Eseciel 34:4-5
Eseciel 34:4-5 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dych chi ddim wedi helpu’r rhai gwan, gwella y rhai sy’n sâl na rhwymo briwiau y rhai sydd wedi’u hanafu. Dych chi ddim wedi edrych am y rhai sydd wedi crwydro a mynd ar goll. Na, yn lle hynny, dych chi wedi’u rheoli nhw a’u bygwth fel meistri creulon. Bellach maen nhw ar chwâl am fod dim bugail wedi gofalu amdanyn nhw. Maen nhw’n cael eu llarpio gan anifeiliaid gwyllt.
Eseciel 34:4-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid ydych wedi cryfhau'r ddafad wan na gwella'r glaf na rhwymo'r ddolurus; ni ddaethoch â'r grwydredig yn ôl, na chwilio am y golledig; buoch yn eu rheoli'n galed ac yn greulon. Fe'u gwasgarwyd am eu bod heb fugail, ac yna aethant yn fwyd i'r holl anifeiliaid gwylltion.
Eseciel 34:4-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ni chryfhasoch y rhai llesg, ac ni feddyginiaethasoch y glaf, ni rwymasoch y ddrylliedig chwaith, a’r gyfeiliornus ni ddygasoch adref, a’r golledig ni cheisiasoch; eithr llywodraethasoch hwynt â thrais ac â chreulondeb. A hwy a wasgarwyd o eisiau bugail: a buant yn ymborth i holl fwystfilod y maes, pan wasgarwyd hwynt.