Exodus 11:5-6
Exodus 11:5-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
a bydd pob mab hynaf drwy’r wlad yn marw – o fab hynaf y Pharo ar ei orsedd i fab hyna’r gaethferch sy’n troi’r felin law, a hyd yn oed pob anifail gwryw oedd y cyntaf i gael ei eni. Bydd pobl yn wylofain drwy wlad yr Aifft i gyd. Fydd dim byd tebyg wedi digwydd erioed o’r blaen, a fydd dim byd tebyg byth eto.
Exodus 11:5-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
a bydd farw pob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntafanedig Pharo, sy'n eistedd ar ei orsedd, hyd gyntafanedig y forwyn sydd wrth y felin, a chyntafanedig pob anifail hefyd. Bydd llefain mawr trwy holl wlad yr Aifft, mwy nag a fu o'r blaen nac a welir eto.
Exodus 11:5-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft a fydd marw, o gyntaf-anedig Pharo, yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrngadair, hyd gyntaf-anedig y wasanaethferch sydd ar ôl y felin; a phob cyntaf-anedig o anifail. A bydd gweiddi mawr trwy holl wlad yr Aifft, yr hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwyach ei gyffelyb.