Effesiaid 6:14-17
Effesiaid 6:14-17 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Safwch gyda gwirionedd wedi’i rwymo fel belt am eich canol, cyfiawnder Duw yn llurig amdanoch, a’r brwdfrydedd i rannu’r newyddion da am heddwch gyda Duw yn esgidiau ar eich traed. Daliwch eich gafael yn nharian ffydd bob amser – byddwch yn gallu diffodd saethau tanllyd yr un drwg gyda hi. Derbyniwch achubiaeth yn helmed ar eich pen, a newyddion da Duw, sef cleddyf yr Ysbryd, yn arf yn eich llaw.
Effesiaid 6:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Safwch, ynteu, â gwirionedd yn wregys am eich canol, a chyfiawnder yn arfwisg ar eich dwyfron, a pharodrwydd i gyhoeddi Efengyl tangnefedd yn esgidiau am eich traed. Heblaw hyn oll, ymarfogwch â tharian ffydd; â hon byddwch yn gallu diffodd holl saethau tanllyd yr Un drwg. Derbyniwch helm iachawdwriaeth a chleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw.
Effesiaid 6:14-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder; A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd: Uwchlaw pob dim, wedi cymryd tarian y ffydd, â’r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall. Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw