Eseciel 2:2-10
Eseciel 2:2-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma ysbryd yn dod i mewn i mi a gwneud i mi sefyll ar fy nhraed. A dyma’r llais oedd yn siarad â mi yn dweud: “Ddyn, dw i’n dy anfon di at bobl Israel. Maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i – nhw a’u hynafiaid hefyd. Maen nhw’n bobl benstiff ac ystyfnig. Rwyt i ddweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud.’ Os byddan nhw’n gwrando neu beidio – wedi’r cwbl maen nhw’n griw o rebeliaid – byddan nhw o leia’n gwybod fod proffwyd wedi bod gyda nhw. “Ond paid dychryn pan fyddan nhw’n dy fygwth di. Bydd fel cael mieri a drain o dy gwmpas di ym mhobman, neu eistedd yng nghanol sgorpionau – ond paid ti bod ag ofn wrth iddyn nhw fygwth ac edrych yn gas arnat ti. Dwed di wrthyn nhw beth ydy’r neges gen i, os ydyn nhw am wrando neu beidio. Maen nhw’n griw anufudd. Gwna di’n siŵr dy fod ti’n gwrando arna i. Paid ti â thynnu’n groes. Agor dy geg a bwyta’r hyn dw i’n ei roi i ti.” A dyna pryd gwelais i law wedi’i hestyn allan ata i. Roedd y llaw yn dal sgrôl. Dyma’r sgrôl yn cael ei hagor o mlaen i. Roedd ysgrifen ar y ddwy ochr – a’r teitl oedd “Caneuon o alar, tristwch a gwae”.
Eseciel 2:2-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac fel yr oedd yn siarad â mi, daeth yr ysbryd arnaf a'm codi ar fy nhraed, a gwrandewais arno'n siarad â mi. Dywedodd wrthyf, “Fab dyn, yr wyf yn dy anfon at blant Israel, at y genedl o wrthryfelwyr sydd wedi gwrthryfela yn fy erbyn; y maent hwy a'u hynafiaid wedi troseddu yn fy erbyn hyd y dydd heddiw. At blant wynebgaled ac ystyfnig yr wyf yn dy anfon, ac fe ddywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW.’ Prun bynnag a wrandawant ai peidio—oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt—fe fyddant yn gwybod fod proffwyd yn eu mysg. A thithau, fab dyn, paid â'u hofni hwy nac ofni eu geiriau, er eu bod yn gwrthryfela yn dy erbyn ac yn gwrthgilio, a thithau yn eistedd ar sgorpionau; paid ag ofni eu geiriau nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt. Ond llefara di fy ngeiriau wrthynt, p'run bynnag a wrandawant ai peidio, oherwydd gwrthryfelwyr ydynt. “Yn awr, fab dyn, gwrando ar yr hyn a ddywedaf wrthyt, a phaid â gwrthryfela fel y tylwyth gwrthryfelgar hwn; agor dy geg a bwyta'r hyn yr wyf yn ei roi iti.” Ac fel yr oeddwn yn edrych, gwelais law wedi ei hestyn tuag ataf gyda sgrôl ynddi. Datododd y sgrôl o'm blaen, ac yr oedd ysgrifen ar ei hwyneb a'i chefn; yn ysgrifenedig arni yr oedd galarnadau, cwynfan a gwae.
Eseciel 2:2-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ysbryd a aeth ynof, pan lefarodd efe wrthyf, ac a’m gosododd ar fy nhraed, fel y clywais yr hwn a lefarodd wrthyf. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, yr ydwyf fi yn dy ddanfon di at feibion Israel, at genedl wrthryfelgar, y rhai a wrthryfelasant i’m herbyn; hwynt-hwy a’u tadau a droseddasant i’m herbyn, hyd gorff y dydd hwn. Meibion wyneb-galed hefyd a chadarn galon yr wyf fi yn dy ddanfon atynt: dywed dithau wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW. A pha un bynnag a wnelont ai gwrando, ai peidio, (canys tŷ gwrthryfelgar ydynt,) eto cânt wybod fod proffwyd yn eu mysg hwynt. Tithau fab dyn, nac ofna rhagddynt, ac na arswyda er eu geiriau hwynt, er bod gwrthryfelwyr a drain gyda thi, a thithau yn trigo ymysg ysgorpionau: nac ofna rhag eu geiriau hwynt, ac na ddychryna gan eu hwynebau hwynt, er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt. Eto llefara di fy ngeiriau wrthynt, pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio; canys gwrthryfelgar ydynt. Tithau fab dyn, gwrando yr hyn yr ydwyf fi yn ei lefaru wrthyt, Na fydd di wrthryfelgar fel y tŷ gwrthryfelgar hwn: lleda dy safn, a bwyta yr hyn yr ydwyf fi yn ei roddi i ti. Yna yr edrychais, ac wele law wedi ei hanfon ataf, ac wele ynddi blyg llyfr. Ac efe a’i dadblygodd o’m blaen i: ac yr oedd efe wedi ei ysgrifennu wyneb a chefn; ac yr oedd wedi ysgrifennu arno, galar, a griddfan, a gwae.