Exodus 3:15-17
Exodus 3:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd Duw eto wrth Moses, “Dywed hyn wrth bobl Israel, ‘Yr ARGLWYDD, Duw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob sydd wedi fy anfon atoch.’ Dyma fydd fy enw am byth, ac fel hyn y cofir amdanaf gan bob cenhedlaeth. Dos, a chynnull ynghyd henuriaid Israel, a dywed wrthynt, ‘Y mae'r ARGLWYDD, Duw eich tadau, Duw Abraham, Isaac a Jacob, wedi ymddangos i mi a dweud: Yr wyf wedi ymweld â chwi ac edrych ar yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft, ac yr wyf wedi penderfynu eich arwain allan o adfyd yr Aifft i wlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.’
Exodus 3:15-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma fe’n dweud hefyd, “Dwed wrth bobl Israel, ‘Yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, sydd wedi fy anfon i atoch chi – Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.’ Dyma fy enw i am byth, a’r enw fydd pobl yn ei gofio o un genhedlaeth i’r llall. Dos i alw arweinwyr Israel at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae’r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ymddangos i mi – Duw Abraham, Isaac a Jacob. Mae’n dweud, “Dw i wedi bod yn cadw golwg arnoch chi. Dw i wedi gweld sut ydych chi’n cael eich trin yn yr Aifft. A dw i’n addo eich rhyddhau chi o’r caledi yn yr Aifft, a’ch arwain chi i’r wlad ble mae’r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw. Mae’n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo!”’
Exodus 3:15-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A DUW a ddywedodd drachefn wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; ARGLWYDD DDUW eich tadau, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob, a’m hanfonodd atoch: dyma fy enw byth, a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth. Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, ARGLWYDD DDUW eich tadau, DUW Abraham, Isaac, a Jacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd, Gan ymweled yr ymwelais â chwi, a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft. A dywedais, Mi a’ch dygaf chwi i fyny o adfyd yr Aifft, i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl.