Exodus 9:22-23
Exodus 9:22-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Estyn allan dy law tua'r nefoedd, i ddod â chenllysg ar holl wlad yr Aifft, ar ddyn ac anifail ac ar bopeth sy'n tyfu yn y maes trwy wlad yr Aifft.” Estynnodd Moses ei wialen tua'r nefoedd, ac anfonodd yr ARGLWYDD daranau a chenllysg, a mellt yn gwibio i lawr i'r ddaear, a pheri iddi fwrw cenllysg ar dir yr Aifft.
Rhanna
Darllen Exodus 9Exodus 9:22-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law tua’r nefoedd; fel y byddo cenllysg yn holl wlad yr Aifft, ar ddyn ac ar anifail, ac ar holl lysiau y maes, o fewn tir yr Aifft. A Moses a estynnodd ei wialen tua’r nefoedd: a’r ARGLWYDD a roddodd daranau a chenllysg, a’r tân a gerddodd ar hyd y ddaear; a chafododd yr ARGLWYDD genllysg ar dir yr Aifft.
Rhanna
Darllen Exodus 9