Effesiaid 4:1-13
Effesiaid 4:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, dyma fi yn garcharor am wasanaethu’r Arglwydd. Dw i’n pwyso arnoch chi i fyw fel y dylai pobl mae Duw wedi’u galw i berthyn iddo fyw. Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn bob amser; byddwch yn amyneddgar, a goddef beiau eich gilydd mewn cariad. Gwnewch eich gorau glas i ddangos bod yr Ysbryd Glân wedi’ch gwneud chi’n un, a’i fod yn eich clymu chi gyda’ch gilydd mewn heddwch. Gan mai’r un Ysbryd Glân sydd gynnon ni, dŷn ni’n un corff – a dych chi wedi’ch galw gan Dduw i rannu’r un gobaith. Does ond un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, a dim ond un Duw a Thad i bawb. Y Duw sy’n teyrnasu dros bopeth, ac sy’n gweithio drwy bob un ac ym mhob un! Ond mae’r Meseia wedi rhannu ei roddion i bob un ohonon ni – a fe sydd wedi dewis beth i’w roi i bawb. Dyna pam mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Pan aeth i fyny i’r uchelder arweiniodd gaethion ar ei ôl a rhannu rhoddion i bobl.” (Beth mae “aeth i fyny” yn ei olygu oni bai ei fod hefyd wedi dod i lawr i’r byd daearol? A’r un ddaeth i lawr ydy’r union un aeth i fyny i’r man uchaf yn y nefoedd, er mwyn i’w lywodraeth lenwi’r bydysawd cyfan.) A dyma’i roddion: mae wedi penodi rhai i fod yn gynrychiolwyr personol iddo, eraill i fod yn broffwydi, eraill yn rhai sy’n rhannu’r newyddion da, ac eraill yn fugeiliaid ac athrawon. Maen nhw i alluogi pobl Dduw i gyd i’w wasanaethu mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn gweld corff y Meseia, sef yr eglwys, yn tyfu’n gryf. Y nod ydy ein bod ni’n ymddiried ym Mab Duw gyda’n gilydd ac yn dod i’w nabod yn well. Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun.
Effesiaid 4:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf fi, felly, sy'n garcharor er mwyn yr Arglwydd, yn eich annog i fyw yn deilwng o'r alwad a gawsoch. Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn ym mhob peth, ac yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad. Ymrowch i gadw, â rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae'r Ysbryd yn ei roi. Un corff sydd, ac un Ysbryd, yn union fel mai un yw'r gobaith sy'n ymhlyg yn eich galwad; un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad i bawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb. Ond i bob un ohonom rhoddwyd gras, ei ran o rodd Crist. Am hynny y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Esgynnodd i'r uchelder, gan arwain ei garcharorion yn gaeth; rhoddodd roddion i bobl.” Beth yw ystyr “esgynnodd”? Onid yw'n golygu ei fod wedi disgyn hefyd i barthau isaf y ddaear? Yr un a ddisgynnodd yw'r un a esgynnodd hefyd ymhell uwchlaw'r nefoedd i gyd, i lenwi'r holl greadigaeth. A dyma'i roddion: rhai i fod yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon, i gymhwyso'r saint i waith gweinidogaeth, i adeiladu corff Crist. Felly y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i'r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw. Y nod yw dynoliaeth lawn dwf, a'r mesur yw'r aeddfedrwydd sy'n perthyn i gyflawnder Crist.
Effesiaid 4:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Deisyf gan hynny arnoch yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio ohonoch yn addas i’r alwedigaeth y’ch galwyd iddi, Gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, ynghyd â hirymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad; Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd. Un corff sydd, ac un Ysbryd, megis ag y’ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth; Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, Un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll. Eithr i bob un ohonom y rhoed gras, yn ôl mesur dawn Crist. Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Pan ddyrchafodd i’r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion. (Eithr efe a ddyrchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddisgyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaear? Yr hwn a ddisgynnodd, yw’r hwn hefyd a esgynnodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnai bob peth.) Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn broffwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon; I berffeithio’r saint, i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist: Hyd onid ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gwybodaeth Mab Duw, yn ŵr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist