Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 14:1-22

Exodus 14:1-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dwed wrth bobl Israel am droi yn ôl i gyfeiriad Pi-hachiroth, sydd rhwng Migdol a’r môr, a gwersylla ar lan y môr, yn union gyferbyn â Baal-tseffon. Bydd y Pharo yn meddwl, ‘Dydy pobl Israel ddim yn gwybod ble i droi. Maen nhw wedi’u dal rhwng yr anialwch a’r môr!’ Bydda i’n gwneud y Pharo yn ystyfnig unwaith eto, a bydd yn dod ar eich ôl. Ond bydda i’n cael fy anrhydeddu drwy beth fydd yn digwydd i’r Pharo a’i fyddin, a bydd pobl yr Aifft yn dod i ddeall mai fi ydy’r ARGLWYDD.” Felly dyma bobl Israel yn gwneud beth ddwedodd Moses. Pan ddywedwyd wrth frenin yr Aifft fod y bobl wedi dianc, dyma fe a’i swyddogion yn newid eu meddyliau, “Beth oedd ar ein pennau ni?” medden nhw. “Dŷn ni wedi gadael i’n caethweision fynd yn rhydd!” Felly dyma’r Pharo’n paratoi ei gerbydau rhyfel ac yn mynd â’i filwyr gydag e. Aeth â chwech chant o’i gerbydau gorau, a’r cerbydau eraill i gyd, gyda cadfridog yn bob un. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud y Pharo, brenin yr Aifft, yn ystyfnig, a dyma fe’n mynd ar ôl pobl Israel. Ond roedd pobl Israel yn mynd yn eu blaenau yn hyderus. Dyma’r Eifftiaid yn mynd ar eu holau gyda’u ceffylau a’u cerbydau rhyfel a’u milwyr i gyd, a dod o hyd iddyn nhw yn gwersylla yn Pi-hachiroth, ar lan y môr, gyferbyn a Baal-tseffon. Wrth i’r Pharo a’i fyddin agosáu, dyma bobl Israel yn eu gweld nhw’n dod tuag atyn nhw. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw’n gweiddi ar yr ARGLWYDD, a dweud wrth Moses, “Wyt ti wedi dod â ni allan i’r anialwch i farw am fod dim lle i’n claddu ni yn yr Aifft? Beth oedd ar dy ben di yn dod â ni allan o’r Aifft? Dyma’n union ddwedon ni pan oedden ni yn yr Aifft, ‘Gad lonydd i ni ddal ati i weithio i’r Eifftiaid. Mae’n well gwneud hynny na mynd i farw yn yr anialwch!’” Ond dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Peidiwch bod ag ofn! Arhoswch chi, a chewch weld sut bydd yr ARGLWYDD yn eich achub chi. Fyddwch chi ddim yn gweld yr Eifftiaid acw byth eto. Mae’r ARGLWYDD yn mynd i ymladd drosoch chi. Does rhaid i chi wneud dim!” Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Pam wyt ti’n galw arna i? Dwed wrth bobl Israel am fynd yn eu blaenau. Cymer di dy ffon, a’i hestyn tuag at y môr. Bydd y môr yn hollti, a bydd pobl Israel yn gallu mynd drwy ei ganol ar dir sych! Bydda i’n gwneud yr Eifftiaid mor ystyfnig, byddan nhw’n ceisio mynd ar eich ôl drwy’r môr. Ond bydda i’n cael fy anrhydeddu o achos beth fydd yn digwydd i’r Pharo a’i fyddin, gyda’i holl gerbydau a’i farchogion. A bydd yr Eifftiaid yn dod i ddeall mai fi ydy’r ARGLWYDD, o achos beth fydd yn digwydd iddyn nhw.” Dyma angel Duw, oedd wedi bod yn arwain pobl Israel, yn symud tu ôl iddyn nhw. A dyma’r golofn o niwl yn symud o’r tu blaen i sefyll tu ôl iddyn nhw, rhwng gwersyll yr Eifftiaid a gwersyll pobl Israel. Roedd yn gwmwl tywyll un ochr, ac yn goleuo’r nos yr ochr arall. Felly doedd y fyddin un ochr ddim yn gallu mynd yn agos at yr ochr arall drwy’r nos. Dyma Moses yn estyn ei law tuag at y môr, a dyma’r ARGLWYDD yn dod â gwynt cryf o’r dwyrain i chwythu drwy’r nos a gwneud i’r môr fynd yn ôl. Dyma’r môr yn gwahanu, ac roedd gwely’r môr yn llwybr sych drwy’r canol. A dyma bobl Israel yn mynd drwy ganol y môr ar dir sych, a’r dŵr fel wal bob ochr iddyn nhw.

Exodus 14:1-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dywed wrth yr Israeliaid am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a'r môr; yr ydych i wersyllu wrth y môr gyferbyn â Baal-seffon. Bydd Pharo'n meddwl bod yr Israeliaid wedi eu dal yn y wlad a'u cau i mewn gan yr anialwch. Yna, byddaf fi'n caledu ei galon, a bydd ef yn eu herlid; felly, fe enillaf ogoniant i mi fy hun ar draul Pharo a'i holl fyddin, a chaiff yr Eifftiaid wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.” Gwnaeth yr Israeliaid fel y gorchmynnwyd iddynt. Pan ddywedwyd wrth frenin yr Aifft fod y bobl wedi ffoi, newidiodd agwedd Pharo a'i weision tuag atynt, ac meddent, “Beth yw hyn a wnaethom? Yr ydym wedi rhyddhau'r Israeliaid o'n gwasanaeth!” Felly paratôdd Pharo ei gerbyd ac aeth â'i fyddin gydag ef; cymerodd hefyd chwe chant o gerbydau dethol, a'r holl gerbydau eraill oedd yn yr Aifft, a chapten ar bob un. Caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo brenin yr Aifft, ac erlidiodd hwnnw'r Israeliaid wrth iddynt fynd ymaith yn fuddugoliaethus. Aeth yr Eifftiaid ar eu hôl gyda holl feirch Pharo a'i gerbydau, ei farchogion a'i fyddin, a'u goddiweddyd tra oeddent yn gwersyllu wrth y môr gerllaw Pihahiroth, gyferbyn â Baal-seffon. Wrth i Pharo nesáu, edrychodd yr Israeliaid i fyny a gweld yr Eifftiaid yn dod ar eu holau, ac yn eu dychryn gwaeddodd pobl Israel ar yr ARGLWYDD. Dywedasant wrth Moses, “Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft y dygaist ni i'r anialwch i farw? Pam y gwnaethost hyn i ni, a dod â ni allan o'r Aifft? Onid oeddem wedi dweud wrthyt yn yr Aifft am adael llonydd inni wasanaethu'r Eifftiaid? Byddai'n well inni eu gwasanaethu hwy na marw yn yr anialwch.” Dywedodd Moses wrth y bobl, “Peidiwch ag ofni; byddwch gadarn ac edrychwch ar y waredigaeth y mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi i chwi heddiw, oherwydd ni fyddwch yn gweld yr Eifftiaid a welsoch heddiw byth mwy. Bydd yr ARGLWYDD yn ymladd drosoch; am hynny, byddwch dawel.” Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Pam yr wyt yn gweiddi arnaf? Dywed wrth yr Israeliaid am fynd ymlaen. Cod dithau dy wialen, ac estyn dy law allan dros y môr i'w rannu, er mwyn i'r Israeliaid fynd trwy ei ganol ar dir sych. Byddaf finnau'n caledu calonnau'r Eifftiaid er mwyn iddynt eu dilyn, ac enillaf ogoniant ar draul Pharo a'i holl fyddin, ei gerbydau a'i farchogion. Caiff yr Eifftiaid wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD pan enillaf ogoniant ar draul Pharo a'i gerbydau a'i farchogion.” Symudodd angel Duw, a fu'n mynd o flaen byddin Israel, ac aeth y tu ôl iddynt; a symudodd y golofn niwl a fu o'u blaen, a safodd y tu ôl iddynt, gan aros rhwng byddin yr Aifft a byddin Israel. Yr oedd y cwmwl yn dywyllwch, ond yn goleuo trwy'r nos i'r Israeliaid; ac ni ddaeth y naill ar gyfyl y llall trwy'r nos. Estynnodd Moses ei law dros y môr, a thrwy'r nos gyrrodd yr ARGLWYDD y môr yn ei ôl â gwynt cryf o'r dwyrain. Gwnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd. Aeth yr Israeliaid trwy ganol y môr ar dir sych, ac yr oedd y dyfroedd fel mur ar y naill ochr a'r llall.

