Exodus 2:3-4
Exodus 2:3-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond gan na allai ei guddio'n hwy, cymerodd gawell wedi ei wneud o lafrwyn a'i ddwbio â chlai a phyg; rhoddodd y plentyn ynddo a'i osod ymysg yr hesg ar lan y Neil. Yr oedd chwaer y plentyn yn sefyll nid nepell oddi wrtho er mwyn cael gwybod beth a ddigwyddai iddo.
Exodus 2:3-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond ar ôl hynny roedd hi’n amhosib ei guddio. Felly dyma hi’n cymryd basged frwyn, a’i selio gyda tar. Yna rhoi’r babi yn y fasged, a’i osod yng nghanol y brwyn ar lan afon Nîl. Aeth chwaer y plentyn i sefyll heb fod yn rhy bell, i weld beth fyddai’n digwydd iddo.
Exodus 2:3-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond gan na allai ei guddio'n hwy, cymerodd gawell wedi ei wneud o lafrwyn a'i ddwbio â chlai a phyg; rhoddodd y plentyn ynddo a'i osod ymysg yr hesg ar lan y Neil. Yr oedd chwaer y plentyn yn sefyll nid nepell oddi wrtho er mwyn cael gwybod beth a ddigwyddai iddo.
Exodus 2:3-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan na allai hi ei guddio ef yn hwy, hi a gymerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg; ac a osododd y bachgen ynddo, ac a’i rhoddodd ymysg yr hesg ar fin yr afon. A’i chwaer ef a safodd o bell, i gael gwybod beth a wneid iddo ef.