Eseciel 16:8
Eseciel 16:8 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“‘Yna dyma fi’n dod heibio eto a gweld dy fod yn ddigon hen i gael rhyw. Dyma fi’n estyn ymyl fy mantell dros dy gorff noeth di. Dyma fi’n addo bod yn ffyddlon i ti, ac yn dy briodi di. Fy ngwraig i oeddet ti,’” meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD.
Rhanna
Darllen Eseciel 16Eseciel 16:8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“ ‘Deuthum heibio iti drachefn a sylwi arnat, a gweld dy fod yn barod am gariad; taenais gwr fy mantell drosot a chuddio dy noethni. Tynghedais fy hun iti, a gwneud cyfamod â thi, medd yr Arglwydd DDUW, a daethost yn eiddo imi.
Rhanna
Darllen Eseciel 16Eseciel 16:8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan euthum heibio i ti, ac edrych arnat, wele dy amser yn amser serchowgrwydd: yna lledais fy adain drosot, a chuddiais dy noethni: tyngais hefyd i ti, ac euthum mewn cyfamod â thi, medd yr ARGLWYDD DDUW, a thi a aethost yn eiddof fi.
Rhanna
Darllen Eseciel 16