Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 30:22-38

Exodus 30:22-38 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Cymer y perlysiau gorau – pum cilogram a hanner o fyrr, hanner hynny (sef dau gilogram a thri-chwarter) o sinamon melys, yr un faint o sbeisiau pêr, a phum cilogram a hanner o bowdr casia (a defnyddia fesur safonol y cysegr i bwyso’r rhain). Hefyd pedwar litr o olew olewydd. Mae’r rhain i gael eu defnyddio i wneud olew eneinio cysegredig – cymysgedd persawrus wedi’i wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr. Mae’r olew yma i gael ei ddefnyddio i eneinio pabell presenoldeb Duw, Arch y dystiolaeth, y bwrdd a’i lestri i gyd, y menora (sef y stand i’r lampau) a’i hoffer, allor yr arogldarth, yr allor i losgi’r offrymau a’r offer sy’n mynd gyda hi, a’r ddysgl fawr gyda’i stand. Dyna sut maen nhw i gael eu cysegru, a byddan nhw’n sanctaidd iawn. Bydd unrhyw beth fydd yn eu cyffwrdd yn gysegredig. Rwyt hefyd i eneinio Aaron a’i feibion, a’u cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi. Ac rwyt i ddweud wrth bobl Israel, ‘Hwn fydd yr olew eneinio cysegredig ar hyd y cenedlaethau. Dydy e ddim i gael ei ddefnyddio ar bobl gyffredin, a does neb i wneud olew tebyg iddo gyda’r un cynhwysion. Mae’n gysegredig, a rhaid i chi ei drin yn sanctaidd. Os bydd rhywun yn gwneud cymysgedd tebyg iddo, neu yn ei ddefnyddio ar rywun sydd ddim yn offeiriad, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.’” Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Cymer berlysiau, sef gwm resin, onicha a galbanwm, gyda’r un faint o fyrr pur, a’u cymysgu i wneud arogldarth – cymysgedd persawrus wedi’i wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr. Rhaid iddo fod wedi’i falu’n fân, ac yn gymysgedd pur, cysegredig. Mae peth ohono i gael ei falu yn llwch mân, a’i roi o flaen Arch y dystiolaeth tu mewn i babell presenoldeb Duw, lle bydda i’n dy gyfarfod di. Rhaid iddo gael ei drin yn sanctaidd iawn. Does neb i ddefnyddio’r un cynhwysion i wneud arogldarth tebyg iddo. Arogldarth yr ARGLWYDD ydy e, ac mae i gael ei drin yn sanctaidd. Os bydd rhywun yn gwneud cymysgedd tebyg iddo i bwrpas arall, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.”

Exodus 30:22-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, “Cymer o'r perlysiau gorau bum can sicl o fyrr pur, a hanner hynny, sef dau gant pum deg sicl o sinamon peraidd, a dau gant pum deg sicl o galamus peraidd, a phum can sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, o gasia, a hin o olew'r olewydden. Gwna ohonynt olew cysegredig ar gyfer eneinio, a chymysga hwy fel y gwna'r peraroglydd; bydd yn olew cysegredig ar gyfer ei eneinio. Eneinia ag ef babell y cyfarfod ac arch y dystiolaeth, y bwrdd a'i holl lestri, y canhwyllbren a'i holl lestri, allor yr arogldarth, allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed. Cysegra hwy, a byddant yn gysegredig iawn; bydd beth bynnag a gyffyrdda â hwy hefyd yn gysegredig. Eneinia Aaron a'i feibion, a chysegra hwy i'm gwasanaethu fel offeiriaid. Yna dywed wrth bobl Israel, ‘Bydd hwn yn olew cysegredig i mi dros y cenedlaethau. Peidiwch ag eneinio corff neb ag ef, na gwneud dim sy'n debyg iddo o ran ei gynnwys. Y mae'n gysegredig; felly bydded yn gysegredig gennych. Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, neu sy'n ei dywallt ar leygwr.’ ” Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cymer berlysiau, sef stacte, onycha a galbanum, ac ynghyd â'r llysiau hyn, thus pur; cymer yr un faint o bob un, a gwna arogldarth a'i gymysgu fel y gwna'r peraroglydd, a'i dymheru â halen i'w wneud yn bur a chysegredig. Cura beth ohono'n fân a'i roi o flaen y dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod, lle byddaf yn cyfarfod â thi; bydd yn gysegredig iawn gennych. Peidiwch â gwneud arogldarth fel hwn i chwi eich hunain; bydd yn gysegredig i'r ARGLWYDD. Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, i fwynhau ei arogl.”

Exodus 30:22-38 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yr ARGLWYDD hefyd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Cymer i ti ddewis lysiau, o’r myrr pur, bwys pum can sicl, a hanner hynny o’r sinamon peraidd, sef pwys deucant a deg a deugain o siclau, ac o’r calamus peraidd pwys deucant a deg a deugain o siclau; Ac o’r casia pwys pum cant o siclau, yn ôl sicl y cysegr; a hin o olew olewydden. A gwna ef yn olew eneiniad sanctaidd, yn ennaint cymysgadwy o waith yr apothecari: olew eneiniad sanctaidd fydd efe. Ac eneinia ag ef babell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth, Y bwrdd hefyd a’i holl lestri, a’r canhwyllbren a’i holl lestri, ac allor yr arogl-darth. Ac allor y poethoffrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed. A chysegra hwynt, fel y byddant yn sancteiddiolaf: pob peth a gyffyrddo â hwynt, a fydd sanctaidd. Eneinia hefyd Aaron a’i feibion, a chysegra hwynt, i offeiriadu i mi. A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Olew eneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi, trwy eich cenedlaethau. Nac eneinier ag ef gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: sanctaidd yw, bydded sanctaidd gennych. Pwy bynnag a gymysgo ei fath, a’r hwn a roddo ohono ef ar ddyn dieithr, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl. Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Cymer i ti lysiau peraidd, sef stacte, ac onycha, a galbanum; y llysiau hyn, a thus pur; yr un faint o bob un. A gwna ef yn arogl-darth aroglber o waith yr apothecari, wedi ei gyd-dymheru, yn bur ac yn sanctaidd. Gan guro cur yn fân beth ohono, a dod ohono ef gerbron y dystiolaeth o fewn pabell y cyfarfod, lle y cyfarfyddaf â thi: sancteiddiolaf fydd efe i chwi. A’r arogl-darth a wnelech, na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef: bydded gennyt yn sanctaidd i’r ARGLWYDD. Pwy bynnag a wnêl ei fath ef, i arogli ohono, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.