Exodus 25:1-9
Exodus 25:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dwed wrth bobl Israel am gasglu rhoddion i mi gan bawb sy’n awyddus i gyfrannu. Dyma beth allan nhw ei gyfrannu: aur, arian, pres, edau las, porffor a coch, lliain main drud, blew gafr, crwyn hyrddod wedi’u llifo’n goch, crwyn môr-fuchod, coed acasia, olew i’r lampau, perlysiau i wneud yr olew eneinio a’r arogldarth persawrus, onics a gemau eraill i’w gosod ar yr effod a’r boced fydd yn mynd dros y frest. Dw i eisiau iddyn nhw godi lle sbesial i mi gael byw yn eu canol nhw. Dw i eisiau i’r Tabernacl, a popeth fydd yn mynd i mewn ynddo, gael eu gwneud yn union fel dw i’n dangos i ti.
Exodus 25:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dywed wrth bobl Israel am ddod ag offrwm i mi, a derbyniwch oddi wrth bob un yr offrwm y mae'n ei roi o'i wirfodd. Dyma'r offrwm yr ydych i'w dderbyn ganddynt: aur, arian ac efydd; sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr, crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia, olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd; meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg. Y maent hefyd i wneud cysegr, er mwyn i mi drigo yn eu plith. Yr ydych i'w wneud yn unol â'r cynllun o'r tabernacl, a'i holl ddodrefn, yr wyf yn ei ddangos i ti.
Exodus 25:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Dywed wrth feibion Israel, am ddwyn ohonynt i mi offrwm: gan bob gŵr ewyllysgar ei galon y cymerwch fy offrwm. A dyma yr offrwm a gymerwch ganddynt; aur, ac arian, a phres, A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, A chrwyn hyrddod yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim, Olew i’r goleuni, llysieuau i olew yr ennaint, ac i’r perarogl-darth, Meini onics, a meini i’w gosod yn yr effod, ac yn y ddwyfronneg. A gwnânt i mi gysegr; fel y gallwyf drigo yn eu mysg hwynt. Yn ôl holl waith y tabernacl, a gwaith ei holl ddodrefn y rhai yr ydwyf yn eu dangos i ti, felly y gwnewch.