Exodus 14:1-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Dywed wrth feibion Israel, am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a’r môr, o flaen Baal-seffon: ar ei chyfer y gwersyllwch wrth y môr. Canys dywed Pharo am feibion Israel, Rhwystrwyd hwynt yn y tir; caeodd yr anialwch arnynt. A mi a galedaf galon Pharo, fel yr erlidio ar eu hôl hwynt: felly y’m gogoneddir ar Pharo, a’i holl fyddin; a’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD. Ac felly y gwnaethant. A mynegwyd i frenin yr Aifft, fod y bobl yn ffoi: yna y trodd calon Pharo a’i weision yn erbyn y bobl; a dywedasant, Beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o’n gwasanaethu? Ac efe a daclodd ei gerbyd, ac a gymerodd ei bobl gydag ef. A chymerodd chwe chant o ddewis gerbydau, a holl gerbydau yr Aifft, a chapteiniaid ar bob un ohonynt. A’r ARGLWYDD a galedasai galon Pharo brenin yr Aifft, ac efe a ymlidiodd ar ôl meibion Israel: ond yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw uchel. A’r Eifftiaid a ymlidiasant ar eu hôl hwynt, sef holl feirch a cherbydau Pharo, a’i wŷr meirch, a’i fyddin, ac a’u goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr, gerllaw Pihahiroth, o flaen Baal-seffon. A phan nesaodd Pharo, meibion Israel a godasant eu golwg; ac wele yr Eifftiaid yn dyfod ar eu hôl; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr ARGLWYDD. A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o’r Aifft? Onid dyma y peth a lefarasom wrthyt yn yr Aifft, gan ddywedyd, Paid â ni, fel y gwasanaethom yr Eifftiaid? canys gwell fuasai i ni wasanaethu’r Eifftiaid, na marw yn yr anialwch. A Moses a ddywedodd wrth y bobl, Nac ofnwch; sefwch, ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr ARGLWYDD, yr hwn a wna efe i chwi heddiw; oblegid yr Eifftiaid y rhai a welsoch chwi heddiw, ni chewch eu gweled byth ond hynny. Yr ARGLWYDD a ymladd drosoch; am hynny tewch chwi â sôn. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Paham y gwaeddi arnaf? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt. A chyfod dithau dy wialen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef: a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych. Wele, fi, ie myfi a galedaf galon yr Eifftiaid, fel y delont ar eu hôl hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharo, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar ei farchogion. A’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw’r ARGLWYDD, pan y’m gogoneddir ar Pharo, ar ei gerbydau, ac ar ei farchogion. Ac angel DUW, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symudodd, ac a aeth o’u hôl hwynt; a’r golofn niwl a aeth ymaith o’u tu blaen hwynt, ac a safodd o’u hôl hwynt. Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i’r Eifftiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos. A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a’r ARGLWYDD a yrrodd y môr yn ei ôl, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd. A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o’r tu deau, ac o’r tu aswy.