Exodus 17:6-7
Exodus 17:6-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydda i’n disgwyl amdanat ti ar y graig ar Fynydd Sinai. Dw i eisiau i ti daro’r graig, a bydd dŵr yn llifo allan ohoni, i’r bobl gael yfed.” A dyma Moses yn gwneud hynny o flaen llygaid arweinwyr Israel. Dyma fe’n enwi’r lle yn Massa (“Lle’r profi”) a Meriba (“Lle’r ffraeo”), o achos yr holl ffraeo, a’r ffordd wnaeth pobl Israel roi’r ARGLWYDD ar brawf yno drwy ofyn, “Ydy’r ARGLWYDD gyda ni neu ddim?”
Exodus 17:6-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan weli fi'n sefyll o'th flaen ar graig yn Horeb, taro'r graig, a daw dŵr allan ohoni, a chaiff y bobl yfed.” Gwnaeth Moses hyn ym mhresenoldeb henuriaid Israel. Galwodd enw'r lle yn Massa a Meriba, oherwydd ymryson yr Israeliaid ac am iddynt herio'r ARGLWYDD trwy ofyn, “A yw'r ARGLWYDD yn ein plith, ai nac ydyw?”
Exodus 17:6-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wele, mi a safaf o’th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan ohoni, fel y gallo’r bobl yfed. A Moses a wnaeth felly yng ngolwg henuriaid Israel. Ac efe a alwodd enw y lle Massa, a Meriba; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A ydyw yr ARGLWYDD yn ein plith, ai nid yw?