Exodus 18:20-21
Exodus 18:20-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gelli eu dysgu nhw am reolau a chyfreithiau Duw, a dweud wrthyn nhw sut dylen nhw fyw a beth ddylen nhw wneud. Ond yna rhaid i ti ddewis dynion cyfrifol – dynion duwiol a gonest, fyddai’n gwrthod derbyn breib – a’u penodi nhw’n swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant a deg.
Exodus 18:20-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ti hefyd sydd i ddysgu i'r bobl y deddfau a'r cyfreithiau, a rhoi gwybod iddynt sut y dylent ymddwyn a beth y dylent ei wneud. Ond ethol o blith yr holl bobl wŷr galluog a gonest, sy'n parchu Duw ac yn casáu llwgrwobrwyo, a'u penodi dros y bobl yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg.
Exodus 18:20-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dysg hefyd iddynt y deddfau a’r cyfreithiau; a hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a’r gweithredoedd a wnânt. Ac edrych dithau allan o’r holl bobl am wŷr nerthol, yn ofni DUW, gwŷr geirwir, yn casáu cybydd-dod; a gosod y rhai hyn arnynt hwy, yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, ac yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.