Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Effesiaid 6:1-24

Effesiaid 6:1-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dylech chi’r plant sy’n perthyn i’r Arglwydd fod yn ufudd i’ch rhieni, am mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Y gorchymyn cyntaf sydd ag addewid ynghlwm wrtho ydy: Gofala am dy dad a dy fam, a bydd pethau’n mynd yn dda i ti, a chei fyw’n hir. Chi’r tadau, peidiwch trin eich plant mewn ffordd sy’n eu gwylltio nhw. Dylech eu magu a’u dysgu nhw i wneud beth mae’r Arglwydd yn ei ddweud. Chi sy’n gaethweision, byddwch yn gwbl ufudd i’ch meistri daearol, a dangos parch go iawn atyn nhw. Gweithiwch yn galed, yn union fel petaech chi’n gweithio i’r Meseia ei hun – nid dim ond er mwyn ennill ffafr y meistr pan mae’n eich gwylio chi. Fel caethweision y Meseia, ewch ati o ddifri i wneud beth mae Duw am i chi ei wneud. Gweithiwch eich gorau glas, fel petaech yn gweithio i’r Arglwydd ei hun, dim i bobl. Cofiwch mai’r Arglwydd fydd yn gwobrwyo pawb am y daioni mae’n ei wneud – caethwas neu beidio. A chi’r meistri yr un fath, dylech drin eich caethweision yn deg. Peidiwch eu bwlio nhw. Cofiwch fod Duw, sydd yn y nefoedd, yn feistr ar y naill a’r llall ohonoch chi. Does ganddo fe ddim ffefrynnau! Dyma’r peth olaf sydd i’w ddweud: Byddwch yn gryf, a chael eich nerth gan yr Arglwydd a’r pŵer aruthrol sydd ganddo fe. Mae Duw wedi paratoi arfwisg i chi ei gwisgo yn y frwydr. Byddwch chi’n gallu gwneud safiad yn erbyn triciau slei y diafol. Dŷn ni ddim yn ymladd yn erbyn pobl. Mae’n brwydr ni yn erbyn y bodau ysbrydol sy’n llywodraethu, sef yr awdurdodau a’r pwerau tywyll sy’n rheoli’r byd yma; y fyddin ysbrydol ddrwg yn y byd nefol. Felly gwisgwch yr arfwisg mae Duw’n ei rhoi i chi, er mwyn i chi ddal eich tir pan fydd pethau’n ddrwg, a dal i sefyll ar ddiwedd y frwydr. Safwch gyda gwirionedd wedi’i rwymo fel belt am eich canol, cyfiawnder Duw yn llurig amdanoch, a’r brwdfrydedd i rannu’r newyddion da am heddwch gyda Duw yn esgidiau ar eich traed. Daliwch eich gafael yn nharian ffydd bob amser – byddwch yn gallu diffodd saethau tanllyd yr un drwg gyda hi. Derbyniwch achubiaeth yn helmed ar eich pen, a newyddion da Duw, sef cleddyf yr Ysbryd, yn arf yn eich llaw. A beth bynnag ddaw, gweddïwch bob amser fel mae’r Ysbryd yn arwain. Cadwch yn effro, a dal ati i weddïo’n daer dros bobl Dduw i gyd. A gweddïwch drosto i hefyd. Gweddïwch y bydd Duw’n rhoi’r geiriau iawn i mi bob tro bydda i’n agor fy ngheg, er mwyn i mi rannu dirgelwch y newyddion da yn gwbl ddi-ofn. Llysgennad y Meseia Iesu ydw i, mewn cadwyni am gyhoeddi ei neges. Gweddïwch y bydda i’n dal ati i wneud hynny’n gwbl ddi-ofn, fel y dylwn i wneud! Bydd Tychicus, sy’n frawd annwyl iawn ac yn weithiwr ffyddlon i’r Arglwydd, yn dweud wrthoch chi sut mae pethau’n mynd a beth dw i’n ei wneud. Dyna pam dw i’n ei anfon e atoch chi yn un swydd, i chi gael gwybod sut ydyn ni, ac er mwyn iddo godi’ch calon chi. Frodyr a chwiorydd, dw i am i Dduw y Tad a’r Arglwydd Iesu Grist eich galluogi chi i fyw mewn heddwch, caru’ch gilydd ac ymddiried yn llwyr ynddo fe. Dw i’n gweddïo y bydd pawb sy’n caru ein Harglwydd Iesu Grist o waelod calon yn profi o’i haelioni rhyfeddol.

Effesiaid 6:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni yn yr Arglwydd, oherwydd hyn sydd iawn. “Anrhydedda dy dad a'th fam”—hwn yw'r gorchymyn cyntaf ac iddo addewid: “er mwyn iti lwyddo a chael hir ddyddiau ar y ddaear.” Chwi dadau, peidiwch â chythruddo'ch plant, ond eu meithrin yn nisgyblaeth a hyfforddiant yr Arglwydd. Chwi gaethweision, ufuddhewch i'ch meistri daearol mewn ofn a dychryn, mewn unplygrwydd calon fel i Grist, nid ag esgus o wasanaeth fel rhai sy'n ceisio plesio dynion, ond fel gweision Crist yn gwneud ewyllys Duw â'ch holl galon. Rhowch wasanaeth ewyllysgar fel i'r Arglwydd, nid i ddynion, oherwydd fe wyddoch y bydd pob un, boed gaeth neu rydd, yn derbyn tâl gan yr Arglwydd am ba ddaioni bynnag a wna. Chwi feistri, gwnewch yr un peth iddynt hwy, gan roi'r gorau i fygwth, oherwydd fe wyddoch fod eu Meistr hwy a chwithau yn y nefoedd, ac nad yw ef yn dangos ffafriaeth. Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef. Gwisgwch amdanoch holl arfogaeth Duw, er mwyn ichwi fedru sefyll yn gadarn yn erbyn cynllwynion y diafol. Nid â meidrolion yr ydym yn yr afael, ond â thywysogaethau ac awdurdodau, â llywodraethwyr tywyllwch y byd hwn, â phwerau ysbrydol drygionus yn y nefolion leoedd. Gan hynny, ymarfogwch â holl arfogaeth Duw, er mwyn ichwi fedru gwrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi cyflawni pob peth, sefyll yn gadarn. Safwch, ynteu, â gwirionedd yn wregys am eich canol, a chyfiawnder yn arfwisg ar eich dwyfron, a pharodrwydd i gyhoeddi Efengyl tangnefedd yn esgidiau am eich traed. Heblaw hyn oll, ymarfogwch â tharian ffydd; â hon byddwch yn gallu diffodd holl saethau tanllyd yr Un drwg. Derbyniwch helm iachawdwriaeth a chleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw. Ymrowch i weddi ac ymbil, gan weddïo bob amser yn yr Ysbryd. I'r diben hwn, byddwch yn effro, gyda dyfalbarhad ym mhob math o ymbil dros y saint i gyd, a gweddïwch drosof finnau y bydd i Dduw roi i mi ymadrodd, ac agor fy ngenau, i hysbysu'n eofn ddirgelwch yr Efengyl. Trosti hi yr wyf yn llysgennad mewn cadwynau. Ie, gweddïwch ar i mi lefaru'n hy amdani, fel y dylwn lefaru. Er mwyn i chwithau wybod fy hanes, a beth yr wyf yn ei wneud, fe gewch y cwbl gan Tychicus, y brawd annwyl a'r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd. Yr wyf yn ei anfon atoch yn unswydd ichwi gael gwybod am ein hynt, ac er mwyn iddo ef eich calonogi. Tangnefedd i'r cyfeillion, a chariad ynghyd â ffydd oddi wrth Dduw Dad a'r Arglwydd Iesu Grist. Gras fyddo gyda phawb sy'n caru ein Harglwydd Iesu Grist â chariad anfarwol!

Effesiaid 6:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn. Anrhydedda dy dad a’th fam, (yr hwn yw’r gorchymyn cyntaf mewn addewid;) Fel y byddo yn dda i ti, ac fel y byddech hir-hoedlog ar y ddaear. A chwithau dadau, na yrrwch eich plant i ddigio; ond maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Y gweision, ufuddhewch i’r rhai sydd arglwyddi i chwi yn ôl y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist; Nid â golwg-wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, ond fel gweision Crist, yn gwneuthur ewyllys Duw o’r galon; Trwy ewyllys da yn gwneuthur gwasanaeth, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion: Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pob un, hynny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd fyddo. A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag atynt hwy, gan roddi bygwth heibio: gan wybod fod eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd; ac nid oes derbyn wyneb gydag ef. Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef. Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol. Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd. Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll. Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder; A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd: Uwchlaw pob dim, wedi cymryd tarian y ffydd, â’r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall. Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw: Gan weddïo bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy bob dyfalbara, a deisyfiad dros yr holl saint; A throsof finnau, fel y rhodder i mi ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau yn hy, i hysbysu dirgelwch yr efengyl; Dros yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hy amdani, fel y perthyn imi draethu. Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, beth yr wyf yn ei wneuthur, Tychicus, y brawd annwyl a’r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd, a hysbysa i chwi bob peth: Yr hwn a anfonais atoch er mwyn hyn yma; fel y caech wybod ein helynt ni, ac fel y diddanai efe eich calonnau chwi. Tangnefedd i’r brodyr, a chariad gyda ffydd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist. Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb. Amen. At yr Effesiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus.