Exodus 30:22-25
Exodus 30:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, “Cymer o'r perlysiau gorau bum can sicl o fyrr pur, a hanner hynny, sef dau gant pum deg sicl o sinamon peraidd, a dau gant pum deg sicl o galamus peraidd, a phum can sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, o gasia, a hin o olew'r olewydden. Gwna ohonynt olew cysegredig ar gyfer eneinio, a chymysga hwy fel y gwna'r peraroglydd; bydd yn olew cysegredig ar gyfer ei eneinio.
Exodus 30:22-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Cymer y perlysiau gorau – pum cilogram a hanner o fyrr, hanner hynny (sef dau gilogram a thri-chwarter) o sinamon melys, yr un faint o sbeisiau pêr, a phum cilogram a hanner o bowdr casia (a defnyddia fesur safonol y cysegr i bwyso’r rhain). Hefyd pedwar litr o olew olewydd. Mae’r rhain i gael eu defnyddio i wneud olew eneinio cysegredig – cymysgedd persawrus wedi’i wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr.
Exodus 30:22-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr ARGLWYDD hefyd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Cymer i ti ddewis lysiau, o’r myrr pur, bwys pum can sicl, a hanner hynny o’r sinamon peraidd, sef pwys deucant a deg a deugain o siclau, ac o’r calamus peraidd pwys deucant a deg a deugain o siclau; Ac o’r casia pwys pum cant o siclau, yn ôl sicl y cysegr; a hin o olew olewydden. A gwna ef yn olew eneiniad sanctaidd, yn ennaint cymysgadwy o waith yr apothecari: olew eneiniad sanctaidd fydd efe.