Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Esther 6:1-13

Esther 6:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Y noson honno yr oedd y brenin yn methu cysgu, a gorchmynnodd iddynt ddod â llyfr y cofiadur, sef y cronicl, ac fe'i darllenwyd iddo. Ynddo cofnodwyd yr hyn a ddywedodd Mordecai am Bigthana a Theres, dau eunuch y brenin oedd yn gofalu am y porth ac oedd wedi cynllwyn i ymosod ar y brenin. Dywedodd y brenin, “Pa glod ac anrhydedd a gafodd Mordecai am hyn?” Atebodd y llanciau oedd yn gweini ar y brenin nad oedd wedi derbyn dim. Gofynnodd y brenin, “Pwy sydd yn y cyntedd?” Yr oedd Haman newydd ddod i gyntedd allanol tŷ'r brenin i ddweud wrtho am grogi Mordecai ar y crocbren yr oedd wedi ei baratoi ar ei gyfer. Dywedodd gweision y brenin wrtho, “Haman sy'n sefyll yn y cyntedd.” A galwodd y brenin ar Haman i ddod i mewn. Daeth Haman ymlaen, ac meddai'r brenin wrtho, “Beth ddylid ei wneud i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu?” Ac meddai Haman wrtho'i hun, “Pwy fyddai'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu yn fwy na mi?” Dywedodd wrth y brenin, “I'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu, dylid dod â gwisg frenhinol a wisgir gan y brenin, a cheffyl y marchoga'r brenin arno, un y mae arfbais y brenin ar ei dalcen. Rhodder y wisg a'r ceffyl i un o dywysogion pwysicaf y brenin, a gwisged yntau'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu, a'i arwain trwy sgwâr y ddinas ar gefn y ceffyl, a chyhoeddi o'i flaen fel hyn: ‘Dyma sy'n digwydd i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu.’ ” Yna dywedodd y brenin wrth Haman, “Dos ar frys i gael y wisg a'r ceffyl fel y dywedaist, a gwna hyn i Mordecai yr Iddew, sy'n eistedd ym mhorth y brenin. Gofala wneud popeth a ddywedaist.” Felly cymerodd Haman y wisg a'r ceffyl; gwisgodd Mordecai a'i arwain ar gefn y ceffyl trwy sgwâr y ddinas, a chyhoeddi o'i flaen: “Dyma sy'n digwydd i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu.” Yna dychwelodd Mordecai i borth y brenin, ond brysiodd Haman adref yn drist, â gorchudd am ei ben. Dywedodd wrth ei wraig Seres a'i holl gyfeillion am y cyfan a ddigwyddodd iddo. Ac meddai ei wŷr doeth a'i wraig Seres wrtho, “Os yw Mordecai, yr wyt yn dechrau cwympo o'i flaen, yn Iddew, ni orchfygi di mohono; ond yr wyt ti'n sicr o gael dy drechu ganddo ef.”

Esther 6:1-13 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Y noson honno roedd y brenin yn methu cysgu. Felly dyma fe’n galw am y sgrôl oedd â hanes digwyddiadau pwysig yr Ymerodraeth ynddi, a chafodd ei darllen iddo. A dyma nhw’n dod at y cofnod fod Mordecai wedi rhoi gwybod am y cynllwyn i ladd y Brenin Ahasferus, gan y ddau was oedd yn gwarchod drws ystafell y brenin, sef Bigthan a Teresh. Dyma’r brenin yn gofyn, “Beth gafodd ei wneud i anrhydeddu Mordecai am beth wnaeth e?” A dyma gweision y brenin yn ateb, “Dim byd o gwbl.” Y funud honno roedd Haman wedi cyrraedd y cyntedd tu allan i’r neuadd frenhinol, i awgrymu i’r brenin y dylai Mordecai gael ei grogi ar y crocbren oedd wedi’i adeiladu iddo. A dyma’r brenin yn gofyn, “Pwy sydd yn y cyntedd tu allan?” “Haman sydd yna,” meddai’r gweision. A dyma’r brenin yn dweud, “Gadewch iddo ddod i mewn.” Pan ddaeth Haman i mewn, dyma’r brenin yn gofyn iddo, “Beth ddylid ei wneud os ydy’r brenin wir eisiau anrhydeddu rhywun?” Roedd Haman yn meddwl mai fe oedd yr un oedd y brenin eisiau’i anrhydeddu, felly dyma fe’n dweud, “Os ydy’r brenin am anrhydeddu rhywun, dylai ei arwisgo gyda mantell frenhinol, a’i osod ar geffyl mae’r brenin ei hun wedi’i farchogaeth – un sy’n gwisgo arwyddlun y frenhiniaeth ar ei dalcen. Dylai un o brif swyddogion y brenin gymryd y fantell a’r ceffyl ac arwisgo’r dyn mae’r brenin am ei anrhydeddu, ei roi i farchogaeth ar y ceffyl, a’i arwain drwy sgwâr y ddinas. A dylid cyhoeddi o’i flaen, ‘Dyma sy’n cael ei wneud i’r dyn mae’r brenin am ei anrhydeddu!’” Yna dyma’r brenin yn dweud wrth Haman, “Iawn, dos ar frys. Cymer di’r fantell a’r ceffyl, a gwna hynny i Mordecai yr Iddew sy’n eistedd yn y llys brenhinol. Gwna bopeth yn union fel gwnest ti ddisgrifio.” Felly dyma Haman yn cymryd y fantell a’r ceffyl ac yn arwisgo Mordecai. Wedyn dyma fe’n ei arwain ar y march drwy ganol y ddinas, yn cyhoeddi o’i flaen, “Dyma sy’n cael ei wneud i’r dyn mae’r brenin am ei anrhydeddu!” Ar ôl hyn i gyd, aeth Mordecai yn ôl i’r llys brenhinol, a dyma Haman yn brysio adre yn hollol ddigalon yn cuddio’i ben mewn cywilydd. Yna aeth i ddweud beth oedd wedi digwydd wrth ei wraig a’i ffrindiau i gyd. A dyma’r cynghorwyr a’i wraig Seresh yn ymateb, “Mae ar ben arnat ti os mai Iddew ydy’r Mordecai yma wyt ti wedi dechrau syrthio o’i flaen, does gen ti ddim gobaith!”

Esther 6:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Y noson honno cwsg y brenin a giliodd ymaith; am hynny efe a archodd ddwyn llyfr coffadwriaethau hanesion yr amseroedd; a darllenwyd hwynt gerbron y brenin. Yna y cafwyd yn ysgrifenedig yr hyn a fynegasai Mordecai am Bigthana a Theres, dau o ystafellyddion y brenin, o’r rhai oedd yn cadw y trothwy; sef y rhai a geisiasent estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus. A dywedodd y brenin, Pa anrhydedd neu fawredd a wnaed i Mordecai am hyn? A gweision y brenin, sef ei weinidogion ef, a ddywedasant, Ni wnaed dim erddo ef. A’r brenin a ddywedodd, Pwy sydd yn y cyntedd? A Haman a ddaethai i gyntedd nesaf allan tŷ y brenin, i ddywedyd wrth y brenin am grogi Mordecai ar y pren a baratoesai efe iddo. A gweision y brenin a ddywedasant wrtho, Wele Haman yn sefyll yn y cyntedd. A dywedodd y brenin, Deled i mewn. A phan ddaeth Haman i mewn, dywedodd y brenin wrtho, Beth a wneir i’r gŵr y mae y brenin yn ewyllysio ei anrhydeddu? Yna Haman a ddywedodd yn ei galon, I bwy yr ewyllysia y brenin wneuthur anrhydedd yn fwy nag i mi? A Haman a ddywedodd wrth y brenin, Y gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu, Dygant y wisg frenhinol iddo, yr hon a wisg y brenin, a’r march y merchyg y brenin arno, a rhodder y frenhinol goron am ei ben ef: A rhodder y wisg, a’r march, yn llaw un o dywysogion ardderchocaf y brenin, a gwisgant am y gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu, a pharant iddo farchogaeth ar y march trwy heol y ddinas, a chyhoeddant o’i flaen ef, Fel hyn y gwneir i’r gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu. Yna y brenin a ddywedodd wrth Haman, Brysia, cymer y wisg a’r march, fel y lleferaist, a gwna felly i Mordecai yr Iddew, yr hwn sydd yn eistedd ym mhorth y brenin: na ad heb wneuthur ddim o’r hyn oll a leferaist. Felly Haman a gymerth y wisg a’r march, ac a wisgodd am Mordecai, ac a wnaeth hefyd iddo farchogaeth trwy heol y ddinas, ac a gyhoeddodd o’i flaen ef, Fel hyn y gwneir i’r gŵr y mae y brenin yn mynnu ei anrhydeddu. A dychwelodd Mordecai i borth y brenin. A Haman a frysiodd i’w dŷ yn alarus, wedi gorchuddio ei ben. A Haman a adroddodd i Seres ei wraig, ac i’w holl garedigion, yr hyn oll a ddigwyddasai iddo. Yna ei ddoethion, a Seres ei wraig, a ddywedasant wrtho, Os o had yr Iddewon y mae Mordecai, yr hwn y dechreuaist syrthio o’i flaen, ni orchfygi mohono, ond gan syrthio y syrthi o’i flaen ef.