Effesiaid 3:9-11
Effesiaid 3:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ac i ddwyn i'r golau gynllun y dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd yn Nuw, Creawdwr pob peth, er mwyn i ysblander amryfal ddoethineb Duw gael ei hysbysu yn awr, trwy'r eglwys, i'r tywysogaethau a'r awdurdodau yn y nefolion leoedd. Y mae hyn yn unol â'r arfaeth dragwyddol a gyflawnodd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Effesiaid 3:9-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ces fy newis i esbonio cynllun Duw i chi, sef yr hyn roedd Crëwr pob peth wedi’i gadw o’r golwg cyn hyn. Pwrpas Duw ydy i’r rhai sy’n llywodraethu ac i’r awdurdodau yn y byd ysbrydol ddod i weld mor rhyfeddol o gyfoethog ydy ei ddoethineb e. A’r eglwys sy’n dangos hynny iddyn nhw. Dyma oedd cynllun Duw ers cyn i amser ddechrau, ac mae’r cwbl yn cael ei gyflawni yn y Meseia Iesu, ein Harglwydd ni.
Effesiaid 3:9-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth trwy Iesu Grist: Fel y byddai yr awron yn hysbys i’r tywysogaethau ac i’r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy’r eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw, Yn ôl yr arfaeth dragwyddol yr hon a wnaeth efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni