Effesiaid 2:14-18
Effesiaid 2:14-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ac ydy, mae Iesu’n gwneud y berthynas rhyngon ni a’n gilydd yn iawn hefyd – ni’r Iddewon a chi sydd o genhedloedd eraill. Mae wedi’n huno ni gyda’n gilydd. Mae’r wal o gasineb oedd yn ein gwahanu ni wedi cael ei chwalu ganddo! Wrth farw ar y groes mae wedi delio gyda’r ffens oedd yn eich cau chi allan, sef holl ofynion y Gyfraith Iddewig a’i rheolau. Gwnaeth hyn er mwyn dod â ni i berthynas iawn â’n gilydd, a chreu un ddynoliaeth newydd allan o’r ddau grŵp o bobl. Mae’r ddau yn dod yn un corff sy’n cael ei gymodi gyda Duw drwy beth wnaeth e ar y groes. Dyna sut daeth â’r casineb rhyngon ni i ben. Daeth i gyhoeddi’r newyddion da am heddwch i chi o genhedloedd eraill oedd yn ‘bell oddi wrtho’, a heddwch i ni’r Iddewon oedd yn ‘agos’. Bellach, o achos beth wnaeth Iesu y Meseia mae’r ddau grŵp gyda’i gilydd yn gallu closio at Dduw y Tad drwy’r un Ysbryd Glân.
Effesiaid 2:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd ef yw ein heddwch ni. Gwnaeth y ddau, yr Iddewon a'r Cenhedloedd, yn un, wedi chwalu trwy ei gnawd ei hun y canolfur o elyniaeth oedd yn eu gwahanu. Dirymodd y Gyfraith, a'i gorchmynion a'i hordeiniadau. Ac felly, i wneud heddwch, creodd o'r ddau un ddynoliaeth newydd ynddo ef ei hun, er mwyn cymodi'r ddau â Duw, mewn un corff, trwy'r groes; trwyddi hi fe laddodd yr elyniaeth. Fe ddaeth, a phregethu heddwch i chwi y rhai pell, a heddwch hefyd i'r rhai agos. Oherwydd trwyddo ef y mae gennym ni ein dau ffordd i ddod, mewn un Ysbryd, at y Tad.
Effesiaid 2:14-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni: Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch; Ac fel y cymodai’r ddau â Duw yn un corff trwy’r groes, wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi. Ac efe a ddaeth, ac a bregethodd dangnefedd i chwi’r rhai pell, ac i’r rhai agos. Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad.