Exodus 1:15-16
Exodus 1:15-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly dyma frenin yr Aifft yn siarad â bydwragedd yr Hebreaid, Shiffra a Pwa, a dweud wrthyn nhw, “Pan fyddwch chi’n gofalu am wragedd Hebreig wrth iddyn nhw eni plant, os bachgen fydd yn cael ei eni, dw i eisiau i chi ei ladd e’n syth; ond cewch adael i’r merched fyw.”
Rhanna
Darllen Exodus 1Exodus 1:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd brenin yr Aifft wrth Siffra a Pua, dwy fydwraig yr Hebreaid, “Pan fyddwch yn gweini ar wragedd yr Hebreaid, sylwch ar y plentyn a enir: os mab fydd, lladdwch ef; os merch, gadewch iddi fyw.”
Rhanna
Darllen Exodus 1Exodus 1:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A brenin yr Aifft a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebreësau; a ba rai enw un oedd Sipra, ac enw yr ail Pua: Ac efe a ddywedodd, Pan fyddoch fydwragedd i’r Hebreësau, a gweled ohonoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw.
Rhanna
Darllen Exodus 1