Esther 2:19-20
Esther 2:19-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd y merched ifanc yn cael eu galw at ei gilydd am yr ail waith, roedd Mordecai wedi’i benodi’n swyddog yn y llys brenhinol. Doedd Esther yn dal ddim wedi dweud dim am ei theulu a’i chefndir, fel roedd Mordecai wedi’i chynghori. Roedd hi’n dal yn ufuddhau iddo, fel roedd hi wedi gwneud ers pan oedd e’n ei magu hi.
Esther 2:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaeth y gwyryfon at ei gilydd yr ail waith, yr oedd Mordecai'n eistedd ym mhorth llys y brenin. Nid oedd Esther wedi sôn am ei thras na'i chenedl, fel y gorchmynnodd Mordecai iddi; yr oedd hi'n derbyn cynghorion Mordecai, fel y gwnâi pan oedd yn ei magu.
Esther 2:19-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan gasglwyd y gwyryfon yr ail waith, yna Mordecai oedd yn eistedd ym mhorth y brenin. Nid oedd Esther yn mynegi ei chenedl, na’i phobl; megis y gorchmynasai Mordecai iddi: canys Esther oedd yn gwneuthur yr hyn a ddywedasai Mordecai, fel cynt pan oedd hi yn ei meithrin gydag ef.