Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 3:14-22

Exodus 3:14-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“FI YDY’R UN YDW I,” meddai Duw wrth Moses. “Rhaid i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Mae FI YDY wedi fy anfon i atoch chi.’” A dyma fe’n dweud hefyd, “Dwed wrth bobl Israel, ‘Yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, sydd wedi fy anfon i atoch chi – Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.’ Dyma fy enw i am byth, a’r enw fydd pobl yn ei gofio o un genhedlaeth i’r llall. Dos i alw arweinwyr Israel at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae’r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ymddangos i mi – Duw Abraham, Isaac a Jacob. Mae’n dweud, “Dw i wedi bod yn cadw golwg arnoch chi. Dw i wedi gweld sut ydych chi’n cael eich trin yn yr Aifft. A dw i’n addo eich rhyddhau chi o’r caledi yn yr Aifft, a’ch arwain chi i’r wlad ble mae’r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw. Mae’n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo!”’ “Bydd yr arweinwyr yn dy gredu di. Wedyn bydd rhaid i ti ac arweinwyr Israel fynd at frenin yr Aifft, a dweud wrtho, ‘Mae’r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, wedi cyfarfod gyda ni. Felly, plîs gad i ni deithio i’r anialwch am dri diwrnod, er mwyn i ni aberthu i’r ARGLWYDD ein Duw.’ Dw i’n gwybod yn iawn na fydd brenin yr Aifft yn gadael i chi fynd, dim hyd yn oed dan bwysau. Felly bydda i’n defnyddio fy nerth i daro’r Aifft gyda gwyrthiau rhyfeddol. Bydd e’n eich gyrru chi allan wedyn! Bydd pobl yr Aifft yn rhoi anrhegion i bobl Israel, felly fyddwch chi ddim yn gadael yn waglaw. Bydd gwraig yn gofyn i’w chymdoges a’r un sy’n lletya gyda hi am bethau arian ac aur, a hefyd am ddillad. Bydd eich meibion a’ch merched yn eu gwisgo nhw. Byddwch yn cymryd y cwbl oddi ar bobl yr Aifft!”

Exodus 3:14-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dywedodd Duw wrth Moses, “Ydwyf yr hyn ydwyf. Dywed hyn wrth bobl Israel, ‘Ydwyf sydd wedi fy anfon atoch.’ ” Dywedodd Duw eto wrth Moses, “Dywed hyn wrth bobl Israel, ‘Yr ARGLWYDD, Duw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob sydd wedi fy anfon atoch.’ Dyma fydd fy enw am byth, ac fel hyn y cofir amdanaf gan bob cenhedlaeth. Dos, a chynnull ynghyd henuriaid Israel, a dywed wrthynt, ‘Y mae'r ARGLWYDD, Duw eich tadau, Duw Abraham, Isaac a Jacob, wedi ymddangos i mi a dweud: Yr wyf wedi ymweld â chwi ac edrych ar yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft, ac yr wyf wedi penderfynu eich arwain allan o adfyd yr Aifft i wlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.’ Bydd henuriaid Israel yn gwrando arnat; dos dithau gyda hwy at frenin yr Aifft a dweud wrtho, ‘Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid, wedi ymweld â ni; yn awr gad inni fynd daith dridiau i'r anialwch er mwyn inni aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw.’ Ond yr wyf yn gwybod na fydd brenin yr Aifft yn caniatáu i chwi fynd oni orfodir ef â llaw gadarn. Felly, estynnaf fy llaw a tharo'r Eifftiaid â'r holl ryfeddodau a wnaf yn eu plith; wedi hynny, bydd yn eich gollwng yn rhydd. Gwnaf i'r Eifftiaid edrych yn ffafriol ar y bobl hyn, a phan fyddwch yn ymadael, nid ewch yn waglaw, oherwydd bydd pob gwraig yn gofyn i'w chymdoges neu i unrhyw un yn ei thŷ am dlysau o arian ac o aur, a dillad. Gwisgwch hwy am eich meibion a'ch merched, ac ysbeiliwch yr Aifft.”

Exodus 3:14-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A DUW a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel; YDWYF a’m hanfonodd atoch. A DUW a ddywedodd drachefn wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; ARGLWYDD DDUW eich tadau, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob, a’m hanfonodd atoch: dyma fy enw byth, a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth. Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, ARGLWYDD DDUW eich tadau, DUW Abraham, Isaac, a Jacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd, Gan ymweled yr ymwelais â chwi, a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft. A dywedais, Mi a’ch dygaf chwi i fyny o adfyd yr Aifft, i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl. A hwy a wrandawant ar dy lais; a thi a ddeui, ti a henuriaid Israel, at frenin yr Aifft, a dywedwch wrtho, ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid a gyfarfu â ni; ac yn awr gad i ni fyned, atolwg, daith tri diwrnod i’r anialwch, fel yr aberthom i’r ARGLWYDD ein DUW. A mi a wn na edy brenin yr Aifft i chwi fyned, ond mewn llaw gadarn. Am hynny mi a estynnaf fy llaw, ac a drawaf yr Aifft â’m holl ryfeddodau, y rhai a wnaf yn ei chanol; ac wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymaith. A rhoddaf hawddgarwch i’r bobl hyn yng ngolwg yr Eifftiaid: a bydd, pan eloch, nad eloch yn waglaw; Ond pob gwraig a fenthycia gan ei chymdoges, a chan yr hon fyddo yn cytal â hi, ddodrefn arian, a dodrefn aur, a gwisgoedd: a chwi a’u gosodwch hwynt am eich meibion ac am eich merched; ac a ysbeiliwch yr Eifftiaid.