Esther 2:7-11
Esther 2:7-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Mordecai wedi magu ei gyfnither, Hadassa (sef Esther). Roedd ei thad a’i mam wedi marw, ac roedd Mordecai wedi’i mabwysiadu a’i magu fel petai’n ferch iddo fe ei hun. Roedd hi wedi tyfu’n ferch ifanc siapus a hynod o ddeniadol. Pan roddodd y Brenin Ahasferus y gorchymyn i edrych am ferched hardd iddo, cafodd llawer iawn o ferched ifanc eu cymryd i gaer Shwshan, ac roedd Esther yn un ohonyn nhw. Cafodd hi a’r merched eraill eu cymryd i’r palas brenhinol, a’u rhoi dan ofal Hegai. Gwnaeth Esther argraff ar Hegai o’r dechrau. Roedd e’n ei hoffi’n fawr, ac aeth ati ar unwaith i roi coluron iddi a bwyd arbennig, a rhoddodd saith morwyn wedi’u dewis o balas y brenin iddi. Yna rhoddodd yr ystafelloedd gorau yn llety’r harîm iddi hi a’i morynion. Doedd Esther wedi dweud dim wrth neb am ei chefndir a’i theulu, am fod Mordecai wedi dweud wrthi am beidio. Roedd yn awyddus iawn i wybod sut roedd hi’n dod yn ei blaen, a beth oedd yn digwydd iddi. Felly bob dydd byddai Mordecai’n cerdded yn ôl ac ymlaen wrth ymyl iard y tŷ lle roedd y merched yn byw.
Esther 2:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd ef wedi mabwysiadu ei gyfnither Hadassa, sef Esther, am ei bod yn amddifad. Yr oedd hi'n ferch deg a phrydferth; a phan fu farw ei thad a'i mam, mabwysiadodd Mordecai hi'n ferch iddo'i hun. Pan gyhoeddwyd gair a gorchymyn y brenin a chasglu llawer o ferched ifainc i'r palas yn Susan o dan ofal Hegai, daethpwyd ag Esther i dŷ'r brenin a oedd yng ngofal Hegai, ceidwad y gwragedd. Yr oedd y ferch yn dderbyniol yn ei olwg, a chafodd ffafr ganddo. Trefnodd iddi gael ar unwaith ei hoffer coluro a'i dogn bwyd, a rhoddodd iddi saith o forynion golygus o dŷ'r brenin, a'i symud hi a'i morynion i le gwell yn nhŷ'r gwragedd. Nid oedd Esther wedi sôn am ei chenedl na'i thras, am i Mordecai orchymyn iddi beidio. Bob dydd âi Mordecai heibio i gyntedd tŷ'r gwragedd er mwyn gwybod sut yr oedd Esther, a beth oedd yn digwydd iddi.
Esther 2:7-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a fagasai Hadassa, honno yw Esther, merch ei ewythr ef frawd ei dad; canys nid oedd iddi dad na mam: a’r llances oedd weddeiddlwys, a glân yr olwg; a phan fuasai ei thad a’i mam hi farw, Mordecai a’i cymerasai hi yn ferch iddo. A phan gyhoeddwyd gair y brenin a’i gyfraith, pan gasglasid hefyd lancesau lawer i Susan y brenhinllys dan law Hegai, cymerwyd Esther i dŷ y brenin, dan law Hegai ceidwad y gwragedd. A’r llances oedd deg yn ei olwg ef, a hi a gafodd ffafr ganddo; am hynny efe ar frys a barodd roddi iddi bethau i’w glanhau, a’i rhannau, a rhoddi iddi saith o lancesau golygus, o dŷ y brenin: ac efe a’i symudodd hi a’i llancesau i’r fan orau yn nhŷ y gwragedd. Ond ni fynegasai Esther ei phobl na’i chenedl: canys Mordecai a orchmynasai iddi nad ynganai. A Mordecai a rodiodd beunydd o flaen cyntedd tŷ y gwragedd, i wybod llwyddiant Esther, a pheth a wnelid iddi.