Exodus 19:1-6
Exodus 19:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ddau fis union ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft, dyma bobl Israel yn cyrraedd Anialwch Sinai. Roedden nhw wedi teithio o Reffidim i Anialwch Sinai, a gwersylla yno wrth droed y mynydd. Yna dyma Moses yn dringo i fyny’r mynydd i gyfarfod gyda Duw, a dyma’r ARGLWYDD yn galw arno o’r mynydd, “Dwed wrth ddisgynyddion Jacob, sef pobl Israel: ‘Dych chi wedi gweld beth wnes i i’r Eifftiaid. Dw i wedi’ch cario chi ar adenydd eryr a dod â chi yma. Nawr, os gwrandwch chi arna i a chadw amodau’r ymrwymiad dw i’n ei wneud gyda chi, byddwch chi’n drysor sbesial i mi o blith holl wledydd y byd. Fi sydd biau’r ddaear gyfan; a byddwch chi’n offeiriaid yn gwasanaethu’r Brenin, ac yn genedl sanctaidd.’ Dyna’r neges rwyt ti i’w rhoi i bobl Israel.”
Exodus 19:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ddiwrnod cyntaf y trydydd mis wedi i'r Israeliaid adael gwlad yr Aifft, daethant i anialwch Sinai. Wedi iddynt ymadael â Reffidim a chyrraedd anialwch Sinai, cododd Israel wersyll yno gyferbyn â'r mynydd. Aeth Moses i fyny at fynydd Duw, a galwodd yr ARGLWYDD arno o'r mynydd a dweud, “Fel hyn y dywedi wrth dylwyth Jacob ac wrth bobl Israel: ‘Fe welsoch yr hyn a wneuthum i'r Eifftiaid, ac fel y codais chwi ar adenydd eryrod a'ch cludo ataf fy hun. Yn awr, os gwrandewch yn ofalus arnaf a chadw fy nghyfamod, byddwch yn eiddo arbennig i mi ymhlith yr holl bobloedd, oherwydd eiddof fi'r ddaear i gyd. Byddwch hefyd yn deyrnas o offeiriaid i mi, ac yn genedl sanctaidd.’ Dyma'r geiriau yr wyt i'w llefaru wrth bobl Israel.”
Exodus 19:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn y trydydd mis, wedi dyfod meibion Israel allan o wlad yr Aifft, y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai. Canys hwy a aethant o Reffidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai; gwersyllasant hefyd yn yr anialwch: ac yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd. A Moses a aeth i fyny at DDUW: a’r ARGLWYDD a alwodd arno ef o’r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel; Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i’r Eifftiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y’ch dygais ataf fi fy hun. Yn awr, gan hynny, os gan wrando y gwrandewch ar fy llais, a chadw fy nghyfamod, chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi o flaen yr holl bobloedd: canys eiddof fi yr holl ddaear. A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma’r geiriau a leferi di wrth feibion Israel.