Exodus 2:5-6
Exodus 2:5-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Daeth merch y Pharo i lawr at yr afon i ymdrochi, tra oedd ei morynion yn cerdded ar lan yr afon. A dyma hi’n sylwi ar y fasged yng nghanol y brwyn, ac yn anfon caethferch i’w nôl. Agorodd y fasged, a gweld y babi bach – bachgen, ac roedd yn crio. Roedd hi’n teimlo trueni drosto. “Un o blant yr Hebreaid ydy hwn,” meddai.
Exodus 2:5-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth merch Pharo i ymdrochi yn yr afon tra oedd ei morynion yn cerdded ar y lan, a phan welodd y cawell yng nghanol yr hesg, anfonodd un ohonynt i'w nôl. Wedi iddi ei agor, fe welodd y plentyn, ac yr oedd y bachgen yn wylo. Tosturiodd hithau wrtho a dweud, “Un o blant yr Hebreaid yw hwn.”
Exodus 2:5-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A merch Pharo a ddaeth i waered i’r afon i ymolchi; (a’i llancesau oedd yn rhodio gerllaw yr afon;) a hi a ganfu’r cawell yng nghanol yr hesg, ac a anfonodd ei llawforwyn i’w gyrchu ef. Ac wedi iddi ei agoryd, hi a ganfu’r bachgen; ac wele y plentyn yn wylo: a hi a dosturiodd wrtho, ac a ddywedodd, Un o blant yr Hebreaid yw hwn.