Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 3:7-15

Exodus 3:7-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yna meddai’r ARGLWYDD wrtho, “Dw i wedi gweld sut mae fy mhobl i’n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi’u clywed nhw’n gweiddi wrth i’w meistri fod yn gas atyn nhw. Dw i’n teimlo drostyn nhw. Felly dw i wedi dod lawr i’w rhyddhau nhw o afael yr Eifftiaid. Dw i’n mynd i’w harwain nhw o wlad yr Aifft, a rhoi gwlad dda, eang iddyn nhw – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo! Yr ardaloedd ble mae’r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw. Dw i wedi clywed cri pobl Israel am help, a dw i wedi gweld mor greulon ydy’r Eifftiaid atyn nhw. Felly tyrd. Dw i’n mynd i dy anfon di at y Pharo, i arwain fy mhobl, pobl Israel, allan o’r Aifft.” Dyma Moses yn dweud wrth Dduw, “Fi? Pwy ydw i i fynd at y Pharo, ac arwain pobl Israel allan o’r Aifft?” “Bydda i gyda ti, dw i’n addo,” meddai Duw. “A dyna fydd yr arwydd clir mai fi wnaeth dy anfon di: Pan fyddi di wedi arwain y bobl allan o’r Aifft, byddwch chi’n fy addoli i ar y mynydd yma.” Ond dyma Moses yn dweud, “Os gwna i fynd at bobl Israel a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw eich hynafiaid chi wedi fy anfon i atoch chi,’ byddan nhw’n gofyn i mi, ‘Beth ydy ei enw e?’ Beth ddylwn i ddweud wedyn wrthyn nhw?” “FI YDY’R UN YDW I,” meddai Duw wrth Moses. “Rhaid i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Mae FI YDY wedi fy anfon i atoch chi.’” A dyma fe’n dweud hefyd, “Dwed wrth bobl Israel, ‘Yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, sydd wedi fy anfon i atoch chi – Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.’ Dyma fy enw i am byth, a’r enw fydd pobl yn ei gofio o un genhedlaeth i’r llall.

Exodus 3:7-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A dywedodd yr ARGLWYDD, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aifft, a’u gwaedd o achos eu meistriaid gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau. A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Eifftiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid. Ac yn awr wele, gwaedd meibion Israel a ddaeth ataf fi; a hefyd mi a welais y gorthrymder â’r hwn y gorthrymodd yr Eifftiaid hwynt. Tyred gan hynny yn awr, a mi a’th anfonaf at Pharo; fel y dygech fy mhobl, plant Israel, allan o’r Aifft. A dywedodd Moses wrth DDUW, Pwy ydwyf fi, fel yr awn i at Pharo, ac y dygwn blant Israel allan o’r Aifft? Dywedodd yntau, Diau y byddaf gyda thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a’th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o’r Aifft, chwi a wasanaethwch DDUW ar y mynydd hwn. A dywedodd Moses wrth DDUW, Wele, pan ddelwyf fi at feibion Israel, a dywedyd wrthynt, DUW eich tadau a’m hanfonodd atoch; os dywedant wrthyf, Beth yw ei enw ef? beth a ddywedaf fi wrthynt? A DUW a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel; YDWYF a’m hanfonodd atoch. A DUW a ddywedodd drachefn wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; ARGLWYDD DDUW eich tadau, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob, a’m hanfonodd atoch: dyma fy enw byth, a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.