Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 3:1-15

Exodus 3:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd Moses yn gofalu am ddefaid a geifr ei dad-yng-nghyfraith, Jethro, offeiriad Midian. A dyma fe’n arwain y praidd i’r ochr draw i’r anialwch. Daeth at fynydd Duw, sef Mynydd Sinai. Yno, dyma angel yr ARGLWYDD yn ymddangos iddo o ganol fflamau perth oedd ar dân. Wrth edrych, roedd yn gweld fod y berth yn fflamau tân, ond doedd hi ddim yn cael ei llosgi. “Anhygoel!” meddyliodd. “Rhaid i mi fynd yn nes i weld beth sy’n digwydd – pam nad ydy’r berth yna wedi llosgi’n ulw.” Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod yn mynd draw i edrych, dyma Duw yn galw arno o ganol y berth, “Moses! Moses!” “Dyma fi,” meddai Moses. A dyma Duw yn dweud wrtho, “Paid dod dim nes. Tyn dy sandalau; ti’n sefyll ar dir cysegredig!” Yna dyma fe’n dweud, “Fi ydy Duw dy dad; Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.” A dyma Moses yn cuddio’i wyneb, am fod ganddo ofn edrych ar Dduw. Yna meddai’r ARGLWYDD wrtho, “Dw i wedi gweld sut mae fy mhobl i’n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi’u clywed nhw’n gweiddi wrth i’w meistri fod yn gas atyn nhw. Dw i’n teimlo drostyn nhw. Felly dw i wedi dod lawr i’w rhyddhau nhw o afael yr Eifftiaid. Dw i’n mynd i’w harwain nhw o wlad yr Aifft, a rhoi gwlad dda, eang iddyn nhw – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo! Yr ardaloedd ble mae’r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw. Dw i wedi clywed cri pobl Israel am help, a dw i wedi gweld mor greulon ydy’r Eifftiaid atyn nhw. Felly tyrd. Dw i’n mynd i dy anfon di at y Pharo, i arwain fy mhobl, pobl Israel, allan o’r Aifft.” Dyma Moses yn dweud wrth Dduw, “Fi? Pwy ydw i i fynd at y Pharo, ac arwain pobl Israel allan o’r Aifft?” “Bydda i gyda ti, dw i’n addo,” meddai Duw. “A dyna fydd yr arwydd clir mai fi wnaeth dy anfon di: Pan fyddi di wedi arwain y bobl allan o’r Aifft, byddwch chi’n fy addoli i ar y mynydd yma.” Ond dyma Moses yn dweud, “Os gwna i fynd at bobl Israel a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw eich hynafiaid chi wedi fy anfon i atoch chi,’ byddan nhw’n gofyn i mi, ‘Beth ydy ei enw e?’ Beth ddylwn i ddweud wedyn wrthyn nhw?” “FI YDY’R UN YDW I,” meddai Duw wrth Moses. “Rhaid i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Mae FI YDY wedi fy anfon i atoch chi.’” A dyma fe’n dweud hefyd, “Dwed wrth bobl Israel, ‘Yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, sydd wedi fy anfon i atoch chi – Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.’ Dyma fy enw i am byth, a’r enw fydd pobl yn ei gofio o un genhedlaeth i’r llall.

