Effesiaid 6:1-10
Effesiaid 6:1-10 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dylech chi’r plant sy’n perthyn i’r Arglwydd fod yn ufudd i’ch rhieni, am mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Y gorchymyn cyntaf sydd ag addewid ynghlwm wrtho ydy: Gofala am dy dad a dy fam, a bydd pethau’n mynd yn dda i ti, a chei fyw’n hir. Chi’r tadau, peidiwch trin eich plant mewn ffordd sy’n eu gwylltio nhw. Dylech eu magu a’u dysgu nhw i wneud beth mae’r Arglwydd yn ei ddweud. Chi sy’n gaethweision, byddwch yn gwbl ufudd i’ch meistri daearol, a dangos parch go iawn atyn nhw. Gweithiwch yn galed, yn union fel petaech chi’n gweithio i’r Meseia ei hun – nid dim ond er mwyn ennill ffafr y meistr pan mae’n eich gwylio chi. Fel caethweision y Meseia, ewch ati o ddifri i wneud beth mae Duw am i chi ei wneud. Gweithiwch eich gorau glas, fel petaech yn gweithio i’r Arglwydd ei hun, dim i bobl. Cofiwch mai’r Arglwydd fydd yn gwobrwyo pawb am y daioni mae’n ei wneud – caethwas neu beidio. A chi’r meistri yr un fath, dylech drin eich caethweision yn deg. Peidiwch eu bwlio nhw. Cofiwch fod Duw, sydd yn y nefoedd, yn feistr ar y naill a’r llall ohonoch chi. Does ganddo fe ddim ffefrynnau! Dyma’r peth olaf sydd i’w ddweud: Byddwch yn gryf, a chael eich nerth gan yr Arglwydd a’r pŵer aruthrol sydd ganddo fe.
Effesiaid 6:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni yn yr Arglwydd, oherwydd hyn sydd iawn. “Anrhydedda dy dad a'th fam”—hwn yw'r gorchymyn cyntaf ac iddo addewid: “er mwyn iti lwyddo a chael hir ddyddiau ar y ddaear.” Chwi dadau, peidiwch â chythruddo'ch plant, ond eu meithrin yn nisgyblaeth a hyfforddiant yr Arglwydd. Chwi gaethweision, ufuddhewch i'ch meistri daearol mewn ofn a dychryn, mewn unplygrwydd calon fel i Grist, nid ag esgus o wasanaeth fel rhai sy'n ceisio plesio dynion, ond fel gweision Crist yn gwneud ewyllys Duw â'ch holl galon. Rhowch wasanaeth ewyllysgar fel i'r Arglwydd, nid i ddynion, oherwydd fe wyddoch y bydd pob un, boed gaeth neu rydd, yn derbyn tâl gan yr Arglwydd am ba ddaioni bynnag a wna. Chwi feistri, gwnewch yr un peth iddynt hwy, gan roi'r gorau i fygwth, oherwydd fe wyddoch fod eu Meistr hwy a chwithau yn y nefoedd, ac nad yw ef yn dangos ffafriaeth. Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef.
Effesiaid 6:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn. Anrhydedda dy dad a’th fam, (yr hwn yw’r gorchymyn cyntaf mewn addewid;) Fel y byddo yn dda i ti, ac fel y byddech hir-hoedlog ar y ddaear. A chwithau dadau, na yrrwch eich plant i ddigio; ond maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Y gweision, ufuddhewch i’r rhai sydd arglwyddi i chwi yn ôl y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist; Nid â golwg-wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, ond fel gweision Crist, yn gwneuthur ewyllys Duw o’r galon; Trwy ewyllys da yn gwneuthur gwasanaeth, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion: Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pob un, hynny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd fyddo. A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag atynt hwy, gan roddi bygwth heibio: gan wybod fod eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd; ac nid oes derbyn wyneb gydag ef. Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef.