Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 1:1-28

Eseciel 1:1-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Pan oeddwn i’n dri deg oed, roeddwn i’n byw wrth Gamlas Cebar yn Babilon gyda’r bobl oedd wedi cael eu caethgludo yno o Jwda. Ar y pumed diwrnod o’r pedwerydd mis roedd fel petai’r nefoedd wedi agor, a Duw yn rhoi gweledigaethau i mi. (Roedd hyn bum mlynedd ar ôl i’r brenin Jehoiachin gael ei gymryd yn gaeth i Babilon.) Offeiriad ydw i, Eseciel fab Bwsi, a dyma’r ARGLWYDD yn rhoi neges i mi pan oeddwn i wrth Gamlas Cebar yng ngwlad Babilon. Roedd yr ARGLWYDD wedi fy nghyffwrdd i yno! Wrth i mi edrych, rôn i’n gweld storm yn dod o’r gogledd. Roedd cwmwl anferth, a mellt yn fflachio, a golau llachar o’i gwmpas. Roedd ei ganol yn llachar fel tân mewn ffwrnais fetel. Yna o’i ganol dyma bedwar ffigwr yn dod i’r golwg. Roedden nhw’n edrych fel creaduriaid byw. Roedden nhw yr un siâp a phobl, ond roedd gan bob un bedwar wyneb a phedair adain. Roedden nhw’n sefyll i fyny’n syth fel pobl, ond carnau llo oedd eu traed. Ac roedden nhw’n gloywi fel pres wedi’i sgleinio. Roedd ganddyn nhw freichiau a dwylo dynol o dan eu hadenydd, ac roedd eu hadenydd nhw’n cyffwrdd ei gilydd. Am fod ganddyn nhw bedwar wyneb, doedden nhw ddim yn troi, dim ond symud yn syth yn eu blaenau i ba gyfeiriad bynnag roedden nhw’n mynd. Roedd gan bob un ohonyn nhw un wyneb dynol, wedyn wyneb llew ar yr ochr dde, wyneb tarw ar y chwith, a wyneb eryr ar y cefn. Roedden nhw’n dal eu hadenydd ar led – roedd dwy aden gan bob un yn cyffwrdd adenydd y creaduriaid oedd bob ochr iddyn nhw, a’r ddwy aden arall yn gorchuddio’u cyrff. Roedden nhw’n mynd ble bynnag roedd yr ysbryd am fynd – yn syth yn eu blaenau, heb droi o gwbl. Yn eu canol roedd rhywbeth oedd yn edrych fel marwor yn llosgi, ac roedd y tân fel ffaglau yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng y creaduriaid byw. Roedd yn llosgi’n danbaid ac roedd gwreichion yn saethu allan ohono i bob cyfeiriad, ac roedd y creaduriaid byw eu hunain yn symud yn ôl ac ymlaen fel fflachiadau mellt. Wedyn sylwais fod olwyn ar lawr wrth ymyl pob un o’r pedwar creadur. Roedd yr olwynion yn sgleinio fel meini saffir. Roedd pob olwyn yr un fath, gydag olwyn arall tu mewn iddyn nhw ar ongl sgwâr. Felly pan oedden nhw’n symud roedden nhw’n gallu mynd i unrhyw un o’r pedwar cyfeiriad heb orfod troi. Roedd ymylon yr olwynion yn anferth, wedi’u gorchuddio gyda llygaid. Pan oedd y creaduriaid byw yn symud, roedd yr olwynion wrth eu hymyl nhw’n symud. Pan oedd y creaduriaid yn codi oddi ar y ddaear, roedd yr olwynion yn codi hefyd. Roedd y creaduriaid yn mynd ble bynnag roedd yr ysbryd am fynd, ac roedd yr olwynion yn codi gyda nhw am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion hefyd. Roedd yr olwynion yn symud ac yn stopio ac yn codi gyda’r creaduriaid am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion. Uwchben y creaduriaid byw roedd rhywbeth oedd yn edrych yn debyg i lwyfan oedd yn sgleinio fel grisial. Roedd wedi’i ledu fel cromen uwch eu pennau. Dyna lle roedd y creaduriaid byw, o dan y llwyfan yma, gyda’u hadenydd yn ymestyn allan at ei gilydd. Roedd gan bob un ohonyn nhw ddwy aden yn gorchuddio ei gorff hefyd. Pan oedd y creaduriaid yn hedfan, roeddwn i’n clywed sŵn eu hadenydd nhw – sŵn tebyg i raeadr, neu lais y Duw mawr sy’n rheoli popeth, neu fyddin enfawr yn martsio. Wedyn pan oedden nhw’n stopio roedden nhw’n rhoi eu hadenydd i lawr. Dyma nhw’n stopio, a chlywais lais yn dod o’r llwyfan oedd uwch eu pennau. Uwchben y llwyfan roedd rhywbeth oedd yn edrych fel gorsedd wedi’i gwneud o saffir. Wedyn ar yr orsedd roedd ffigwr oedd yn edrych fel person dynol. O’i ganol i fyny roedd yn edrych fel tân yn llosgi mewn ffwrnais fetel, ac o’i ganol i lawr fel fflamau tân. Roedd golau llachar yn disgleirio o’i gwmpas. Roedd mor hardd â’r enfys yn y cymylau ar ôl iddi lawio. Dyma fi’n sylweddoli mai ysblander yr ARGLWYDD ei hun oedd e, felly dyma fi’n mynd ar fy wyneb ar lawr. A dyma fi’n clywed llais yn siarad â mi.

Eseciel 1:1-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ar y pumed dydd o'r pedwerydd mis yn y ddegfed flwyddyn ar hugain, a minnau ymysg y caethgludion wrth afon Chebar, agorwyd y nefoedd a chefais weledigaethau o Dduw. Ar y pumed dydd o'r mis ym mhumed flwyddyn caethgludiad y Brenin Jehoiachin, daeth gair yr ARGLWYDD at yr offeiriad Eseciel fab Busi yn Caldea, wrth afon Chebar; ac yno daeth llaw yr ARGLWYDD arno. Wrth imi edrych, gwelais wynt tymhestlog yn dod o'r gogledd, a chwmwl mawr a thân yn tasgu a disgleirdeb o'i amgylch, ac o ganol y tân rywbeth tebyg i belydrau pres. Ac o'i ganol daeth ffurf pedwar creadur, a'u hymddangosiad fel hyn: yr oeddent ar ddull dynol, gyda phedwar wyneb a phedair adain i bob un ohonynt; yr oedd eu coesau yn syth, a gwadnau eu traed fel gwadnau llo, ac yr oeddent yn disgleirio fel efydd gloyw. Yr oedd ganddynt ddwylo dynol o dan bob un o'u pedair adain; yr oedd gan y pedwar wynebau ac adenydd, ac yr oedd eu hadenydd yn cyffwrdd â'i gilydd. Nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth gerdded, ond fe âi pob un yn syth yn ei flaen. Yr oedd ffurf eu hwynebau fel hyn: yr oedd gan y pedwar ohonynt wyneb dynol, yna wyneb llew ar yr ochr dde, ac wyneb ych ar yr ochr chwith, ac wyneb eryr. Yr oedd eu hadenydd wedi eu lledu uwchben, gyda dwy i bob creadur yn cyffwrdd â rhai'r agosaf ato, a dwy yn cuddio ei gorff. Yr oedd pob un yn cerdded yn syth yn ei flaen i ble bynnag yr oedd yr ysbryd yn mynd; nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth gerdded. Ac ymhlith y creaduriaid yr oedd rhywbeth a edrychai fel marwor tân yn llosgi, neu fel ffaglau yn symud ymysg y creaduriaid; yr oedd y tân yn ddisglair, a mellt yn dod allan o'i ganol. Yr oedd y creaduriaid yn symud yn ôl ac ymlaen, yn debyg i fflachiad mellten. Fel yr oeddwn yn edrych ar y creaduriaid, gwelais olwynion ar y llawr yn ymyl y creaduriaid, un ar gyfer pob wyneb. Yr oedd ymddangosiad a gwneuthuriad yr olwynion fel hyn: yr oeddent yn debyg i belydrau o eurfaen, gyda'r un dull i bob un o'r pedwar; o ran gwneuthuriad yr oeddent yn edrych fel pe bai olwyn oddi mewn i olwyn, a phan oeddent yn symud ymlaen i un o'r pedwar cyfeiriad, nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth fynd. Yr oedd ganddynt gylchau, ac fel yr edrychwn arnynt yr oedd eu cylchau—y pedwar ohonynt—yn llawn o lygaid oddi amgylch. Pan gerddai'r creaduriaid, symudai'r olwynion oedd wrth eu hochr; a phan godai'r creaduriaid oddi ar y ddaear, fe godai'r olwynion hefyd. Ple bynnag yr oedd yr ysbryd yn mynd, yno yr aent hwythau hefyd; ac fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd yr oedd ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion. Pan symudai'r naill, fe symudai'r llall; pan safai'r naill, fe safai'r llall; pan godai'r creaduriaid oddi ar y ddaear, fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd bod ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion. Uwchben y creaduriaid yr oedd math ar ffurfafen, yn debyg i belydrau grisial ac yn arswydus; yr oedd wedi ei lledaenu dros eu pennau oddi uchod. O dan y ffurfafen yr oedd adenydd pob un wedi eu lledu nes cyffwrdd â rhai'r agosaf ato, ac yr oedd gan bob un ohonynt ddwy i guddio'i gorff. Ac yr oeddwn yn clywed sŵn eu hadenydd wrth iddynt symud, ac yr oedd fel sŵn llawer o ddyfroedd, fel sŵn yr Hollalluog, fel sŵn storm, fel sŵn byddin; pan oeddent yn aros, yr oeddent yn gostwng eu hadenydd. Yr oedd sŵn uwchben y ffurfafen oedd dros eu pennau; pan oeddent yn aros, yr oeddent yn gostwng eu hadenydd. Uwchben y ffurfafen oedd dros eu pennau yr oedd rhywbeth tebyg i faen saffir ar ffurf gorsedd, ac yn uchel i fyny ar yr orsedd ffurf oedd yn edrych yn ddynol. O'r hyn a edrychai fel ei lwynau i fyny, gwelwn ef yn debyg i belydrau o bres, yn debyg i dân wedi ei gau mewn ffwrnais; ac o'r hyn a edrychai fel ei lwynau i lawr, gwelwn ef yn debyg i dân gyda disgleirdeb o'i amgylch. Yr oedd y disgleirdeb o'i amgylch yn debyg i enfys mewn cwmwl ar ddiwrnod glawog; yr oedd yn edrych fel ffurf ar ogoniant yr ARGLWYDD.

Eseciel 1:1-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A darfu yn y ddegfed flwyddyn ar hugain, yn y pedwerydd mis, ar y pumed dydd o’r mis, (a mi ymysg y gaethglud wrth afon Chebar,) agoryd y nefoedd, a gwelwn weledigaethau DUW. Yn y pumed dydd o’r mis, honno oedd y bumed flwyddyn o gaethgludiad brenin Jehoiachin, Y daeth gair yr ARGLWYDD yn eglur at Eseciel yr offeiriad, mab Busi, yn nhir y Caldeaid, wrth afon Chebar; ac yno y bu llaw yr ARGLWYDD arno ef. Yna yr edrychais, ac wele yn dyfod o’r gogledd gorwynt, a chwmwl mawr, a thân yn ymgymryd, a disgleirdeb o amgylch iddo; ac o’i ganol, sef o ganol y tân, fel lliw ambr. Hefyd o’i ganol y daeth cyffelybrwydd i bedwar peth byw. A dyma eu hagwedd hwynt; dull dyn oedd iddynt. A phedwar wyneb i bob un, a phedair adain i bob un ohonynt. A’u traed yn draed union; a gwadn eu traed fel gwadn troed llo; a gwreichioni yr oeddynt fel lliw efydd gloyw. Ac yr oedd dwylo dyn oddi tan eu hadenydd, ar eu pedwar ystlys; eu hwynebau hefyd a’u hadenydd oedd ganddynt ill pedwar. Eu hadenydd hwynt oedd wedi eu cysylltu y naill wrth y llall: pan gerddent, ni throent; aent bob un yn union rhag ei wyneb. Dyma ddull eu hwynebau hwynt; Wyneb dyn, ac wyneb llew, oedd ar y tu deau iddynt ill pedwar: ac wyneb ych o’r tu aswy iddynt ill pedwar, ac wyneb eryr iddynt ill pedwar. Dyma eu hwynebau hwynt; a’u hadenydd oedd wedi eu dosbarthu oddi arnodd, dwy i bob un wedi eu cysylltu â’i gilydd, a dwy oedd yn cuddio eu cyrff. Aent hefyd bob un yn union rhag ei wyneb; i’r lle y byddai yr ysbryd ar fyned, yno yr aent; ni throent pan gerddent. Dyma ddull y pethau byw; Eu gwelediad oedd fel marwor tân yn llosgi, ac fel gwelediad ffaglau: yr oedd efe yn ymgerdded rhwng y pethau byw, a disglair oedd y tân, a mellt yn dyfod allan o’r tân. Rhedai hefyd a dychwelai y pethau byw, fel gwelediad mellten. Edrychais hefyd ar y pethau byw: ac wele ar lawr yn ymyl y pethau byw un olwyn, gyda’i bedwar wyneb. Dull yr olwynion a’u gwaith oedd fel lliw beryl: a’r un dull oedd iddynt ill pedair; a’u gwedd hwynt a’u gwaith fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn. Pan elent, aent ar eu pedwar ochr: ni throent pan gerddent. Eu cantau hefyd oedd gyfuwch ag yr oeddynt yn ofnadwy: a’u cantau oedd yn llawn llygaid oddi amgylch ill pedwar. A phan gerddai y pethau byw, yr olwynion a gerddent wrthynt; a phan ymgodai y pethau byw oddi ar y ddaear, yr ymgodai yr olwynion. I’r lle y byddai yr ysbryd i fyned, yr aent, yno yr oedd eu hysbryd ar fyned; a’r olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwynt: canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion. Cerddent pan gerddent hwythau, a safent pan safent hwythau; a phan ymgodent hwy oddi ar y ddaear, yr olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwythau: canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion. Ac yr oedd ar bennau y pethau byw ddull y ffurfafen, fel lliw grisial ofnadwy, wedi ei hestyn dros eu pennau hwynt oddi arnodd. A than y ffurfafen yr oedd eu hadenydd hwynt yn union, y naill tuag at y llall: dwy i bob un yn eu cuddio o’r naill du, a dwy i bob un yn cuddio eu cyrff o’r tu arall. A mi a glywn sŵn eu hadenydd hwynt, fel sŵn dyfroedd lawer, fel sŵn yr Hollalluog, pan gerddent: sŵn lleferydd, fel sŵn llu: pan safent, llaesent eu hadenydd. Ac yr oedd llais oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt, pan safent, ac y llaesent eu hadenydd. Ac oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt, yr oedd cyffelybrwydd gorseddfainc, fel gwelediad maen saffir; ac ar gyffelybrwydd yr orseddfainc yr oedd oddi arnodd arno ef gyffelybrwydd megis gwelediad dyn. Gwelais hefyd megis lliw ambr, fel gwelediad tân o’i fewn o amgylch: o welediad ei lwynau ac uchod, ac o welediad ei lwynau ac isod, y gwelais megis gwelediad tân, a disgleirdeb iddo oddi amgylch. Fel gwelediad y bwa a fydd yn y cwmwl ar ddydd glawog, fel hyn yr oedd gwelediad y disgleirdeb o amgylch. Dyma welediad cyffelybrwydd gogoniant yr ARGLWYDD. A phan welais, syrthiais ar fy wyneb, a chlywais lais un yn llefaru.