Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 2:1-22

Exodus 2:1-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Priododd gŵr o dylwyth Lefi ag un o ferched Lefi. Beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a phan welodd ei fod yn dlws, fe'i cuddiodd am dri mis. Ond gan na allai ei guddio'n hwy, cymerodd gawell wedi ei wneud o lafrwyn a'i ddwbio â chlai a phyg; rhoddodd y plentyn ynddo a'i osod ymysg yr hesg ar lan y Neil. Yr oedd chwaer y plentyn yn sefyll nid nepell oddi wrtho er mwyn cael gwybod beth a ddigwyddai iddo. Daeth merch Pharo i ymdrochi yn yr afon tra oedd ei morynion yn cerdded ar y lan, a phan welodd y cawell yng nghanol yr hesg, anfonodd un ohonynt i'w nôl. Wedi iddi ei agor, fe welodd y plentyn, ac yr oedd y bachgen yn wylo. Tosturiodd hithau wrtho a dweud, “Un o blant yr Hebreaid yw hwn.” Yna gofynnodd chwaer y plentyn i ferch Pharo, “A gaf fi fynd i chwilio am famaeth o blith gwragedd yr Hebreaid, iddi fagu'r plentyn iti?” Atebodd merch Pharo, “Dos.” Felly aeth y ferch ymaith a galw mam y plentyn. Dywedodd merch Pharo wrth honno, “Cymer y plentyn hwn a'i fagu imi, ac fe roddaf finnau dâl iti.” Felly cymerodd y wraig y plentyn a'i fagu. Wedi i'r plentyn dyfu i fyny, aeth ag ef yn ôl at ferch Pharo. Mabwysiadodd hithau ef a'i enwi'n Moses, oherwydd iddi ddweud, “Tynnais ef allan o'r dŵr.” Un diwrnod, wedi i Moses dyfu i fyny, aeth allan at ei bobl ac edrych ar eu beichiau. Gwelodd Eifftiwr yn taro Hebrëwr, un o'i frodyr, ac wedi edrych o'i amgylch a gweld nad oedd neb yno, lladdodd Moses yr Eifftiwr a'i guddio yn y tywod. Pan aeth allan drannoeth a gweld dau Hebrëwr yn ymladd â'i gilydd, gofynnodd i'r un oedd ar fai, “Pam yr wyt yn taro dy gyfaill?” Atebodd yntau, “Pwy a'th benododd di yn bennaeth ac yn farnwr arnom? A wyt am fy lladd i fel y lleddaist yr Eifftiwr?” Daeth ofn ar Moses o sylweddoli fod y peth yn hysbys. Pan glywodd Pharo am hyn, ceisiodd ladd Moses, ond ffodd ef oddi wrtho a mynd i fyw i wlad Midian; ac yno eisteddodd i lawr yn ymyl pydew. Yr oedd gan offeiriad Midian saith o ferched, a daethant i godi dŵr er mwyn llenwi'r cafnau a dyfrhau defaid eu tad. Daeth bugeiliaid heibio a'u gyrru oddi yno, ond cododd Moses ar ei draed a'u cynorthwyo i ddyfrhau eu praidd. Pan ddaeth y merched at Reuel eu tad, gofynnodd, “Sut y daethoch yn ôl mor fuan heddiw?” Dywedasant hwythau, “Eifftiwr a ddaeth i'n hamddiffyn rhag y bugeiliaid, a chodi dŵr i ddyfrhau'r praidd.” Yna gofynnodd yntau iddynt, “Ple mae'r dyn? Pam yr ydych wedi ei adael ar ôl? Galwch arno, iddo gael tamaid i'w fwyta.” Cytunodd Moses i aros gyda'r gŵr, a rhoddodd yntau ei ferch Seffora yn wraig iddo. Esgorodd hithau ar fab, a galwodd Moses ef yn Gersom, oherwydd dywedodd, “Dieithryn ydwyf mewn gwlad ddieithr.”

Exodus 2:1-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Bryd hynny, roedd dyn o deulu Lefi wedi priodi gwraig ifanc oedd hefyd yn un o ddisgynyddion Lefi. A dyma’r wraig yn beichiogi, ac yn cael mab. Pan welodd hi’r babi bach hyfryd, dyma hi’n ei guddio am dri mis. Ond ar ôl hynny roedd hi’n amhosib ei guddio. Felly dyma hi’n cymryd basged frwyn, a’i selio gyda tar. Yna rhoi’r babi yn y fasged, a’i osod yng nghanol y brwyn ar lan afon Nîl. Aeth chwaer y plentyn i sefyll heb fod yn rhy bell, i weld beth fyddai’n digwydd iddo. Daeth merch y Pharo i lawr at yr afon i ymdrochi, tra oedd ei morynion yn cerdded ar lan yr afon. A dyma hi’n sylwi ar y fasged yng nghanol y brwyn, ac yn anfon caethferch i’w nôl. Agorodd y fasged, a gweld y babi bach – bachgen, ac roedd yn crio. Roedd hi’n teimlo trueni drosto. “Un o blant yr Hebreaid ydy hwn,” meddai. Yna dyma chwaer y plentyn yn mynd at ferch y Pharo, a gofyn, “Ga i fynd i nôl un o’r gwragedd Hebreig i fagu’r plentyn i chi?” A dyma ferch y Pharo yn dweud, “Ie, gwna hynny!” Felly dyma hi’n mynd adre i nôl mam y babi. A dyma ferch y Pharo yn dweud wrthi, “Dw i eisiau i ti gymryd y plentyn yma, a’i fagu ar y fron i mi. Gwna i dalu cyflog i ti am wneud hynny.” Felly aeth y wraig a’r plentyn adre i’w fagu. Yna, pan oedd y plentyn yn ddigon hen, dyma hi’n mynd ag e at ferch y Pharo, a dyma hithau’n ei fabwysiadu yn fab iddi’i hun. Rhoddodd yr enw Moses iddo – “Am fy mod wedi’i dynnu allan o’r dŵr,” meddai. Flynyddoedd wedyn, pan oedd Moses wedi tyfu’n oedolyn, aeth allan at ei bobl, a gweld fel roedden nhw’n cael eu cam-drin. Gwelodd Eifftiwr yn curo Hebrëwr – un o’i bobl ei hun! Ar ôl edrych o’i gwmpas i wneud yn siŵr fod neb yn ei weld, dyma fe’n taro’r Eifftiwr a’i ladd, a chladdu ei gorff yn y tywod. Pan aeth allan y diwrnod wedyn, gwelodd ddau Hebrëwr yn dechrau ymladd gyda’i gilydd. A dyma Moses yn dweud wrth yr un oedd ar fai, “Pam wyt ti’n ymosod ar dy ffrind?” A dyma’r dyn yn ei ateb, “Pwy sydd wedi rhoi’r hawl i ti ein rheoli ni a’n barnu ni? Wyt ti am fy lladd i fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr yna?” Roedd Moses wedi dychryn, a meddyliodd, “Mae’n rhaid bod pobl yn gwybod beth wnes i.” A dyma’r Pharo yn dod i glywed am y peth, ac roedd am ladd Moses. Felly dyma Moses yn dianc oddi wrtho a mynd i wlad Midian. Pan gyrhaeddodd yno, eisteddodd wrth ymyl rhyw ffynnon. Roedd gan offeiriad Midian saith merch, a dyma nhw’n dod at y ffynnon, a dechrau codi dŵr i’r cafnau er mwyn i ddefaid a geifr eu tad gael yfed. Daeth grŵp o fugeiliaid yno a’u gyrru nhw i ffwrdd. Ond dyma Moses yn achub y merched, ac yn codi dŵr i’w defaid nhw. Pan aeth y merched adre at eu tad, Reuel, dyma fe’n gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi wedi dod adre mor gynnar heddiw?” A dyma nhw’n dweud wrtho, “Daeth rhyw Eifftiwr a’n hachub ni rhag y bugeiliaid, ac yna codi dŵr i’r praidd.” A dyma fe’n gofyn i’w ferched, “Ble mae e? Pam yn y byd wnaethoch chi adael y dyn allan yna? Ewch i’w nôl, a gofyn iddo ddod i gael pryd o fwyd gyda ni.” Cytunodd Moses i aros gyda nhw, a dyma Reuel yn rhoi ei ferch Seffora yn wraig iddo. Wedyn dyma nhw’n cael mab, a dyma Moses yn rhoi’r enw Gershom iddo – “Mewnfudwr yn byw mewn gwlad estron ydw i,” meddai.

