Effesiaid 4:17-28
Effesiaid 4:17-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Hyn, felly, yr wyf yn ei ddweud ac yn ei argymell arnoch yn yr Arglwydd, eich bod chwi bellach i beidio â byw fel y mae'r Cenhedloedd yn byw, yn oferedd eu meddwl; oherwydd tywyllwch sydd yn eu deall, a dieithriaid ydynt i'r bywyd sydd o Dduw, o achos yr anwybodaeth y maent yn ei choleddu a'r ystyfnigrwydd sydd yn eu calon. Pobl ydynt sydd wedi colli pob teimlad ac wedi ymollwng i'r anlladrwydd sy'n peri iddynt gyflawni pob math o aflendid yn ddiymatal. Ond nid felly yr ydych chwi wedi dysgu Crist, chwi sydd, yn wir, wedi clywed amdano ac wedi eich hyfforddi ynddo, yn union fel y mae'r gwirionedd yn Iesu. Fe'ch dysgwyd eich bod i roi heibio'r hen natur ddynol oedd yn perthyn i'ch ymarweddiad gynt ac sy'n cael ei llygru gan chwantau twyllodrus, a'ch bod i gael eich adnewyddu mewn ysbryd a meddwl, a gwisgo amdanoch y natur ddynol newydd sydd wedi ei chreu ar ddelw Duw, yn y cyfiawnder a'r sancteiddrwydd sy'n gweddu i'r gwirionedd. Gan hynny, ymaith â chelwydd! Dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog, oherwydd yr ydym yn aelodau o'n gilydd. Byddwch ddig, ond peidiwch â phechu; peidiwch â gadael i'r haul fachlud ar eich digofaint, a pheidiwch â rhoi cyfle i'r diafol. Y mae'r lleidr i beidio â lladrata mwyach; yn hytrach, dylai ymroi i weithio'n onest â'i ddwylo ei hun, er mwyn cael rhywbeth i'w rannu â'r sawl sydd mewn angen.
Effesiaid 4:17-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly gyda’r awdurdod mae’r Arglwydd ei hun wedi’i roi i mi, dw i’n dweud wrthoch chi, ac yn mynnu hyn: peidiwch byw fel mae’r paganiaid di-gred yn byw. Dŷn nhw’n deall dim – maen nhw yn y tywyllwch! Maen nhw wedi’u gwahanu oddi wrth y bywyd sydd gan Dduw i’w gynnig am eu bod nhw’n gwrthod gwrando. Maen nhw’n ystyfnig! Does dim byd yn codi cywilydd arnyn nhw. Dŷn nhw’n gwneud dim byd ond byw’n anfoesol a gadael i’w chwantau mochaidd gael penrhyddid llwyr. Ac maen nhw eisiau mwy a mwy drwy’r adeg. Dim felly dych chi wedi dysgu byw wrth edrych ar y Meseia – os mai fe ydy’r un dych chi wedi’ch dysgu i’w ddilyn. Yn Iesu mae dod o hyd i’r gwir. Felly rhaid i chi gael gwared â’r hen ffordd o wneud pethau – y bywyd sydd wedi’i lygru gan chwantau twyllodrus. Rhaid i chi feithrin ffordd newydd o feddwl. Mae fel gwisgo natur o fath newydd – natur sydd wedi’i fodelu ar gymeriad Duw ei hun, yn gyfiawn a glân. Felly dim mwy o gelwydd! “Dwedwch y gwir wrth eich gilydd” , am ein bod ni’n perthyn i’r un corff. “Peidiwch pechu pan dych chi wedi digio” – gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn dal yn ddig ar ddiwedd y dydd. Peidiwch rhoi cyfle i’r diafol a’i driciau! Rhaid i’r person oedd yn arfer bod yn lleidr stopio dwyn. Dylai weithio, ac ennill bywoliaeth, fel bod ganddo rywbeth i’w rannu gyda phobl mewn angen.
Effesiaid 4:17-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae’r Cenhedloedd eraill yn rhodio, yn oferedd eu meddwl, Wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw, trwy’r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon: Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn unchwant. Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist; Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae’r gwirionedd yn yr Iesu: Dodi ohonoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus; Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl; A gwisgo’r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd. Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i’n gilydd. Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi: Ac na roddwch le i ddiafol. Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â’i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i’w gyfrannu i’r hwn y mae angen arno.