Effesiaid 4:11-13
Effesiaid 4:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dyma'i roddion: rhai i fod yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon, i gymhwyso'r saint i waith gweinidogaeth, i adeiladu corff Crist. Felly y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i'r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw. Y nod yw dynoliaeth lawn dwf, a'r mesur yw'r aeddfedrwydd sy'n perthyn i gyflawnder Crist.
Effesiaid 4:11-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma’i roddion: mae wedi penodi rhai i fod yn gynrychiolwyr personol iddo, eraill i fod yn broffwydi, eraill yn rhai sy’n rhannu’r newyddion da, ac eraill yn fugeiliaid ac athrawon. Maen nhw i alluogi pobl Dduw i gyd i’w wasanaethu mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn gweld corff y Meseia, sef yr eglwys, yn tyfu’n gryf. Y nod ydy ein bod ni’n ymddiried ym Mab Duw gyda’n gilydd ac yn dod i’w nabod yn well. Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun.
Effesiaid 4:11-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn broffwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon; I berffeithio’r saint, i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist: Hyd onid ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gwybodaeth Mab Duw, yn ŵr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist