Exodus 17:8-13
Exodus 17:8-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Tra oedden nhw yn Reffidim, dyma’r Amaleciaid yn ymosod ar bobl Israel. A dyma Moses yn dweud wrth Josua, “Dewis rai o’n dynion ni i fynd allan i ymladd yn eu herbyn nhw. Yfory bydda i’n mynd i sefyll ar ben y bryn gyda ffon Duw yn fy llaw.” Felly aeth Josua allan i ymladd yn erbyn yr Amaleciaid fel roedd Moses wedi dweud wrtho. A dyma Moses yn mynd i sefyll ar ben y bryn gydag Aaron a Hur. Tra oedd Moses yn dal ei freichiau yn yr awyr, roedd Israel yn ennill y frwydr, ond os oedd yn rhoi ei freichiau i lawr, roedd yr Amaleciaid yn ennill. Pan oedd Moses yn rhy flinedig i ddal ei freichiau i fyny, dyma Aaron a Hur yn cymryd carreg a’i gosod iddo eistedd arni. Yna safodd y ddau, un bob ochr iddo, a dal ei freichiau i fyny drwy’r dydd nes oedd yr haul wedi machlud. Felly dyma Josua a’i filwyr yn ennill y frwydr a lladd yr Amaleciaid.
Exodus 17:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaeth Amalec i ymladd yn erbyn Israel yn Reffidim, dywedodd Moses wrth Josua, “Dewis dy wŷr, a dos ymaith i ymladd yn erbyn Amalec; yfory, fe gymeraf finnau fy lle ar ben y bryn, â gwialen Duw yn fy llaw.” Gwnaeth Josua fel yr oedd Moses wedi dweud wrtho, ac ymladdodd yn erbyn Amalec; yna aeth Moses, Aaron a Hur i fyny i ben y bryn. Pan godai Moses ei law, byddai Israel yn trechu; a phan ostyngai ei law, byddai Amalec yn trechu. Pan aeth ei ddwylo'n flinedig, cymerwyd carreg a'i gosod dano, ac eisteddodd Moses arni, gydag Aaron ar y naill ochr iddo a Hur ar y llall, yn cynnal ei ddwylo, fel eu bod yn gadarn hyd fachlud haul. Felly, gorchfygodd Josua Amalec a'i bobl â min y cleddyf.
Exodus 17:8-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd ag Israel yn Reffidim. A dywedodd Moses wrth Josua, Dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd ag Amalec: yfory mi a safaf ar ben y bryn, â gwialen DUW yn fy llaw. Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymladdodd ag Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fyny i ben y bryn. A phan godai Moses ei law, y byddai Israel yn drechaf; a phan ollyngai ei law i lawr, Amalec a fyddai drechaf. A dwylo Moses oedd drymion; a hwy a gymerasant faen, ac a’i gosodasant dano ef; ac efe a eisteddodd arno: ac Aaron a Hur a gynaliasant ei ddwylo ef, un ar y naill du, a’r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddwylo ef sythion nes machludo yr haul. A Josua a orchfygodd Amalec a’i bobl â min y cleddyf.