Effesiaid 4:14-16
Effesiaid 4:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid ydym i fod yn fabanod mwyach, yn cael ein lluchio gan donnau a'n gyrru yma a thraw gan bob rhyw awel o athrawiaeth, wedi ein dal gan ystryw y rhai sy'n ddyfeisgar i gynllwynio twyll. Na, gadewch i ni ddilyn y gwir mewn cariad, a thyfu ym mhob peth i Grist. Ef yw'r pen, ac wrtho ef y mae'r holl gorff yn cael ei ddal wrth ei gilydd a'i gysylltu drwy bob cymal sy'n rhan ohono. Felly, trwy weithgarwch cyfaddas pob un rhan, ceir prifiant yn y corff, ac y mae'n ei adeiladu ei hun mewn cariad.
Effesiaid 4:14-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwman, ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo: Eithr, gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth, yr hwn yw’r pen, sef Crist: O’r hwn y mae’r holl gorff wedi ei gydymgynnull a’i gydgysylltu, trwy bob cymal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corff, i’w adeiladu ei hun mewn cariad.