Effesiaid 3:1-7
Effesiaid 3:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma pam dw i, Paul, yn garcharor – am fy mod i’n pregethu i chi o’r cenhedloedd eraill am y Meseia Iesu. Dw i’n cymryd eich bod wedi clywed am y gwaith penodol roddodd Duw i mi i’ch helpu chi. Dangosodd i mi rywbeth oedd wedi’i guddio o’r blaen. Dw i wedi ceisio’i esbonio’n fyr yma. Wrth i chi ei ddarllen, dewch i weld sut dw i’n deall beth oedd yn ddirgelwch am y Meseia. Doedd pobl yn y gorffennol ddim wedi cael gwybod y cwbl y mae’r Ysbryd Glân wedi’i ddangos i ni ei gynrychiolwyr a’i broffwydi. Dyma’r dirgelwch i chi: fod pobl o genhedloedd eraill yn cael rhannu’r cwbl mae Duw wedi’i baratoi i’r Iddewon. Mae’r Meseia Iesu wedi’u gwneud nhw’n un corff gyda’r Iddewon, a byddan nhw’n cael rhannu’r bendithion gafodd eu haddo hefyd! Dyma’r newyddion da dw i’n ei rannu ers i mi fy hun brofi haelioni anhygoel Duw. Fe ydy’r un sy’n rhoi’r nerth i mi wneud y cwbl.
Effesiaid 3:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd hyn, yr wyf fi, Paul, carcharor Crist Iesu er eich mwyn chwi'r Cenhedloedd, yn offrymu fy ngweddi. Y mae'n rhaid eich bod wedi clywed am gynllun gras Duw, y gras sydd wedi ei roi i mi er eich lles chwi: sef i'r dirgelwch gael ei hysbysu i mi trwy ddatguddiad. Yr wyf eisoes wedi ysgrifennu'n fyr am hyn, ac o'i ddarllen gallwch ddeall fy nirnadaeth o ddirgelwch Crist. Yn y cenedlaethau gynt, ni chafodd y dirgelwch hwn mo'i hysbysu i blant dynion, fel y mae yn awr wedi ei ddatguddio gan Ysbryd Duw i'w apostolion sanctaidd a'i broffwydi. Dyma'r dirgelwch: bod y Cenhedloedd, ynghyd â'r Iddewon, yn gydetifeddion, yn gydaelodau o'r corff, ac yn gydgyfranogion o'r addewid yng Nghrist Iesu trwy'r Efengyl. Dyma'r Efengyl y deuthum i yn weinidog iddi yn ôl rhodd gras Duw, a roddwyd i mi trwy weithrediad ei allu ef.
Effesiaid 3:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Er mwyn hyn, myfi Paul, carcharor Iesu Grist trosoch chwi’r Cenhedloedd; Os clywsoch am oruchwyliaeth gras Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi: Mai trwy ddatguddiad yr hysbysodd efe i mi y dirgelwch, (megis yr ysgrifennais o’r blaen ar ychydig eiriau, Wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, wybod fy neall i yn nirgelwch Crist,) Yr hwn yn oesoedd eraill nid eglurwyd i feibion dynion, fel y mae yr awron wedi ei ddatguddio i’w sanctaidd apostolion a’i broffwydi trwy’r Ysbryd; Y byddai’r Cenhedloedd yn gyd-etifeddion, ac yn gyd-gorff, ac yn gyd-gyfranogion o’i addewid ef yng Nghrist, trwy’r efengyl: I’r hon y’m gwnaed i yn weinidog, yn ôl rhodd gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, yn ôl grymus weithrediad ei allu ef.