Eseciel 1:26-28
Eseciel 1:26-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Uwchben y llwyfan roedd rhywbeth oedd yn edrych fel gorsedd wedi’i gwneud o saffir. Wedyn ar yr orsedd roedd ffigwr oedd yn edrych fel person dynol. O’i ganol i fyny roedd yn edrych fel tân yn llosgi mewn ffwrnais fetel, ac o’i ganol i lawr fel fflamau tân. Roedd golau llachar yn disgleirio o’i gwmpas. Roedd mor hardd â’r enfys yn y cymylau ar ôl iddi lawio. Dyma fi’n sylweddoli mai ysblander yr ARGLWYDD ei hun oedd e, felly dyma fi’n mynd ar fy wyneb ar lawr. A dyma fi’n clywed llais yn siarad â mi.
Eseciel 1:26-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Uwchben y ffurfafen oedd dros eu pennau yr oedd rhywbeth tebyg i faen saffir ar ffurf gorsedd, ac yn uchel i fyny ar yr orsedd ffurf oedd yn edrych yn ddynol. O'r hyn a edrychai fel ei lwynau i fyny, gwelwn ef yn debyg i belydrau o bres, yn debyg i dân wedi ei gau mewn ffwrnais; ac o'r hyn a edrychai fel ei lwynau i lawr, gwelwn ef yn debyg i dân gyda disgleirdeb o'i amgylch. Yr oedd y disgleirdeb o'i amgylch yn debyg i enfys mewn cwmwl ar ddiwrnod glawog; yr oedd yn edrych fel ffurf ar ogoniant yr ARGLWYDD. Wedi imi weld, syrthiais ar fy wyneb, a chlywais lais yn siarad
Eseciel 1:26-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt, yr oedd cyffelybrwydd gorseddfainc, fel gwelediad maen saffir; ac ar gyffelybrwydd yr orseddfainc yr oedd oddi arnodd arno ef gyffelybrwydd megis gwelediad dyn. Gwelais hefyd megis lliw ambr, fel gwelediad tân o’i fewn o amgylch: o welediad ei lwynau ac uchod, ac o welediad ei lwynau ac isod, y gwelais megis gwelediad tân, a disgleirdeb iddo oddi amgylch. Fel gwelediad y bwa a fydd yn y cwmwl ar ddydd glawog, fel hyn yr oedd gwelediad y disgleirdeb o amgylch. Dyma welediad cyffelybrwydd gogoniant yr ARGLWYDD. A phan welais, syrthiais ar fy wyneb, a chlywais lais un yn llefaru.