Exodus 3:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd Moses yn bugeilio defaid ei dad-yng-nghyfraith Jethro, offeiriad Midian, ac wrth iddo arwain y praidd ar hyd cyrion yr anialwch, daeth i Horeb, mynydd Duw. Yno ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo mewn fflam dân o ganol perth. Edrychodd yntau a gweld y berth ar dân ond heb ei difa. Dywedodd Moses, “Yr wyf am droi i edrych ar yr olygfa ryfedd hon, pam nad yw'r berth wedi llosgi.” Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod wedi troi i edrych, galwodd Duw arno o ganol y berth, “Moses, Moses.” Atebodd yntau, “Dyma fi.” Yna dywedodd Duw, “Paid â dod ddim nes; tyn dy esgidiau oddi am dy draed, oherwydd y mae'r llecyn yr wyt yn sefyll arno yn dir sanctaidd.” Dywedodd hefyd, “Duw dy dadau wyf fi, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob.” Cuddiodd Moses ei wyneb, oherwydd yr oedd arno ofn edrych ar Dduw. Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Yr wyf wedi gweld adfyd fy mhobl yn yr Aifft a chlywed eu gwaedd o achos eu meistri gwaith, a gwn am eu doluriau. Yr wyf wedi dod i'w gwaredu o law'r Eifftiaid, a'u harwain o'r wlad honno i wlad ffrwythlon ac eang, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, cartref y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid. Yn awr y mae gwaedd pobl Israel wedi dod ataf, ac yr wyf wedi gweld fel y bu'r Eifftiaid yn eu gorthrymu. Tyrd, yr wyf yn dy anfon at Pharo er mwyn iti arwain fy mhobl, yr Israeliaid, allan o'r Aifft.” Ond gofynnodd Moses i Dduw, “Pwy wyf fi i fynd at Pharo ac arwain pobl Israel allan o'r Aifft?” Dywedodd yntau, “Byddaf fi gyda thi; a dyma fydd yr arwydd mai myfi sydd wedi dy anfon: wedi iti arwain y bobl allan o'r Aifft, byddwch yn addoli Duw ar y mynydd hwn.” Yna dywedodd Moses wrth Dduw, “Os af at bobl Israel a dweud wrthynt, ‘Y mae Duw eich hynafiaid wedi fy anfon atoch’, beth a ddywedaf wrthynt os gofynnant am ei enw?” Dywedodd Duw wrth Moses, “Ydwyf yr hyn ydwyf. Dywed hyn wrth bobl Israel, ‘Ydwyf sydd wedi fy anfon atoch.’ ” Dywedodd Duw eto wrth Moses, “Dywed hyn wrth bobl Israel, ‘Yr ARGLWYDD, Duw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob sydd wedi fy anfon atoch.’ Dyma fydd fy enw am byth, ac fel hyn y cofir amdanaf gan bob cenhedlaeth.

Exodus 3:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A Moses oedd yn bugeilio defaid Jethro ei chwegrwn, offeiriad Midian: ac efe a yrrodd y praidd o’r tu cefn i’r anialwch, ac a ddaeth i fynydd DUW, Horeb. Ac angel yr ARGLWYDD a ymddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol perth: ac efe a edrychodd, ac wele y berth yn llosgi yn dân, a’r berth heb ei difa. A dywedodd Moses, Mi a droaf yn awr, ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon, paham nad yw’r berth wedi llosgi. Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod efe yn troi i edrych, DUW a alwodd arno o ganol y berth, ac a ddywedodd, Moses, Moses. A dywedodd yntau, Wele fi. Ac efe a ddywedodd, Na nesâ yma: diosg dy esgidiau oddi am dy draed; oherwydd y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd ddaear sanctaidd. Ac efe a ddywedodd, Myfi yw DUW dy dad, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob. A Moses a guddiodd ei wyneb; oblegid ofni yr ydoedd edrych ar DDUW. A dywedodd yr ARGLWYDD, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aifft, a’u gwaedd o achos eu meistriaid gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau. A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Eifftiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid. Ac yn awr wele, gwaedd meibion Israel a ddaeth ataf fi; a hefyd mi a welais y gorthrymder â’r hwn y gorthrymodd yr Eifftiaid hwynt. Tyred gan hynny yn awr, a mi a’th anfonaf at Pharo; fel y dygech fy mhobl, plant Israel, allan o’r Aifft. A dywedodd Moses wrth DDUW, Pwy ydwyf fi, fel yr awn i at Pharo, ac y dygwn blant Israel allan o’r Aifft? Dywedodd yntau, Diau y byddaf gyda thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a’th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o’r Aifft, chwi a wasanaethwch DDUW ar y mynydd hwn. A dywedodd Moses wrth DDUW, Wele, pan ddelwyf fi at feibion Israel, a dywedyd wrthynt, DUW eich tadau a’m hanfonodd atoch; os dywedant wrthyf, Beth yw ei enw ef? beth a ddywedaf fi wrthynt? A DUW a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel; YDWYF a’m hanfonodd atoch. A DUW a ddywedodd drachefn wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; ARGLWYDD DDUW eich tadau, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob, a’m hanfonodd atoch: dyma fy enw byth, a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.