Effesiaid 4:7-13
Effesiaid 4:7-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond mae’r Meseia wedi rhannu ei roddion i bob un ohonon ni – a fe sydd wedi dewis beth i’w roi i bawb. Dyna pam mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Pan aeth i fyny i’r uchelder arweiniodd gaethion ar ei ôl a rhannu rhoddion i bobl.” (Beth mae “aeth i fyny” yn ei olygu oni bai ei fod hefyd wedi dod i lawr i’r byd daearol? A’r un ddaeth i lawr ydy’r union un aeth i fyny i’r man uchaf yn y nefoedd, er mwyn i’w lywodraeth lenwi’r bydysawd cyfan.) A dyma’i roddion: mae wedi penodi rhai i fod yn gynrychiolwyr personol iddo, eraill i fod yn broffwydi, eraill yn rhai sy’n rhannu’r newyddion da, ac eraill yn fugeiliaid ac athrawon. Maen nhw i alluogi pobl Dduw i gyd i’w wasanaethu mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn gweld corff y Meseia, sef yr eglwys, yn tyfu’n gryf. Y nod ydy ein bod ni’n ymddiried ym Mab Duw gyda’n gilydd ac yn dod i’w nabod yn well. Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun.
Effesiaid 4:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond i bob un ohonom rhoddwyd gras, ei ran o rodd Crist. Am hynny y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Esgynnodd i'r uchelder, gan arwain ei garcharorion yn gaeth; rhoddodd roddion i bobl.” Beth yw ystyr “esgynnodd”? Onid yw'n golygu ei fod wedi disgyn hefyd i barthau isaf y ddaear? Yr un a ddisgynnodd yw'r un a esgynnodd hefyd ymhell uwchlaw'r nefoedd i gyd, i lenwi'r holl greadigaeth. A dyma'i roddion: rhai i fod yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon, i gymhwyso'r saint i waith gweinidogaeth, i adeiladu corff Crist. Felly y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i'r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw. Y nod yw dynoliaeth lawn dwf, a'r mesur yw'r aeddfedrwydd sy'n perthyn i gyflawnder Crist.
Effesiaid 4:7-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr i bob un ohonom y rhoed gras, yn ôl mesur dawn Crist. Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Pan ddyrchafodd i’r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion. (Eithr efe a ddyrchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddisgyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaear? Yr hwn a ddisgynnodd, yw’r hwn hefyd a esgynnodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnai bob peth.) Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn broffwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon; I berffeithio’r saint, i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist: Hyd onid ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gwybodaeth Mab Duw, yn ŵr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist