Effesiaid 4:20-32
Effesiaid 4:20-32 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dim felly dych chi wedi dysgu byw wrth edrych ar y Meseia – os mai fe ydy’r un dych chi wedi’ch dysgu i’w ddilyn. Yn Iesu mae dod o hyd i’r gwir. Felly rhaid i chi gael gwared â’r hen ffordd o wneud pethau – y bywyd sydd wedi’i lygru gan chwantau twyllodrus. Rhaid i chi feithrin ffordd newydd o feddwl. Mae fel gwisgo natur o fath newydd – natur sydd wedi’i fodelu ar gymeriad Duw ei hun, yn gyfiawn a glân. Felly dim mwy o gelwydd! “Dwedwch y gwir wrth eich gilydd” , am ein bod ni’n perthyn i’r un corff. “Peidiwch pechu pan dych chi wedi digio” – gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn dal yn ddig ar ddiwedd y dydd. Peidiwch rhoi cyfle i’r diafol a’i driciau! Rhaid i’r person oedd yn arfer bod yn lleidr stopio dwyn. Dylai weithio, ac ennill bywoliaeth, fel bod ganddo rywbeth i’w rannu gyda phobl mewn angen. Peidiwch defnyddio iaith aflan. Dylech ddweud pethau sy’n helpu pobl eraill – pethau sy’n bendithio’r rhai sy’n eich clywed chi. Peidiwch brifo teimladau Ysbryd Glân Duw. Yr Ysbryd ydy’r sêl sy’n eich marcio chi fel rhai fydd yn cael rhyddid llwyr ar y diwrnod hwnnw pan fydd y Meseia Iesu yn dod yn ôl. Rhaid i chi beidio bod yn chwerw, peidio colli tymer a gwylltio, codi twrw, hel straeon cas, a bod yn faleisus. Eich lle chi ydy bod yn garedig, yn dyner gyda’ch gilydd, a maddau i’ch gilydd fel mae Duw wedi maddau i chi drwy beth wnaeth y Meseia.
Effesiaid 4:20-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond nid felly yr ydych chwi wedi dysgu Crist, chwi sydd, yn wir, wedi clywed amdano ac wedi eich hyfforddi ynddo, yn union fel y mae'r gwirionedd yn Iesu. Fe'ch dysgwyd eich bod i roi heibio'r hen natur ddynol oedd yn perthyn i'ch ymarweddiad gynt ac sy'n cael ei llygru gan chwantau twyllodrus, a'ch bod i gael eich adnewyddu mewn ysbryd a meddwl, a gwisgo amdanoch y natur ddynol newydd sydd wedi ei chreu ar ddelw Duw, yn y cyfiawnder a'r sancteiddrwydd sy'n gweddu i'r gwirionedd. Gan hynny, ymaith â chelwydd! Dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog, oherwydd yr ydym yn aelodau o'n gilydd. Byddwch ddig, ond peidiwch â phechu; peidiwch â gadael i'r haul fachlud ar eich digofaint, a pheidiwch â rhoi cyfle i'r diafol. Y mae'r lleidr i beidio â lladrata mwyach; yn hytrach, dylai ymroi i weithio'n onest â'i ddwylo ei hun, er mwyn cael rhywbeth i'w rannu â'r sawl sydd mewn angen. Nid oes yr un gair drwg i ddod allan o'ch genau, dim ond geiriau da, sydd er adeiladaeth yn ôl yr angen, ac felly'n dwyn bendith i'r sawl sy'n eu clywed. Peidiwch â thristáu Ysbryd Glân Duw, yr Ysbryd y gosodwyd ei sêl arnoch ar gyfer dydd eich prynu'n rhydd. Bwriwch ymaith oddi wrthych bob chwerwder, llid, digofaint, twrw, a sen, ynghyd â phob drwgdeimlad. Byddwch yn dirion wrth eich gilydd; yn dyner eich calon, yn maddau i'ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi.
Effesiaid 4:20-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist; Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae’r gwirionedd yn yr Iesu: Dodi ohonoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus; Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl; A gwisgo’r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd. Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i’n gilydd. Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi: Ac na roddwch le i ddiafol. Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â’i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i’w gyfrannu i’r hwn y mae angen arno. Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o’ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i’r gwrandawyr. Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw, trwy’r hwn y’ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth. Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni: A byddwch gymwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i’ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau.