Effesiaid 2:1-5
Effesiaid 2:1-5 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ar un adeg roeddech chi’n farw’n ysbrydol – am eich bod chi wedi gwrthryfela a phechu yn erbyn Duw. Roeddech chi’n byw yr un fath â phawb arall, yn dilyn ffordd y byd. Roeddech chi’n ufuddhau i Satan, tywysog teyrnas yr awyr – sef y pŵer ysbrydol sydd ar waith ym mywydau pawb sy’n anufudd i Dduw. Roedden ni i gyd felly ar un adeg. Roedden ni’n byw i blesio’r hunan pechadurus a gwneud beth bynnag oedd ein ffansi. Dyna oedd ein natur ni, ac roedden ni fel pawb arall yn haeddu cael ein cosbi gan Dduw. Ond mae Duw mor anhygoel o drugarog! Mae wedi’n caru ni gymaint! Mae wedi rhoi bywyd i ni gyda’r Meseia – ie, ni oedd yn farw’n ysbrydol am ein bod wedi gwrthryfela yn ei erbyn. Y ffaith fod Duw mor hael ydy’r unig reswm pam dŷn ni wedi’n hachub!
Effesiaid 2:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bu adeg pan oeddech chwithau yn feirw yn eich camweddau a'ch pechodau. Yr oeddech yn byw yn ôl ffordd y byd hwn, mewn ufudd-dod i dywysog galluoedd yr awyr, yr ysbryd sydd yn awr ar waith yn y rhai sy'n anufudd i Dduw. Ymhlith y rhai hynny yr oeddem ninnau i gyd unwaith, yn byw yn ôl ein chwantau dynol ac yn porthi dymuniadau'r cnawd a'r synhwyrau; yr oeddem wrth natur, fel pawb arall, yn gorwedd dan ddigofaint Duw. Ond gan mor gyfoethog yw Duw yn ei drugaredd, a chan fod ei gariad tuag atom mor fawr, fe'n gwnaeth ni, ni oedd yn feirw yn ein camweddau, yn fyw gyda Christ; trwy ras yr ydych wedi eich achub.
Effesiaid 2:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddech feirw mewn camweddau a phechodau; Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ôl helynt y byd hwn, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yr awron yn gweithio ym mhlant anufudd-dod; Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a’r meddyliau; ac yr oeddem ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megis eraill. Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni, Ie, pan oeddem feirw mewn camweddau, a’n cydfywhaodd ni gyda Christ, (trwy ras yr ydych yn gadwedig;)