Esther 1:20-22
Esther 1:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan glywir trwy'r holl deyrnas, er mor fawr ydyw, y gorchymyn a wnaeth y brenin, bydd pob gwraig, o'r leiaf hyd y fwyaf, yn parchu ei gŵr.” Yr oedd cyngor Memuchan yn dderbyniol gan y brenin a'r tywysogion, a gwnaeth y brenin fel yr awgrymodd. Anfonwyd llythyrau i holl daleithiau'r brenin, i bob talaith yn ei hysgrifen ei hun a phob cenedl yn ei hiaith ei hun, er mwyn sicrhau bod pob dyn, beth bynnag ei iaith, yn feistr ar ei dŷ ei hun.
Esther 1:20-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dylai dyfarniad y brenin gael ei gyhoeddi drwy’r deyrnas fawr yma’n gyfan. Wedyn bydd gwragedd yn parchu eu gwŷr, beth bynnag ydy eu safle cymdeithasol nhw.” Roedd y brenin a’r swyddogion eraill yn hoffi awgrym Memwchan, felly dyna wnaeth e. Anfonodd lythyrau allan i’r taleithiau i gyd. Roedd pob llythyr wedi’i ysgrifennu yn iaith y dalaith honno. Roedd yn dweud fod pob dyn i reoli ei deulu ei hun, ac y dylid siarad ei famiaith ei hun yn y cartref.
Esther 1:20-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan glywer gorchymyn y brenin, yr hwn a wnelo efe, trwy ei holl frenhiniaeth, (yr hon sydd fawr,) yna yr holl wragedd a roddant anrhydedd i’w gwŷr, o’r mwyaf hyd y lleiaf. A da oedd y peth yng ngolwg y brenin a’r tywysogion; a’r brenin a wnaeth yn ôl gair Memuchan: Canys efe a anfonodd lythyrau i holl daleithiau y brenin, ie, i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith eu hun; ar fod pob gŵr yn arglwyddiaethu yn ei dŷ ei hun; a chyhoeddi hyn yn ôl tafodiaith pob rhyw bobl.