Exodus 2:1-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna gŵr o dŷ Lefi a aeth, ac a briododd ferch i Lefi. A’r wraig a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab: a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe, hi a’i cuddiodd ef dri mis. A phan na allai hi ei guddio ef yn hwy, hi a gymerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg; ac a osododd y bachgen ynddo, ac a’i rhoddodd ymysg yr hesg ar fin yr afon. A’i chwaer ef a safodd o bell, i gael gwybod beth a wneid iddo ef. A merch Pharo a ddaeth i waered i’r afon i ymolchi; (a’i llancesau oedd yn rhodio gerllaw yr afon;) a hi a ganfu’r cawell yng nghanol yr hesg, ac a anfonodd ei llawforwyn i’w gyrchu ef. Ac wedi iddi ei agoryd, hi a ganfu’r bachgen; ac wele y plentyn yn wylo: a hi a dosturiodd wrtho, ac a ddywedodd, Un o blant yr Hebreaid yw hwn. Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrth ferch Pharo, A af fi i alw atat famaeth o’r Hebreësau, fel y mago hi y bachgen i ti? A merch Pharo a ddywedodd wrthi, Dos. A’r llances a aeth ac a alwodd fam y bachgen. A dywedodd merch Pharo wrthi, Dwg ymaith y bachgen hwn, a maga ef i mi, a minnau a roddaf i ti dy gyflog. A’r wraig a gymerodd y bachgen, ac a’i magodd. Pan aeth y bachgen yn fawr, hi a’i dug ef i ferch Pharo; ac efe a fu iddi yn fab: a hi a alwodd ei enw ef Moses; Oherwydd (eb hi) o’r dwfr y tynnais ef. A bu yn y dyddiau hynny, pan aeth Moses yn fawr, fyned ohono allan at ei frodyr, ac edrych ar eu beichiau hwynt, a gweled Eifftwr yn taro Hebrëwr, un o’i frodyr. Ac efe a edrychodd yma ac acw; a phan welodd nad oedd yno neb, efe a laddodd yr Eifftiad, ac a’i cuddiodd yn y tywod. Ac efe a aeth allan yr ail ddydd; ac wele ddau Hebrëwr yn ymryson: ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd ar y cam, Paham y trewi dy gyfaill? A dywedodd yntau, Pwy a’th osododd di yn bennaeth ac yn frawdwr arnom ni? ai meddwl yr wyt ti fy lladd i, megis y lleddaist yr Eifftiad? A Moses a ofnodd, ac a ddywedodd, Diau y gwyddir y peth hyn. Pan glybu Pharo y peth hyn, efe a geisiodd ladd Moses: ond Moses a ffodd rhag Pharo, ac a arhosodd yn nhir Midian; ac a eisteddodd wrth bydew. Ac i offeiriad Midian yr ydoedd saith o ferched: a’r rhai hynny a ddaethant ac a dynasant ddwfr, ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhau defaid eu tad. Ond y bugeiliaid a ddaethant ac a’u gyrasant ymaith: yna y cododd Moses, ac a’u cynorthwyodd hwynt, ac a ddyfrhaodd eu praidd hwynt. Yna y daethant at Reuel eu tad: ac efe a ddywedodd, Paham y daethoch heddiw cyn gynted? A hwy a ddywedasant, Eifftwr a’n hachubodd ni o law y bugeiliaid; a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd i ni, ac a ddyfrhaodd y praidd. Ac efe a ddywedodd wrth ei ferched, Pa le y mae efe? paham y gollyngasoch ymaith y gŵr? Gelwch arno, a bwytaed fara. A bu Moses fodlon i drigo gyda’r gŵr: ac yntau a roddodd Seffora ei ferch i Moses. A hi a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Gersom: Oherwydd dieithr (eb efe) a fûm i mewn gwlad ddieithr.