Effesiaid 2:14-15
Effesiaid 2:14-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd ef yw ein heddwch ni. Gwnaeth y ddau, yr Iddewon a'r Cenhedloedd, yn un, wedi chwalu trwy ei gnawd ei hun y canolfur o elyniaeth oedd yn eu gwahanu. Dirymodd y Gyfraith, a'i gorchmynion a'i hordeiniadau. Ac felly, i wneud heddwch, creodd o'r ddau un ddynoliaeth newydd ynddo ef ei hun
Effesiaid 2:14-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ac ydy, mae Iesu’n gwneud y berthynas rhyngon ni a’n gilydd yn iawn hefyd – ni’r Iddewon a chi sydd o genhedloedd eraill. Mae wedi’n huno ni gyda’n gilydd. Mae’r wal o gasineb oedd yn ein gwahanu ni wedi cael ei chwalu ganddo! Wrth farw ar y groes mae wedi delio gyda’r ffens oedd yn eich cau chi allan, sef holl ofynion y Gyfraith Iddewig a’i rheolau. Gwnaeth hyn er mwyn dod â ni i berthynas iawn â’n gilydd, a chreu un ddynoliaeth newydd allan o’r ddau grŵp o bobl.
Effesiaid 2:14-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni: Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch