Effesiaid 3:14-20
Effesiaid 3:14-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wrth feddwl am hyn i gyd dw i’n syrthio ar fy ngliniau i weddïo ar Dduw y Tad. Fe sydd wedi rhoi eu hunaniaeth arbennig i bob grŵp o angylion yn y nefoedd ac i bobloedd ar y ddaear. Dw i’n gweddïo y bydd yn defnyddio’r holl adnoddau bendigedig sydd ganddo i’ch gwneud chi’n gryf, ac y bydd yn rhoi nerth mewnol i chi drwy roi ei Ysbryd Glân i chi. Dw i’n gweddïo hefyd y bydd y Meseia ei hun yn gwneud ei gartref yn eich calonnau chi wrth i chi ymddiried ynddo fe. Dw i am i’w gariad e fod wrth wraidd popeth dych chi’n ei wneud – dyna’r sylfaen i adeiladu arni! Dw i am i chi, a phobl Dduw i gyd, ddeall mor aruthrol fawr ydy cariad y Meseia – mae’n lletach, yn hirach, yn uwch ac yn ddyfnach na dim byd arall! Dw i am i chi brofi y cariad hwnnw sy’n llawer rhy fawr i’w brofi yn llawn, er mwyn i chi gael eich llenwi â’r cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer. Clod iddo! Mae’n gwneud llawer iawn mwy na dim y bydden ni’n mentro gofyn amdano na hyd yn oed yn gallu ei ddychmygu!
Effesiaid 3:14-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau gerbron y Tad, yr hwn y mae pob teulu yn y nefoedd ac ar y ddaear yn cymryd ei enw oddi wrtho, ac yn gweddïo ar iddo ganiatáu i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, gryfder a nerth mewnol trwy'r Ysbryd, ac ar i Grist breswylio yn eich calonnau drwy ffydd. Boed i chwi, sydd â chariad yn wreiddyn a sylfaen eich bywyd, gael eich galluogi i amgyffred ynghyd â'r holl saint beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist, a gwybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth. Felly dygir chwi i gyflawnder, hyd at holl gyflawnder Duw. Iddo ef, sydd â'r gallu ganddo i wneud yn anhraethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu na'i ddychmygu, trwy'r gallu sydd ar waith ynom ni
Effesiaid 3:14-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist, O’r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear, Ar roddi ohono ef i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef, yn y dyn oddi mewn; Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi; Fel y galloch, wedi eich gwreiddio a’ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda’r holl saint, beth yw’r lled, a’r hyd, a’r dyfnder, a’r uchder; A gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y’ch cyflawner â holl gyflawnder Duw. Ond i’r hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni