd gynnwrf, a daeth yr esgyrn ynghyd, asgwrn at asgwrn. Edrychais, ac yr oedd gewynnau arnynt, a chnawd hefyd, ac yr oedd croen drostynt, ond nid oedd anadl ynddynt. Yna dywedodd wrthyf, “Proffwyda wrth yr anadl; proffwyda, fab dyn, a dywed wrth yr anadl, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: O anadl, tyrd o'r pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, iddynt fyw.’ ” Proffwydais fel y gorchmynnwyd imi, a daeth anadl iddynt ac aethant yn fyw, a chodi ar eu traed yn fyddin gref iawn. Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, holl dŷ Israel yw'r esgyrn hyn. Y maent yn dweud, ‘Aeth ein hesgyrn yn sychion, darfu am ein gobaith, ac fe'n torrwyd ymaith.’ Felly, proffwyda wrthynt a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: O fy mhobl, yr wyf am agor eich beddau a'ch codi ohonynt, ac fe af â chwi'n ôl i dir Israel. Yna, byddwch chwi fy mhobl yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan agoraf eich beddau a'ch codi ohonynt. Rhoddaf fy ysbryd ynoch, a byddwch fyw, ac fe'ch gosodaf yn eich gwlad eich hunain. Yna byddwch yn gwybod mai myfi'r ARGLWYDD a lefarodd, ac mai myfi a'i gwnaeth, medd yr ARGLWYDD.’ ” Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Fab dyn, cymer ffon ac ysgrifenna arni, ‘I Jwda ac i'r Israeliaid sydd mewn cysylltiad ag ef’; yna cymer ffon arall ac ysgrifenna arni, ‘Ffon Effraim: i Joseff a holl dŷ Israel sydd mewn cysylltiad ag ef.’ Una hwy â'i gilydd yn un ffon, fel y dônt yn un yn dy law. Pan ddywed dy bobl, ‘Oni ddywedi wrthym beth yw ystyr hyn?’ ateb hwy, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Byddaf yn cymryd ffon Joseff, sydd yn nwylo Effraim, a llwythau Israel mewn cysylltiad ag ef, ac yn uno â hi ffon Jwda, ac yn eu gwneud yn un ffon, fel y byddant yn un yn fy llaw.’ Dal y ffyn yr ysgrifennaist arnynt yn dy law o'u blaenau, a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi'n cymryd yr Israeliaid o blith y cenhedloedd lle'r aethant; fe'u casglaf o bob man, a mynd â hwy i'w gwlad eu hunain. Gwnaf hwy'n un genedl yn y wlad, ar fynyddoedd Israel, a bydd un brenin drostynt i gyd; ni fyddant byth eto'n ddwy genedl, ac ni rennir hwy mwyach yn ddwy deyrnas. Ni fyddant yn eu halogi eu hunain eto â'u heilunod, eu pethau atgas a'u holl droseddau, oherwydd byddaf yn eu gwaredu o'u holl wrthgilio, a fu'n ddrygioni ynddynt, ac fe'u glanhaf; byddant hwy'n bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy. “ ‘Fy ngwas Dafydd a fydd yn frenin arnynt, a bydd un bugail drostynt i gyd. Byddant yn dilyn fy nghyfreithiau ac yn gofalu cadw fy neddfau. Byddant yn byw yn y wlad a roddais i'm gwas Jacob, y wlad lle bu'ch hynafiaid yn byw; byddant hwy a'u plant a phlant eu plant yn byw yno am byth, a bydd fy ngwas Dafydd yn dywysog iddynt am byth. Gwnaf gyfamod heddwch â hwy, ac fe fydd yn gyfamod tragwyddol; sefydlaf hwy, a'u lluosogi, a gosodaf fy nghysegr yn eu mysg am byth. Bydd fy nhrigfan gyda hwy; a byddaf fi'n Dduw iddynt, a hwythau'n bobl i mi. Yna, pan fydd fy nghysegr yn eu mysg am byth, bydd y cenhedloedd yn gwybod mai myfi, yr ARGLWYDD, sy'n sancteiddio Israel.’ ”

Eseciel 37:1-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Bu llaw yr ARGLWYDD arnaf, ac a’m dug allan yn ysbryd yr ARGLWYDD, ac a’m gosododd yng nghanol dyffryn, a hwnnw oedd yn llawn esgyrn. Ac efe a wnaeth i mi fyned heibio iddynt o amgylch ogylch: ac wele hwynt yn aml iawn ar wyneb y dyffryn; wele hefyd, sychion iawn oeddynt. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, a fydd byw yr esgyrn hyn? A mi a ddywedais, O Arglwydd DDUW, ti a’i gwyddost. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Proffwyda am yr esgyrn hyn, a dywed wrthynt, O esgyrn sychion, clywch air yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW wrth yr esgyrn hyn; Wele fi yn dwyn anadl i’ch mewn, fel y byddoch byw. Giau hefyd a roddaf arnoch, a pharaf i gig gyfodi arnoch, gwisgaf chwi hefyd â chroen, a rhoddaf anadl ynoch: fel y byddoch byw, ac y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD. Yna y proffwydais fel y’m gorchmynasid; ac fel yr oeddwn yn proffwydo, bu sŵn, ac wele gynnwrf, a’r esgyrn a ddaethant ynghyd, asgwrn at ei asgwrn. A phan edrychais, wele, cyfodasai giau a chig arnynt, a gwisgasai croen amdanynt; ond nid oedd anadl ynddynt. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Proffwyda tua’r gwynt, proffwyda, fab dyn, a dywed wrth y gwynt. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; O anadl, tyred oddi wrth y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, fel y byddont byw. Felly y proffwydais fel y’m gorchmynasid; a’r anadl a ddaeth ynddynt, a buant fyw, a safasant ar eu traed, yn llu mawr iawn. Yna y dywedodd wrthyf, Ha fab dyn, yr esgyrn hyn ydynt dŷ Israel oll: wele, dywedant, Ein hesgyrn a wywasant, a’n gobaith a gollodd; torrwyd ni ymaith o’n rhan ni. Am hynny proffwyda, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn agori eich beddau, fy mhobl, codaf chwi hefyd o’ch beddau, a dygaf chwi i dir Israel. A chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan agorwyf eich beddau, a phan gyfodwyf chwi i fyny o’ch beddau, fy mhobl; Ac y rhoddwyf fy ysbryd ynoch, ac y byddoch byw, ac y gosodwyf chwi yn eich tir eich hun: yna y cewch wybod mai myfi yr ARGLWYDD a leferais, ac a wneuthum hyn, medd yr ARGLWYDD. A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Tithau fab dyn, cymer i ti un pren, ac ysgrifenna arno, I Jwda, ac i feibion Israel ei gyfeillion. A chymer i ti bren arall, ac ysgrifenna arno, I Joseff, pren Effraim, ac i holl dŷ Israel ei gyfeillion: A chydia hwynt y naill wrth y llall yn un pren i ti; fel y byddont yn un yn dy law di. A phan lefaro meibion dy bobl wrthyt, gan ddywedyd, Oni fynegi i ni beth yw hyn gennyt? Dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn cymryd pren Joseff, yr hwn sydd yn llaw Effraim, a llwythau Israel ei gyfeillion, a mi a’u rhoddaf hwynt gydag ef, sef gyda phren Jwda, ac a’u gwnaf hwynt yn un pren, fel y byddont yn fy llaw yn un. A bydded yn dy law, o flaen eu llygaid hwynt, y prennau yr ysgrifennych arnynt; A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn cymryd meibion Israel o fysg y cenhedloedd yr aethant atynt, ac mi a’u casglaf hwynt o amgylch, ac a’u dygaf hwynt i’w tir eu hun; A gwnaf hwynt yn un genedl o fewn y tir ym mynyddoedd Israel, ac un brenin fydd yn frenin iddynt oll: ni byddant hefyd mwy yn ddwy genedl, ac ni rennir hwynt mwyach yn ddwy frenhiniaeth: Ac ni ymhalogant mwy wrth eu heilunod, na thrwy eu ffieidd-dra, nac yn eu holl anwireddau: eithr cadwaf hwynt o’u holl drigfaon, y rhai y pechasant ynddynt, a mi a’u glanhaf hwynt; fel y byddont yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwythau. A’m gwas Dafydd fydd frenin arnynt; ie, un bugail fydd iddynt oll: yn fy marnedigaethau hefyd y rhodiant, a’m deddfau a gadwant ac a wnânt. Trigant hefyd yn y tir a roddais i’m gwas Jacob, yr hwn y trigodd eich tadau ynddo; a hwy a drigant ynddo, hwy a’u meibion, a meibion eu meibion byth; a Dafydd fy ngwas fydd dywysog iddynt yn dragywydd. Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod hedd; amod tragwyddol a fydd â hwynt: a gosodaf hwynt, ac a’u hamlhaf, a rhoddaf fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd. A’m tabernacl fydd gyda hwynt; ie, myfi a fyddaf iddynt yn DDUW, a hwythau a fyddant i mi yn bobl. A’r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yr ARGLWYDD sydd yn sancteiddio Israel; gan fod fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd.