Effesiaid 3:1-13
Effesiaid 3:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma pam dw i, Paul, yn garcharor – am fy mod i’n pregethu i chi o’r cenhedloedd eraill am y Meseia Iesu. Dw i’n cymryd eich bod wedi clywed am y gwaith penodol roddodd Duw i mi i’ch helpu chi. Dangosodd i mi rywbeth oedd wedi’i guddio o’r blaen. Dw i wedi ceisio’i esbonio’n fyr yma. Wrth i chi ei ddarllen, dewch i weld sut dw i’n deall beth oedd yn ddirgelwch am y Meseia. Doedd pobl yn y gorffennol ddim wedi cael gwybod y cwbl y mae’r Ysbryd Glân wedi’i ddangos i ni ei gynrychiolwyr a’i broffwydi. Dyma’r dirgelwch i chi: fod pobl o genhedloedd eraill yn cael rhannu’r cwbl mae Duw wedi’i baratoi i’r Iddewon. Mae’r Meseia Iesu wedi’u gwneud nhw’n un corff gyda’r Iddewon, a byddan nhw’n cael rhannu’r bendithion gafodd eu haddo hefyd! Dyma’r newyddion da dw i’n ei rannu ers i mi fy hun brofi haelioni anhygoel Duw. Fe ydy’r un sy’n rhoi’r nerth i mi wneud y cwbl. Dw i’n neb. Dw i wedi syrthio’n is nag unrhyw un o bobl Dduw. Ac eto fi sydd wedi cael y fraint o bregethu i chi o’r cenhedloedd eraill am y trysor diderfyn sydd gan y Meseia ar ein cyfer ni. Ces fy newis i esbonio cynllun Duw i chi, sef yr hyn roedd Crëwr pob peth wedi’i gadw o’r golwg cyn hyn. Pwrpas Duw ydy i’r rhai sy’n llywodraethu ac i’r awdurdodau yn y byd ysbrydol ddod i weld mor rhyfeddol o gyfoethog ydy ei ddoethineb e. A’r eglwys sy’n dangos hynny iddyn nhw. Dyma oedd cynllun Duw ers cyn i amser ddechrau, ac mae’r cwbl yn cael ei gyflawni yn y Meseia Iesu, ein Harglwydd ni. Dŷn ni’n gwbl rydd a hyderus i glosio at Dduw am ein bod ni’n credu ynddo ac wedi cael ein huno gydag e. Felly plîs peidiwch digalonni o achos beth dw i’n gorfod ei ddioddef drosoch chi. Dylech weld ei fod yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo!
Effesiaid 3:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd hyn, yr wyf fi, Paul, carcharor Crist Iesu er eich mwyn chwi'r Cenhedloedd, yn offrymu fy ngweddi. Y mae'n rhaid eich bod wedi clywed am gynllun gras Duw, y gras sydd wedi ei roi i mi er eich lles chwi: sef i'r dirgelwch gael ei hysbysu i mi trwy ddatguddiad. Yr wyf eisoes wedi ysgrifennu'n fyr am hyn, ac o'i ddarllen gallwch ddeall fy nirnadaeth o ddirgelwch Crist. Yn y cenedlaethau gynt, ni chafodd y dirgelwch hwn mo'i hysbysu i blant dynion, fel y mae yn awr wedi ei ddatguddio gan Ysbryd Duw i'w apostolion sanctaidd a'i broffwydi. Dyma'r dirgelwch: bod y Cenhedloedd, ynghyd â'r Iddewon, yn gydetifeddion, yn gydaelodau o'r corff, ac yn gydgyfranogion o'r addewid yng Nghrist Iesu trwy'r Efengyl. Dyma'r Efengyl y deuthum i yn weinidog iddi yn ôl rhodd gras Duw, a roddwyd i mi trwy weithrediad ei allu ef. I mi, y llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y rhodd raslon hon, i bregethu i'r Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist, ac i ddwyn i'r golau gynllun y dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd yn Nuw, Creawdwr pob peth, er mwyn i ysblander amryfal ddoethineb Duw gael ei hysbysu yn awr, trwy'r eglwys, i'r tywysogaethau a'r awdurdodau yn y nefolion leoedd. Y mae hyn yn unol â'r arfaeth dragwyddol a gyflawnodd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Ynddo ef, a thrwy ffydd ynddo, yr ydym yn cael dod at Dduw yn eofn a hyderus. Yr wyf yn erfyn, felly, ar ichwi beidio â digalonni o achos fy nioddefiadau drosoch; hwy, yn wir, yw eich gogoniant chwi.
Effesiaid 3:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Er mwyn hyn, myfi Paul, carcharor Iesu Grist trosoch chwi’r Cenhedloedd; Os clywsoch am oruchwyliaeth gras Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi: Mai trwy ddatguddiad yr hysbysodd efe i mi y dirgelwch, (megis yr ysgrifennais o’r blaen ar ychydig eiriau, Wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, wybod fy neall i yn nirgelwch Crist,) Yr hwn yn oesoedd eraill nid eglurwyd i feibion dynion, fel y mae yr awron wedi ei ddatguddio i’w sanctaidd apostolion a’i broffwydi trwy’r Ysbryd; Y byddai’r Cenhedloedd yn gyd-etifeddion, ac yn gyd-gorff, ac yn gyd-gyfranogion o’i addewid ef yng Nghrist, trwy’r efengyl: I’r hon y’m gwnaed i yn weinidog, yn ôl rhodd gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, yn ôl grymus weithrediad ei allu ef. I mi, y llai na’r lleiaf o’r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu ymysg y Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist; Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth trwy Iesu Grist: Fel y byddai yr awron yn hysbys i’r tywysogaethau ac i’r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy’r eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw, Yn ôl yr arfaeth dragwyddol yr hon a wnaeth efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni: Yn yr hwn y mae i ni hyfdra, a dyfodfa mewn hyder, trwy ei ffydd ef. Oherwydd paham yr wyf yn dymuno na lwfrhaoch oblegid fy mlinderau i drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi.