Eseciel 28:12-19
Eseciel 28:12-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl brenin Tyrus. Dwed wrtho, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Roeddet ti’n batrwm o berffeithrwydd! Mor ddoeth, ac yn rhyfeddol o hardd! Roeddet ti’n byw yn Eden, gardd Duw. Roeddet wedi dy addurno gyda gemau gwerthfawr – rhuddem, topas, emrallt, saffir melyn, onics, iasbis, saffir, glasfaen, a beryl. Roedd y cwbl wedi’u gosod yn gywrain mewn aur pur, ac wedi’u cyflwyno i ti ar y diwrnod cest ti dy greu. Rôn i wedi dy osod yno, gydag angel gwarcheidiol â’i adenydd ar led, ar y mynydd wnaeth Duw ei gysegru. Roeddet yn cerdded yng nghanol y gemau o dân. O’r diwrnod y cest dy greu roeddet ti’n ymddwyn yn berffaith … ond yna cest dy ddal yn pechu. Roedd yr holl fasnachu wedi dy droi yn dreisiol. Dyma ti’n pechu; dyma fi’n dy yrru i ffwrdd o fynydd Duw. Roedd yr angel gwarcheidiol yn dy gadw draw o’r gemau o dân. Roeddet wedi troi’n falch am dy fod mor hardd. Camddefnyddio dy ddoethineb am dy fod mor llawn ohonot dy hun. A dyna pam wnes i dy fwrw i lawr, a gwneud sioe ohonot ti o flaen brenhinoedd eraill. Roeddet wedi dinistrio dy leoedd cysegredig o achos dy holl ddrygioni a’r twyllo wrth fasnachu. Felly gwnes i dân gynnau y tu mewn i ti, a dy ddifa di. Llosgaist yn dwr o ludw o flaen pawb. Roedd pawb oedd yn dy nabod mewn sioc, am fod dy ddiwedd wedi bod mor erchyll.’”
Eseciel 28:12-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Fab dyn, cod alarnad am frenin Tyrus a dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr oeddit yn esiampl o berffeithrwydd, yn llawn doethineb, a pherffaith dy brydferthwch. Yr oeddit yn Eden, gardd Duw, a phob carreg werthfawr yn d'addurno— rhuddem, topas ac emrallt, eurfaen, onyx a iasbis, saffir, glasfaen a beryl, ac yr oedd dy fframiau a'th gerfiadau i gyd yn aur; ar ddydd dy eni y paratowyd hwy. Fe'th osodais gyda cherwb gwarcheidiol wedi ei eneinio; yr oeddit ar fynydd sanctaidd Duw, ac yn cerdded ymysg y cerrig tanllyd. Yr oeddit yn berffaith yn dy ffyrdd o ddydd dy eni, nes darganfod drygioni ynot. Fel yr amlhaodd dy fasnach fe'th lanwyd â thrais, ac fe bechaist. Felly fe'th fwriais allan fel peth aflan o fynydd Duw, ac esgymunodd y cerwb gwarcheidiol di o fysg y cerrig tanllyd. Ymfalchïodd dy galon yn dy brydferthwch, a halogaist dy ddoethineb er mwyn d'ogoniant; lluchiais di i'r llawr, a'th adael i'r brenhinoedd edrych arnat. Trwy dy droseddau aml, ac anghyfiawnder dy fasnach, fe halogaist dy gysegrleoedd; felly gwneuthum i dân ddod allan ohonot a'th ysu, a'th wneud yn lludw ar y ddaear yng ngŵydd pawb oedd yn edrych. Y mae pob un ymhlith y bobloedd sy'n d'adnabod wedi ei syfrdanu; aethost yn ddychryn, ac ni cheir mohonot mwyach.’ ”
Eseciel 28:12-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cyfod, fab dyn, alarnad am frenin Tyrus, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Ti seliwr nifer, llawn o ddoethineb, a chyflawn o degwch, Ti a fuost yn Eden, gardd DUW: pob maen gwerthfawr a’th orchuddiai, sardius, topas, ac adamant, beryl, onics, a iasbis, saffir, rubi, a smaragdus, ac aur: gwaith dy dympanau a’th bibellau a baratowyd ynot ar y dydd y’th grewyd. Ceriwb eneiniog ydwyt yn gorchuddio; ac felly y’th roddaswn; oeddit ar sanctaidd fynydd DUW: ymrodiaist yng nghanol y cerrig tanllyd. Perffaith oeddit ti yn dy ffyrdd er y dydd y’th grewyd, hyd oni chaed ynot anwiredd. Yn amlder dy farchnadaeth y llanwasant dy ganol â thrais, a thi a bechaist: am hynny y’th halogaf allan o fynydd DUW, ac y’th ddifethaf di, geriwb yn gorchuddio, o ganol y cerrig tanllyd. Balchïodd dy galon yn dy degwch, llygraist dy ddoethineb oherwydd dy loywder: bwriaf di i’r llawr; o flaen brenhinoedd y’th osodaf, fel yr edrychont arnat. Trwy amlder dy anwiredd, ag anwiredd dy farchnadaeth, yr halogaist dy gysegroedd: am hynny y dygaf dân allan o’th ganol, hwnnw a’th ysa; a gwnaf di yn lludw ar y ddaear yng ngolwg pawb a’th welant. Y rhai a’th adwaenant oll ymysg y bobloedd, a synnant o’th achos: dychryn fyddi, ac ni byddi byth.