Exodus 17:8-16
Exodus 17:8-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Tra oedden nhw yn Reffidim, dyma’r Amaleciaid yn ymosod ar bobl Israel. A dyma Moses yn dweud wrth Josua, “Dewis rai o’n dynion ni i fynd allan i ymladd yn eu herbyn nhw. Yfory bydda i’n mynd i sefyll ar ben y bryn gyda ffon Duw yn fy llaw.” Felly aeth Josua allan i ymladd yn erbyn yr Amaleciaid fel roedd Moses wedi dweud wrtho. A dyma Moses yn mynd i sefyll ar ben y bryn gydag Aaron a Hur. Tra oedd Moses yn dal ei freichiau yn yr awyr, roedd Israel yn ennill y frwydr, ond os oedd yn rhoi ei freichiau i lawr, roedd yr Amaleciaid yn ennill. Pan oedd Moses yn rhy flinedig i ddal ei freichiau i fyny, dyma Aaron a Hur yn cymryd carreg a’i gosod iddo eistedd arni. Yna safodd y ddau, un bob ochr iddo, a dal ei freichiau i fyny drwy’r dydd nes oedd yr haul wedi machlud. Felly dyma Josua a’i filwyr yn ennill y frwydr a lladd yr Amaleciaid. A dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dw i eisiau i ti gadw cofnod o hyn yn y llyfr, a gwneud yn siŵr fod Josua’n gwybod amdano. Dw i’n mynd i gael gwared â’r Amaleciaid yn llwyr – fydd neb yn cofio am eu bodolaeth nhw!” Dyma Moses yn codi allor yno a’i galw yn Iafe-Nissi (sef ‘yr ARGLWYDD ydy fy fflag’). Dwedodd, “Am iddyn nhw godi dwrn yn erbyn gorsedd yr ARGLWYDD, bydd yr ARGLWYDD yn ymladd yn erbyn yr Amaleciaid bob amser.”
Exodus 17:8-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaeth Amalec i ymladd yn erbyn Israel yn Reffidim, dywedodd Moses wrth Josua, “Dewis dy wŷr, a dos ymaith i ymladd yn erbyn Amalec; yfory, fe gymeraf finnau fy lle ar ben y bryn, â gwialen Duw yn fy llaw.” Gwnaeth Josua fel yr oedd Moses wedi dweud wrtho, ac ymladdodd yn erbyn Amalec; yna aeth Moses, Aaron a Hur i fyny i ben y bryn. Pan godai Moses ei law, byddai Israel yn trechu; a phan ostyngai ei law, byddai Amalec yn trechu. Pan aeth ei ddwylo'n flinedig, cymerwyd carreg a'i gosod dano, ac eisteddodd Moses arni, gydag Aaron ar y naill ochr iddo a Hur ar y llall, yn cynnal ei ddwylo, fel eu bod yn gadarn hyd fachlud haul. Felly, gorchfygodd Josua Amalec a'i bobl â min y cleddyf. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Ysgrifenna hyn mewn llyfr yn goffadwriaeth, a mynega'r peth yng nghlyw Josua, sef fy mod am ddileu yn llwyr oddi tan y nefoedd bob atgof am Amalec.” Yna adeiladodd Moses allor a'i henwi'n Jehofa-nissi, a dweud, “Llaw ar faner yr ARGLWYDD! Bydd rhyfel rhwng yr ARGLWYDD ac Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.”
Exodus 17:8-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd ag Israel yn Reffidim. A dywedodd Moses wrth Josua, Dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd ag Amalec: yfory mi a safaf ar ben y bryn, â gwialen DUW yn fy llaw. Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymladdodd ag Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fyny i ben y bryn. A phan godai Moses ei law, y byddai Israel yn drechaf; a phan ollyngai ei law i lawr, Amalec a fyddai drechaf. A dwylo Moses oedd drymion; a hwy a gymerasant faen, ac a’i gosodasant dano ef; ac efe a eisteddodd arno: ac Aaron a Hur a gynaliasant ei ddwylo ef, un ar y naill du, a’r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddwylo ef sythion nes machludo yr haul. A Josua a orchfygodd Amalec a’i bobl â min y cleddyf. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna hyn mewn llyfr, yn goffadwriaeth; a mynega i Josua: canys gan ddileu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd. A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH-nissi. Canys efe a ddywedodd, Oherwydd tyngu o’r ARGLWYDD, y bydd i’r ARGLWYDD ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.