Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Effesiaid 3:8-21

Effesiaid 3:8-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dw i’n neb. Dw i wedi syrthio’n is nag unrhyw un o bobl Dduw. Ac eto fi sydd wedi cael y fraint o bregethu i chi o’r cenhedloedd eraill am y trysor diderfyn sydd gan y Meseia ar ein cyfer ni. Ces fy newis i esbonio cynllun Duw i chi, sef yr hyn roedd Crëwr pob peth wedi’i gadw o’r golwg cyn hyn. Pwrpas Duw ydy i’r rhai sy’n llywodraethu ac i’r awdurdodau yn y byd ysbrydol ddod i weld mor rhyfeddol o gyfoethog ydy ei ddoethineb e. A’r eglwys sy’n dangos hynny iddyn nhw. Dyma oedd cynllun Duw ers cyn i amser ddechrau, ac mae’r cwbl yn cael ei gyflawni yn y Meseia Iesu, ein Harglwydd ni. Dŷn ni’n gwbl rydd a hyderus i glosio at Dduw am ein bod ni’n credu ynddo ac wedi cael ein huno gydag e. Felly plîs peidiwch digalonni o achos beth dw i’n gorfod ei ddioddef drosoch chi. Dylech weld ei fod yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo! Wrth feddwl am hyn i gyd dw i’n syrthio ar fy ngliniau i weddïo ar Dduw y Tad. Fe sydd wedi rhoi eu hunaniaeth arbennig i bob grŵp o angylion yn y nefoedd ac i bobloedd ar y ddaear. Dw i’n gweddïo y bydd yn defnyddio’r holl adnoddau bendigedig sydd ganddo i’ch gwneud chi’n gryf, ac y bydd yn rhoi nerth mewnol i chi drwy roi ei Ysbryd Glân i chi. Dw i’n gweddïo hefyd y bydd y Meseia ei hun yn gwneud ei gartref yn eich calonnau chi wrth i chi ymddiried ynddo fe. Dw i am i’w gariad e fod wrth wraidd popeth dych chi’n ei wneud – dyna’r sylfaen i adeiladu arni! Dw i am i chi, a phobl Dduw i gyd, ddeall mor aruthrol fawr ydy cariad y Meseia – mae’n lletach, yn hirach, yn uwch ac yn ddyfnach na dim byd arall! Dw i am i chi brofi y cariad hwnnw sy’n llawer rhy fawr i’w brofi yn llawn, er mwyn i chi gael eich llenwi â’r cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer. Clod iddo! Mae’n gwneud llawer iawn mwy na dim y bydden ni’n mentro gofyn amdano na hyd yn oed yn gallu ei ddychmygu! Dylen ni sydd yn yr eglwys ac wedi’n huno gyda’r Meseia Iesu roi clod iddo am byth bythoedd! Amen.

Effesiaid 3:8-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

I mi, y llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y rhodd raslon hon, i bregethu i'r Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist, ac i ddwyn i'r golau gynllun y dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd yn Nuw, Creawdwr pob peth, er mwyn i ysblander amryfal ddoethineb Duw gael ei hysbysu yn awr, trwy'r eglwys, i'r tywysogaethau a'r awdurdodau yn y nefolion leoedd. Y mae hyn yn unol â'r arfaeth dragwyddol a gyflawnodd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Ynddo ef, a thrwy ffydd ynddo, yr ydym yn cael dod at Dduw yn eofn a hyderus. Yr wyf yn erfyn, felly, ar ichwi beidio â digalonni o achos fy nioddefiadau drosoch; hwy, yn wir, yw eich gogoniant chwi. Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau gerbron y Tad, yr hwn y mae pob teulu yn y nefoedd ac ar y ddaear yn cymryd ei enw oddi wrtho, ac yn gweddïo ar iddo ganiatáu i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, gryfder a nerth mewnol trwy'r Ysbryd, ac ar i Grist breswylio yn eich calonnau drwy ffydd. Boed i chwi, sydd â chariad yn wreiddyn a sylfaen eich bywyd, gael eich galluogi i amgyffred ynghyd â'r holl saint beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist, a gwybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth. Felly dygir chwi i gyflawnder, hyd at holl gyflawnder Duw. Iddo ef, sydd â'r gallu ganddo i wneud yn anhraethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu na'i ddychmygu, trwy'r gallu sydd ar waith ynom ni, iddo ef y bo'r gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu, o genhedlaeth i genhedlaeth, byth bythoedd! Amen.

Effesiaid 3:8-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

I mi, y llai na’r lleiaf o’r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu ymysg y Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist; Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth trwy Iesu Grist: Fel y byddai yr awron yn hysbys i’r tywysogaethau ac i’r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy’r eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw, Yn ôl yr arfaeth dragwyddol yr hon a wnaeth efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni: Yn yr hwn y mae i ni hyfdra, a dyfodfa mewn hyder, trwy ei ffydd ef. Oherwydd paham yr wyf yn dymuno na lwfrhaoch oblegid fy mlinderau i drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi. Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist, O’r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear, Ar roddi ohono ef i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef, yn y dyn oddi mewn; Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi; Fel y galloch, wedi eich gwreiddio a’ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda’r holl saint, beth yw’r lled, a’r hyd, a’r dyfnder, a’r uchder; A gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y’ch cyflawner â holl gyflawnder Duw. Ond i’r hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni, Iddo ef y byddo’r gogoniant yn yr eglwys trwy Grist Iesu, dros yr holl genedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.