Eseciel 3:20
Eseciel 3:20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ar y llaw arall, os ydy rhywun sydd fel arfer yn gwneud beth sy’n iawn yn newid ei ffyrdd ac yn dechrau gwneud pethau drwg, bydda i’n achosi i rywbeth ddigwydd fydd yn gwneud i’r person hwnnw syrthio. Bydd e’n marw. Os na fyddi di wedi’i rybuddio bydd e’n marw am ei fod wedi pechu. Fydd y pethau da wnaeth e o’r blaen ddim yn cyfrif. A bydda i’n dy ddal di’n gyfrifol am beth fydd yn digwydd.
Eseciel 3:20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os bydd un cyfiawn yn troi oddi wrth gyfiawnder ac yn gwneud drwg, a minnau wedi rhoi rhwystr o'i flaen, bydd farw; am na rybuddiaist ef, bydd farw am ei gamwedd, ac ni chofir y pethau cyfiawn a wnaeth; ond byddaf yn dy ddal di yn gyfrifol am ei waed.
Eseciel 3:20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Hefyd pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur camwedd, a rhoddi ohonof dramgwydd o’i flaen ef, efe fydd farw: am na rybuddiaist ef, am ei bechod y bydd efe farw, a’i gyfiawnder yr hwn a wnaeth efe ni chofir; ond ei waed ef a ofynnaf ar dy law di.